Newydd dderbyn copi o lyfr hefo’r teitl “Gwreiddiau Canu Roc Cymraeg”. Cafodd ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Mei ‘nôl yn 1981 am y pris mawr o £1, er i mi dalu ychydig mwy na hynny am gopi ail law! Fe seilwyd y llyfr ar gyfres o sgyrsiau a gynhyrchwyd gan Eurof Williams ar gyfer BBC RadioParhau i ddarllen “Gwreiddiau”
Archifau Categori: Uncategorized
Ciwdod
Cangen Gymraeg o Community Music Wales/Cerdd Gymunedol Cymru yw Ciwdod. Fe’i sefydlwyd yn 2004 er mwyn cefnogi, hyfforddi a recordio artistiaid Cymraeg eu hiaith. Cyn hynny, ‘nol yn 1989, daeth criw o gerddorion o Gaerdydd i gyfarfod cyhoeddus, a sefydlwyd Cardiff Community Music. Cafodd ei gofrestru fel elusen yn 1991, a newid ei enw iParhau i ddarllen “Ciwdod”
Pendragon Dreaming
Dan Awyr Dde Grwp Cymraeg eu hiaith o Melbourne, talaith Victoria, Awstralia yw Pendragon Dreaming, sy’n defnyddio cyfuniadau o’r delyn, ffliwt, allweddellau, ffidil, gitar acwstig, bâs acwstig ac wrth gwrs didgeridoo Awstraliaidd. Maent yn defnyddio arddull canu traddodiadol Cymreig i greu cymysgedd amrywiol o seiniau a rhiddmau. Fe ddechreuodd gwreiddiau y grwp ddipyn dros ddegawdParhau i ddarllen “Pendragon Dreaming”
Charli Britton
1952 – 2021 Fe gollwyd un arall o sêr y byd pop Cymraeg, Charli Britton, fu’n enwog fel drymiwr a dylunydd graffeg. Bu farw’n 68 oed. Fel drymiwr gydag Edward H Dafis yr adnabyddwyd ef orau, ond fe fu’n perfformio gyda nifer o artistiaid a grwpiau eraill, fel Ac Eraill, Dafydd Iwan ac Injaroc. YmddangosoddParhau i ddarllen “Charli Britton”
Richard Jones
1956-2021 Ychydig dros fis ar ôl colli ei frawd Wyn, bu farw y canwr Richard Jones. Bu iddynt gychwyn y grwp Ail Symudiad yn 1978 yn Aberteifi ac i bob pwrpas dod a’r byd canu pop Cymraeg i Aberteifi. Sefydlodd y ddau y cwmni recordiau Fflach yn 1981, sydd wedi parhau hyd heddiw. Cwmni acParhau i ddarllen “Richard Jones”
Llun-Ddisgiau
Dwi wedi sôn eisoes am y llun-ddisg mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg, sef Dagrau’n Dechrau Disgyn gan Ray Jones. Erbyn hyn, mae dwy arall wedi’w cyhoeddi gan R-Bennig ar eu is-label SWSH. Y cyntaf ohonynt yw’r ail i’w rhyddhau ar y label SWSH, sef trac na chafodd ei ryddhau o’r blaen – Ysgafnach Na DwrParhau i ddarllen “Llun-Ddisgiau”
Wyn Lewis Jones
1959-2021 Trist iawn oedd clywed eto heddiw am golli un arall o enwogion y byd pop Cymreig, Wyn Jones. Roedd yn adnabyddus ers yr 80au fel gitarydd bas y grwp Ail Symudiad a sefydlwyd yn 1978, gyda’i frawd Richard. Roedd hefyd yn weithgar gyda’r label recordio Fflach, fel cynhyrchydd, trefnydd a pheiriannydd ers 1981. YnParhau i ddarllen “Wyn Lewis Jones”
David R Edwards
1964-2021 Trist iawn clywed am golli David R Edwards, sef “Dave Datblygu”, wedi afiechyd. Roedd yn 56 oed, ac yn ôl datganiad y gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo Pyst ar Facebook, bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos wedi “dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd, gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.” Hefyd,Parhau i ddarllen “David R Edwards”
Chansons Galloises
Record Gymraeg o Canada sydd gen i dan sylw y tro hwn, gan y gantores glasurol Shannon Mercer sy’n hannu o Quebec ac Ottawa. Cryno-ddisg gyda’r teitl “Wales – The Land Of Song/Chansons gallois.” Mae hi o dras Cymreig – ymfudodd ei thad a mam i Ganada o dde Cymru yn 1967 gyda thri oParhau i ddarllen “Chansons Galloises”
Côr Merched Geelong
Wrth i mi brynu ychydig o recordiau ar gyfer y casgliad yn ddiweddar, cefais gopi o gryno-ddisg gan gôr o Gymry yn Awstralia. Mae’r “Geelong Welsh Ladies Choir” yn hannu o ddinas Geelong, ger Melbourne yn nhalaith Victoria yn Awstralia. Dinas o rhyw chwarter miliwn o bobl, rhyw 45 milltir o Melbourne. Fe ffurfiwyd yParhau i ddarllen “Côr Merched Geelong”
