Semtexx

Is-label o gwmni Fflach, a sefydlwyd yn 1992 i ryddhau albymau pop a roc Cymraeg. Mewn ffordd, rhagflaenydd y label Rasp a sefydlwyd gan Fflach yn 2001. Erbyn 1992, roedd gwaith Fflach yn prysuro ac yn ehangu, a roeddynt wedi apwyntio rhai staff newydd i’r swyddfa yn Aberteifi. Yn ôl Richard a Wyn Jones ynParhau i ddarllen “Semtexx”

Wyn Lewis Jones

1959-2021 Trist iawn oedd clywed eto heddiw am golli un arall o enwogion y byd pop Cymreig, Wyn Jones. Roedd yn adnabyddus ers yr 80au fel gitarydd bas y grwp Ail Symudiad a sefydlwyd yn 1978, gyda’i frawd Richard. Roedd hefyd yn weithgar gyda’r label recordio Fflach, fel cynhyrchydd, trefnydd a pheiriannydd ers 1981. YnParhau i ddarllen “Wyn Lewis Jones”

Derec Brown

‘Dwi wedi bod yn gwrando ar gryno ddisg “Derec Brown – Goreuon” heddiw (Fflach CD290H, 2005). Yn y nodiadau sydd ar y llyfryn clawr y CD, mae yna restr o recordiau Derec Brown dros y blynyddoedd, a mae hyd y rhestr yn gwneud i mi sylweddoli maint cyfraniad Derec Brown i’r byd pop a rocParhau i ddarllen “Derec Brown”

Fflach

Cwmni recordiau Richard a Wyn Jones o’r grwp Ail Symudiad, yn Aberteifi. Ffurfiwyd y cwmni yn 1981 a’r record gyntaf oedd Ail Symudiad a “Twristiaid Yn Y Dre”, a ddilynwyd gan ddwy record arall gan Ail Symudiad (“Geiriau” a “Garej Paradwys”), ac yna yn 1982 y record gyntaf i gynnwys caneuon gan grwpiau eraill, sefParhau i ddarllen “Fflach”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni