Newydd dderbyn copi o lyfr hefo’r teitl “Gwreiddiau Canu Roc Cymraeg”. Cafodd ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Mei ‘nôl yn 1981 am y pris mawr o £1, er i mi dalu ychydig mwy na hynny am gopi ail law! Fe seilwyd y llyfr ar gyfres o sgyrsiau a gynhyrchwyd gan Eurof Williams ar gyfer BBC RadioParhau i ddarllen “Gwreiddiau”
Tagio Archifau: Meic Stevens
Prisiau Recordiau Cymraeg #2
Yn dilyn sylw gan Mathonwy Rhys ar yr erthygl am brisiau recordiau Cymraeg, mi es i ati i ymchwilio ymhellach a ffeindio bod copïau trwyddedig (ac weithiau copïau answyddogol) o recordiau prin Cymraeg ar gael ar safleoedd gwerthu recordiau fel Discogs. Yn aml, mae y rhain wedi’w trwyddedu i’w gwerthu dros y dwr, ond osParhau i ddarllen “Prisiau Recordiau Cymraeg #2”
Dic Penderyn
Record brin iawn o 1978 wedi’w hychwanegu i’r casgliad yn ddiweddar (diolch yn fawr i Tomos Gwyn).. Rhyddhawyd y record sengl “Dic Penderyn” gan Theatr Yr Ymylon yn 1978, i gyd-fynd â’r opera roc Dic Penderyn flwyddyn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd. Ceir dwy gân ar y record sengl hon, sef “Bach Bach” gan Meic Stevens,Parhau i ddarllen “Dic Penderyn”
Llyfr Heather
Wedi i mi sôn am lyfr Gerain Jarman yn y post dwythaf, be well na sôn am lyfr Heather Jones y tro hwn. “Gwrando Ar Fy Nghân-Heather Jones” yw’r teitl. Cyhoeddwyd y llyfr gan Wasg Y Dref Wen yn 2007. Mae’r llyfr yn dilyn hanes Heather fel plentyn, ei phrofiadau fel mam ifanc a hanesParhau i ddarllen “Llyfr Heather”
Llyfr Jarman
Mae fy mrawd wedi dechrau darllen llyfr am Geraint Jarman, a llyfr diddorol ydi o hefyd. “Twrw Jarman” ydi’r teitl. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2011. Mae’r llyfr yn cychwyn hefo hanes teulu’r Jarmans, ffoaduriaid Protestanaidd o wlad Belg lle’r oedd Catholigion mewn grym, i Garno yng Nghymru a hanes ei daid a siop yParhau i ddarllen “Llyfr Jarman”
Wren – Dryw
Weithiau Dryw, weithiau Wren. Sefydlwyd y cwmni recordiau yma fel estyniad o gwmni cyhoeddi Llyfrau’r Dryw, Llandybie, gyda Dennis Charles Rees (“Den The Wren”) wrth lyw y cwmni recordiau. Roedd Dennis Rees yn gweithio i Alun Talfan Davies QC fel rheolwr Llyfrau’r Dryw cyn cymeryd rheolaeth ar adain recordiau’r cwmni. Roedd ganddynt stiwdio recordio ynParhau i ddarllen “Wren – Dryw”
Meic Stevens, Disques Festival.
Ychydig ar ôl rhyddhau ei record hir Gwymon ar label Dryw (WRL 536) yn 1972, fe aeth Meic Stevens i fyw yn Llydaw am nifer o flynyddoedd. Yn 1975, fe ryddhaodd record sengl ar y label Ffrengig, Festival, a ryddhaodd gryn dipyn o recordiau Ffrangeg a Saesneg yn Ffrainc a Gwlad Belg. Dwy gân oeddParhau i ddarllen “Meic Stevens, Disques Festival.”
