Cwmni recordiau Cymraeg byr-hoedlog o ganol y 70au, a sefydlwyd gan Hywel Williams. Gyda chyfeiriad yn Hanner Ffordd, Nantgaredig, Dyfed. Enw masnach y cwmni oedd Afon (Recordiau) Cyf. Rhyddhaodd y cwmni dair o recordiau byr, er fod y drefn rhifo yn awgrym bod un arall wedi’w ystyried os nad wedi’w rhyddhau go iawn. Mae’r drefnParhau i ddarllen “Recordiau Afon”
Archifau Awdur: dilwyn2
Cwmni Lola
Dwi’n ddiolchgar iawn i Gari Melville am yrru mwy o wybodaeth am gasetiau Cwmni Lola, Ystradgynlais. Fe ychwanegaf y wybodaeth i’r Ddisgyddiaeth a diweddaru’r copi ar y wefan cyn hir. LOLAMW001 – Duane Thompson – Not at Home – caset EP (1981)LOLAMW002 – Y Celfi Cam – Profiadau Cyffyrddus Cyfrol 1 – caset EP (1982)LOLAMW003Parhau i ddarllen “Cwmni Lola”
Disciau Dysgu Difyr
Cyfres fer o recordiau saith modfedd addysgiadol ar gyfer plant, gan gwmni Wren o Landybie, sir Gaerfyrddin yn 1967. Cyfres o bump o record-lyfrau oedd hon, gyda chaneuon a llafar a llyfryn yn rhan o’r profiad dysgu yn unigol neu mewn grwp. Nid yw’r drefn rhifo yn gyson, mae rhai â rhifau cyfres Dryw (ynParhau i ddarllen “Disciau Dysgu Difyr”
Beti A’r Gwylliaid Gleision
Cyhoeddodd recordiau Wren ddwy record gan y grwp braidd yn anghyfarwydd hwn. Mae nhw’n recordiau diddorol gan eu bod yn enghraifft prin o grwpiau Cymraeg “bas a drymiau” o’r 60au. ‘Rydym yn eithaf cyfarwydd â record y Blew o 1967 fel enghraifft o grwp cynnar Cymraeg o’r cyfnod, ond hyd yn oed cyn hynny miParhau i ddarllen “Beti A’r Gwylliaid Gleision”
Teyrnged i David Lloyd
Wedi i mi sgwennu am y tenor, David Lloyd yn ddiweddar, mi wnes i daro ar draws record deyrnged i David Lloyd, gan y tenor Cymreig Wynford Evans, a Abertawe. “Teyrnged i David Lloyd” yw teitl y record a’r caset, a gyhoeddwyd gan Sain yn 1982 (Sain 1246D yw’r record hir, a Sain C846N yw’rParhau i ddarllen “Teyrnged i David Lloyd”
David Lloyd
Siawns ein bod i gyd yn gwybod am y tenor enwog, David Lloyd. Neu David George Lloyd a rhoi ei enw llawn iddo. ‘Roedd yn un o’r tenoriaid cyntaf o Gymru i geisio cynulleidfa tu allan i Gymru, yn y byd opera, oratorio a recordio. Ond yng Nghymru, ‘roedd yn enwog hefyd am ganu emynauParhau i ddarllen “David Lloyd”
Qualiton
Cwmni recordiau sefydlwyd gan John Edwards yn 1953 a ryddhaodd recordiau yn y 50au a’r 60au (o tua 1958 tan 1965, er y gwelir ambell record ar y label tan yn hwyrach yn y 60au). Y cwmni oedd yn berchen ar y label oedd Cwaliton Records (Wales) Ltd o Bontardawe. Cyhoeddodd y cwmni dros 110Parhau i ddarllen “Qualiton”
Gwahanol Fersiynau
Wrth gasglu hen recordiau, buan iawn y dewch i sylweddoli y ceir mwy nag un fersiwn o ambell i record. Ar y dechrau, roeddwn yn anelu cael un copi o gymaint o recordiau Cymraeg ag y gallwn. Dros amser deuais i sylweddoli bod ambell i fersiwn o rai recordiau. Er Enghraifft, edrychwch ar recordiau 7Parhau i ddarllen “Gwahanol Fersiynau”
Gethin Jet
Mae recordiau R-Bennig wedi lansio is-label newydd hwylus, sef Recordiau Sâl. Un o nodweddion y label newydd mae’n debyg yw fod pob deunydd am ddod mewn bag chwdu (heb ei ddefnyddio, gobeithio…). Gethin Jet yw’r artist cyntaf ar y label, hefo traciau am gwmni hedfan Easyjet. Ar y traciau, mae’r cymeriad (aelod o staff EasyjetParhau i ddarllen “Gethin Jet”
Cronfa Lawnsio 2020
Er nad ydi hyn yn uniongyrchol i’w wneud â chasglu recordiau, diddorol oedd darllen ar wefan Radio Cymru am y Gronfa Lawnsio, sy’n cynnig arian i berfformwyr o Gymru, i’w helpu i ehangu eu cynulleidfa. I ddyfynnu o’r wefan: “Yn rhan o’r cynllun Gorwelion, mae cronfa Lawnsio yn adnodd sy’n helpu artistiaid neu fandiau talentogParhau i ddarllen “Cronfa Lawnsio 2020”
