Rosser Electronics

Er nad ydym efallai yn or-ymwybodol o’r enw hwn, roedd y cwmni a’r peiriannydd Doug Rosser yn eithaf canolog i ddyddiau cynnar y sîn recordiau Cymraeg o’r ’50au i’r ’70au. Mae’r stori yn cychwyn yn 1956, pan aeth John Edwards o Bontardawe (Recordiau Teldisc a Qualiton) a Doug Rosser draw i Sweden a phrynu offerParhau i ddarllen “Rosser Electronics”

David Lloyd

Siawns ein bod i gyd yn gwybod am y tenor enwog, David Lloyd. Neu David George Lloyd a rhoi ei enw llawn iddo. ‘Roedd yn un o’r tenoriaid cyntaf o Gymru i geisio cynulleidfa tu allan i Gymru, yn y byd opera, oratorio a recordio. Ond yng Nghymru, ‘roedd yn enwog hefyd am ganu emynauParhau i ddarllen “David Lloyd”

Qualiton

Cwmni recordiau sefydlwyd gan John Edwards yn 1953 a ryddhaodd recordiau yn y 50au a’r 60au (o tua 1958 tan 1965, er y gwelir ambell record ar y label tan yn hwyrach yn y 60au). Y cwmni oedd yn berchen ar y label oedd Cwaliton Records (Wales) Ltd o Bontardawe. Cyhoeddodd y cwmni dros 110Parhau i ddarllen “Qualiton”

Gwahanol Fersiynau

Wrth gasglu hen recordiau, buan iawn y dewch i sylweddoli y ceir mwy nag un fersiwn o ambell i record. Ar y dechrau, roeddwn yn anelu cael un copi o gymaint o recordiau Cymraeg ag y gallwn. Dros amser deuais i sylweddoli bod ambell i fersiwn o rai recordiau. Er Enghraifft, edrychwch ar recordiau 7Parhau i ddarllen “Gwahanol Fersiynau”

Welsh Teldisc

John Edwards (1905-1966), pianydd o Abertawe, oedd sylfaenydd Cymdeithas Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig (Guild for the Promotion of Welsh Music) yn 1955. Roedd ei wraig Olwen yn berchen eiddo ym Mhontardawe, Morganwg. Sefydlodd John Edwards Welsh Teldisc Records Ltd yn 1962, gan ryddhau recordiau feinyl yn y 60au a’r 70au gan artistiaid Cymraeg fel Dafydd Iwan,Parhau i ddarllen “Welsh Teldisc”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni