Dod ar draws record fach ddiddorol gan Paul Henry, pencampwr harmonica (organ gêg).
Hyd y gwn i, dyma ei unig record ar label Gymreig – Dryw WRE 1153, sef EP o 1974.

Yn ol y nodiadau ar y record, ganwyd Paul Henry yn Abertawe yn 1952, a graddio hefo B.A. mewn Saesneg a Hanes yn Wolverhampton. Enillodd yr “All Britain Modern Rhythm Harmonica Championship” am ddwy flynedd wedi cychwyn y bencampwriaeth yn 1972. Cyn i neb feddwl hynny, nid yr un person a’r actor o’r un enw o Coronation Street gynt!
Roedd yn gyfaill a disgybl i’r chwaraewr harmonica enwog, Larry Adler, Americanwr fu’n gweithio a recordio llawer ym Mhrydain. Rhoddodd neges ar glawr y record i ddweud:
“Paul is a pupil and friend of mine and I am delighted with the progress that he has made. I have known for a very long time that he is ready for professional engagements and I hope that the record is a success.”
Gwn ei fod wedi recordio llawer drwy ei fywyd, ond dim llawer yn y byd recordiau Cymraeg hyd y gwn i. Dwi wedi taro ar draws cofnod ei fod wedi recordio rhywbeth hefo Mal Pope – rhywun yn gwybod mwy o’i hanes tybed?
Mae pedair cân offerynol ar y record, hefo Brian Hall ar yr organ, Wayne Warlow ar y bâs, a Dave Gibson ar y drymiau:
- Plaisir D’Amour
- Summer Time
- All Over The World
- Rock Around The Clock
Mae swn da i’r record hon o’r cyfnod – dim cofnod o lle gafodd ei recordio ar wahan i gyfeiriad at “Lyntone Recordings” ar label y record ei hun.


