Erthygl ddiddorol iawn, lle mae Rhys Lloyd Jones ar BBC Cymru Fyw yn trafod rhai o’r recordiau Cymraeg sy’n gwerthu am brisiau anhygoel y dyddiau hyn. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58016283
Tagio Archifau: casglu
Prisiau Cryno Ddisgiau
Wedi bod yn pori drwy gwefannau fel Discogs ddoe a heddiw, ac od yw sylwi bod prisiau lot o gryno-ddisgiau dipyn drytach yn ail law nag yn newydd sbon er eu bod dal ar gael! Mae’n fwyaf amlwg ar nifer o gryno-ddisgiau Sain a Fflach – os yw pris yr eitem yr ydych yn chwilioParhau i ddarllen “Prisiau Cryno Ddisgiau”
Tramor
Er fod y blog hwn yn cael ei ysgrifennu yn uniaith Gymraeg, diddorol ydi cael negeseuon gan gasglwyr recordiau dramor o bryd i’w gilydd. Gan fod peth cyfieithu ar y blog hwn, mae’n galluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddarllen. Dros y penwythnos, cefais sgwrs ebost hefo casglwr recordiau yn Tel Aviv, Israel,Parhau i ddarllen “Tramor”
Siopau Elusen
Mae yna siopau elusen ar bron bob stryd fawr y dyddiau yma. Ga’i ddweud cyfrinach fach wrthoch? Maent yn lefydd ardderchog i ffeindio recordiau a chryno-ddisgiau ail law Cymraeg! Dwi wedi treulio ambell i fore neu brynhawn bach difyr yn chwilota drwy silffoedd a bocsus o recordiau mewn siopau elusen ac ail law yn trioParhau i ddarllen “Siopau Elusen”
Discogs
Dyma wefan sy’n nefoedd i gasglwyr recordiau. Yn llawn gwybodaeth, a recordiau o bob math ar werth. Gan gynnwys nifer o recordiau Cymraeg. Yn hytrach na gwerthu’r recordiau eu hunain, mae Discogs yn gweithredu fel lle masnach, lle gall unigolion a chwmniau brynu a gwerthu recordiau. Mae hefyd yn storfa helaeth o wybodaeth am recordiauParhau i ddarllen “Discogs”
