Wedi anturiaethau a phoblogrwydd y postmon 26 oed o ardal Glasgow, Nathan Evans, ar TikTok yn canu shanti, neu cân morwr, toc wedi’r Nadolig, aeth Cymro o’r enw Gethin Griffiths ati i wneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Llwyddodd yr Albanwr i boblogeiddio shantis, neu caneuon y morwyr ymhlith ei ddilynwyr byd-eang, felly gyda chymorthParhau i ddarllen “Caneuon Y Morwyr-Shantis”
Archifau Categori: Uncategorized
Rosser Electronics
Er nad ydym efallai yn or-ymwybodol o’r enw hwn, roedd y cwmni a’r peiriannydd Doug Rosser yn eithaf canolog i ddyddiau cynnar y sîn recordiau Cymraeg o’r ’50au i’r ’70au. Mae’r stori yn cychwyn yn 1956, pan aeth John Edwards o Bontardawe (Recordiau Teldisc a Qualiton) a Doug Rosser draw i Sweden a phrynu offerParhau i ddarllen “Rosser Electronics”
Pendyrus
Digwydd sylwi ar nodyn ar gefn clawr y record “The Singing Hills” gan Gôr Meibion Pendyrus o 1963 (label Qualiton, rhif QUA 12006) am darddiad yr enw “Pendyrus”. Mae’n debyg nad oedd yna dref na phentref adeg hynny o’r enw Pendyrus, a bod hanes sut y dewiswyd yr enw ar y côr yn un diddorolParhau i ddarllen “Pendyrus”
Cân I Gymru
Mae Mathew Hywel Rees wedi bod yn brysur iawn yn golygu tudalennau Cân I Gymru ar y Wicipedia Cymraeg. Hen bryd bod y wybodaeth a’r hanes ar gof a chadw cyhoeddus, gan bod cryn dipyn o hanes diddorol i’r gystadleuaeth ers iddo ddechrau ‘nôl yn 1969 – dros 50 mlynedd erbyn hyn. Mae Mathew ynParhau i ddarllen “Cân I Gymru”
Prisiau Recordiau Cymraeg
Erbyn hyn, mae llawer o recordiau Cymraeg yn gwerthu am brisiau fyddech chi’n meddwl braidd yn hurt. ‘Rydym i gyd yn dueddol o feddwl am record Y Blew (Maes B) fel YR enghraifft o record Gymraeg bring casgladwy, ond na, mae llawer yn gwerthu am fwy na hyn, i gasglwyr tramor gan fwyaf. Y sbardunParhau i ddarllen “Prisiau Recordiau Cymraeg”
Brân Mewn Bocs
Cyn i neb weiddi “creulondeb i adar”, ga’i bwyntio allan mai sôn am gasgliad o recordiau y grwp Brân o’r saith-degau sydd gen i dan sylw yma. Grwp roc o’r ’70au oedd Brân, a recordiodd ambell i gân werin hefyd. Fe aeth y grwp drwy ambell i “line-up” yn eu hamser, tan iddynt ddod iParhau i ddarllen “Brân Mewn Bocs”
Ffilis
Bum yn ffodus i daro ar draws y caset eithaf prin hwn ychydig wythnosau yn ôl fel rhan o gasgliad bach o recordiau a chasetiau a brynais adeg hynny. Dwi heb weld y caset arbennig hwn na’r artist, Ffilis Huws (a anwyd yn Phyllis Hughes), o’r blaen. Caset a gyhoeddwyd ar label D@Music o Lannon,Parhau i ddarllen “Ffilis”
Trons Y Ficar
Nid erthygl am ddillad isaf dynion, ond yn hytrach am label recordiau grwp Y Ficar o ardal Y Felinheli yng Ngwynedd. Fe ffurfiwyd y label yn unswydd i ryddhau tair o recordiau a chasetiau y grwp rhwng 1983 ac 1985. TRONS 001 – sengl, 1983 “5 Diwrnod”. Recordiwyd yn Stiwdio’r Bwthyn, Ystradgynlais. Cynhyrchydd Richard Morris.OchrParhau i ddarllen “Trons Y Ficar”
Disgyddiaeth 2020
O’r diwedd, rydw i wedi cael amser i ddiweddaru y Ddisgyddiaeth Gymraeg, gyda nifer o ychwanegiadau ac ambell i gywiriad. Dwi’n ddiolchgar i nifer o bobl am gynnig mwy o wybodaeth a chywiro ambell i beth. Bellach, mae’n dechrau edrych fel dogfen gynhwysfawr o’r byd recordiau Cymraeg, yn enwedig y byd recordiau feinyl a chasetiau.Parhau i ddarllen “Disgyddiaeth 2020”
YouTube
Wrth gwrs, mae yna nifer fawr iawn o ganeuon a pherfformiadau Cymraeg i’w gweld ar YouTube. Gwelais drydariad diddorol gan Yws Gwynedd lle y bu’n ceisio gweithio allan pa gân Gymraeg sydd wedi cael ei gwylio fwyaf ar YouTube a sut ffigurau sydd yna i ganeuon Cymraeg ar y cyfrwng hwnnw a chreu rhyw siartParhau i ddarllen “YouTube”
