
John Edwards (1905-1966), pianydd o Abertawe, oedd sylfaenydd Cymdeithas Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig (Guild for the Promotion of Welsh Music) yn 1955. Roedd ei wraig Olwen yn berchen eiddo ym Mhontardawe, Morganwg.
Sefydlodd John Edwards Welsh Teldisc Records Ltd yn 1962, gan ryddhau recordiau feinyl yn y 60au a’r 70au gan artistiaid Cymraeg fel Dafydd Iwan, Triawd Y Coleg a Jac a Wil a nifer eraill. Bu’n gysylltiedig a recordiau Qualiton cyn hynny hefyd.
Is-gwmni oedd Teldisc Evangelical, a ryddhaodd recordiau efengylol yn yr iaith Saesneg yn y 60au.
Bu farw John Edwards yn 1966 yn 61 oed, ac yn 1974 gwerthwyd y cwmni i Gymdeithas Llyfrau Ceredigion, cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg, a wnaeth barhau i gyhoeddi recordiau tan y 90au. Yn ei dro, daeth Cymdeithas Lyfrau Ceredigion i ben yn 2009 pan brynwyd ef gan Wasg Gomer. Bellach, mae catalog Teldisc ym mherchnogaeth Sain.
Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’r recordiau saith modfedd gyda chloriau llun. O ran rhifo recordiau Teldisc, mae sawl cyfres:
PYC – “Pops Y Cymro”, recordiau pop, EP 7″ (cyhoeddwyd tua 14 o’r rhain o 1965 i 1970)
SEP – cyfres “Teldisc Evangelical”, recordiau 7″ (Saesneg yn bennaf – tua 20 o’r rhain rhwng 1964 a 1966)
SLP – cyfres “Teldisc Evangelical”, recordiau hir.
TEP – Teldisc EP, o’r dechrau tan 1968, rhifau’n cyrraedd TEP 875.
TLP – recordiau hir Teldisc.
WD – senglau 7 modfedd o 1962 tan 1970. Ceir ambell record yn y gyfres “WD” gyda’r enw cwmni “Welshdisc” yn lle “Welsh Teldisc”, sy’n esbonio dewis y llythrennau WD.
Credir mai record olaf y cwmni oedd gan y grwp Awelon Haf – “Daeth Yr Awr”/”Cwm Tawelwch” rhif WD 916, yn 1970.




