Ychydig fisoedd yn ôl fe sgwennais am record y Troubadours o’r chwedegau cynnar, gan apelio am rhyw faint mwy o wybodaeth amdanynt.
Ers hynny, daeth ychydig mwy o wybodaeth i law.
Yr enw gwreiddiol oedd y Tumble Troubadours, hefyd clywyd amdanynt fel Y Troubadours neu’r Trwbadors. Fe ffurfiwyd y grwp yn 1947, gyda’r adfywiad cymdeithasol wedi’r rhyfel. Grwp o saith o hogiau, rhai yn löwyr yn yr ardal, rhai yn gyn-filwyr, ddechreuodd ganu i ddiddanu eu hunain a chynnal ychydig o gyngherddau yng nghapeli ardal Y Tymbl. Mi fyddai’r grwp yn dal i fynd mewn rhyw fodd neu ei gilydd tan tua 1982.
Yr aelodau gwreiddiol oedd Jack Roberts, Jo Morgan, Lynn Roberts, Idwal Phillips, Tom Hughes, Jac Davies a Wil Davies (ie, y Jac a Wil enwog!) gyda Harry Moorhouse yn cyfeilio. Aelodau eraill dros amser oedd Walford Richards, Dilwyn Roderick, Walford Evans, Ernest Evans ac ambell waith merch o’r enw Criselda – fe glywir ei llais ar y record fer yna ar label Qualiton y soniais amdani ychydig fisoedd yn ôl.
Tom Hughes oedd yr arweinydd ar y dechrau, cyn i Lynn Roberts gymeryd yr awennau.
Er fod Jac a Wil yn rhan o’r grwp, fe fyddent hefyd yn perfformio ambell i gân fel deuawd, ac mae’n debyg y byddai’r ffaith bod cynulleidfa’n disgwyl Jac a Wil yn sicrhau cynulleidfa dda i’r Trwbadors! Byddai Y Trwbadors yn cyfuno canu a sgetsus, a ysgrifennwyd gan Gwyn D Evans rhan fwyaf.
Cawsant wahoddiad i deithio i Awstralia gyda’r gantores enwog o Lanelli, Audrey Squires, ond bu’n rhaid gwrthod yn y pen draw gan fod ganddynt oll swyddi i’w cadw!
Byddai’r grwp yn aml yn brysur, a chafwyd cynnig gwaith rheolaidd, ond ni wnaethant droi’n broffesiynol. Buont yn perfformio ar y radio, ac yn teithio i bob cwr o Gymru yn wythnosol. Trueni efallai mai dim ond un record gafwyd gan y grwp.
Daeth cystadleuaeth Cân I Gymru 2021 eleni o Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Oherwydd cyfyngiadau y cyfnod clo, ‘doedd yna ddim cynulleidfa fyw, ond cafwyd cynulleidfa rithiol yn y cefndir, drwy gyfrwng galwadau fideo, gyda rhai yn cael eu holi a thynnu eu coes gan y cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris. Roedd y gystadleuaeth hefyd ar Facebook Live, ac yn bosibl cyfrannu barn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng yr hashnod #CiG2021. Cafodd y gwylwyr bleidleisio ar y ffôn am eu hoff gân.
Cafwyd 96 cân eu hystyried, gyda’r panel yn dewis wyth i fynd trwodd i’r rownd derfynol. Y panel oedd:
Osian Huw Williams, cynhyrchydd a canwr y band Candelas; Delyth Jenkins, o’r grwp gwerin Calan; Tara Bethan, actores a chantores; a’r canwr Huw Chiswell. Delyth yn dod a’i gwybodaeth a phrofiad o’r byd canu gwerin, Tara a’i phrofiad o’r byd adloniant, ac Osian a Huw fel cyn-enillwyr Cân i Gymru.
Morgan Elwy Williams ganodd y gân fuddugol, sef “Bach O Hwne”. Mae Morgan Elwy yn dod o Tan Y Fron, ger pentref Llansannan yn Sir Conwy. Astudiodd ym Manceinion cyn mynd i weithio fel athro Ffiseg rhan amser yn Llundain, lle mae’n byw hefo’i gariad, Mared. Mae’n gyfarwydd i ni eisoes fel aelod o fand Y Trwbz, gyda Jacob Elwy a Mared Williams.
Clawr “Aur, Du A Gwyn”
Yr haf dwaethaf, bu’n arbrofi hefo rhiddmau cerddoriaeth reggae, sy’n debyg o arwain at albwm o ganeuon reggae Cymraeg ymhen ychydig wythnosau. Mae eisoes wedi rhyddhau un sengl “Aur Du A Gwyn” eleni ar label Bryn Rock Records, y gellir ei chlywed ar y platfformau ffrydio fel Spotify.
Fe gawsom glywed yn ystod y rhaglen fod Morgan wedi cyfrannu aren i’w chwaer Mali y llynedd – anrheg Nadolig ardderchog i’w chwaer, fel y dywedodd Morgan ar y rhaglen. Felly bydd enill y gystadleuaeth hon yn siwr o ychwanegu at hapusrwydd y teulu.
Cân reggae hapus, ysgafn, fachog yw Bach O Hwne, y byddwch yn siwr o’i chanu am weddill y flwyddyn (chwilen clust i nifer mae’n siwr – dwi’n methu stopio clywed swn hapus, syml y gân!). Fel y byddech yn ei ddisgwyl, ‘roedd llawer o bobl am wybod beth yn union oedd yr ‘hwne’ – yn ôl yr awdur, gall olygu beth bynnag sy’n gwneud chi’n hapus, beth bynnag y mynwch mewn gwirionedd. Dyma ddyfyniad o wefan S4C am gefndir y gân:
“Mae neges y gân yn weddol syml. Mae elfen o gyfeillgarwch yn y geiriau, a phan ddaw’r amser i gymdeithasu eto, fe fyddwn yn gallu rhannu ein cariad a gofalu am ein gilydd unwaith eto. Rydym hefyd yn rhannu’r pethau cyffredinol megis arian a ffonau symudol ac unrhyw beth ble mae ffrindiau yn y cwestiwn, rydym o hyd yn rhoi ‘Bach o Hwne’ pob tro.”
Mae’r gân yn Gân Yr Wythnos ar Radio Cymru yr wythnos hon. Wrth gwrs, bu’n rhaid i Aled Huws ofyn yn ddireudus i’w wrandawyr “A phwy gafodd dipyn bach o hwne dros y penwythnos?” ar ddechrau ei raglen heddiw!
Rhaid dweud fy mod wedi mwynhau y gystadleuaeth yn fawr iawn eleni. ‘Roedd tyna amrywiaeth mawr o ganeuon sy’n dangos cyfoeth a safon y talent cerddorol sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd.
O ffatri ffrwyth dychymyg Johnny R a Recordiau R-Bennig y daw y casgliad hwn o un ar bymtheg o oreuon y label o 2020. “Risin'” yw y teitl, a mae’n cynnwys amrywiaeth eang o ganeuon ac arddulliau rhwng yr holl draciau ar y cryno-ddisg.
Mae’r cd yn cynnwys traciau gan unigolion a grwpiau, rhai hefo enwau cyfarwydd, rhai llai cyfarwydd. Rhai yn hunan-arall i Johnny R ei hun, cymeriad â chyfoeth dychymyg unigryw ac enfawr.
Ceir traciau gan R-Bennig, Gwenamin, Sinema Ethania, Titchypeth, Y Ddolen a Black Moriah. Mae yna draciau sy’n mynd i gyfeiriad hip-hop, dawns a tecno yn ogystal a dipyn o gerddoriaeth arbrofol nodweddiadol y label. Ceir y cysylltiad â Israel (Bar Kalimi) yn y gân gyntaf, a symud mor bell a Reel Gwerin yn yn un o’r caneuon eraill.
Dwi wedi son eisoes ar y blog yma mor ddiddorol a gwahanol y mae cynnyrch label R-Bennig yn gallu bod. ‘Does ‘na ddim llawer o labeli Cymraeg yn cynhyrchu deunydd tebyg i be gawn ni gan R-Bennig. Os am rhywbeth tra gwahanol i’r arfer, ewch i r-bennig.bandcamp.com i weld beth sydd gan y cwmni i’w gynnig. Wrth sgwennu hyn ganol mis Chwefror, mi oedd 11 o bethau wedi eu rhyddhau yn barod eleni. Gallwch wrando ar draciau cyn prynu – deunydd ar gael yn ddigidol a rhai ar gaset neu CD. Bob hyn a hyn, mae cynnig arbennig lle gallwch brynu casgliad cyfan ac arbed arian wrth wneud.
Un gwyn fach sydd gen i yw nad yw stwff y label ar gael yn hir iawn, eisoes mae stwff 2020 wedi mynd o’r wefan, er efallai mai’r rheswm am hyn yw i ganiatau i’r cwmni ryddhau casgliadau fel “Risin'”
Eisoes eleni, cafwyd recordiau gan R-bennig ei hun, a stwff gan International Dole Boy, DJ Clwyd, Y Ddolen ac Unkown Acetate. Yn ogystal, cafwyd un gan y canwr Ritienne o ynys Malta. Mae yna gysylltiadau rhyngwladol rhwng bod Johnny wedi gweithio fel DJ mewn sawl gwlad, a bod dilyniant gan y label ar draws Ewrop ac ymhellach – dwi’n gwybod achos bod rhai yn cysylltu hefo fi drwy’r Blog Recordiau Cymraeg o bryd i’w gilydd!
Rhaid dweud nad ydw i yn ffan mawr o rap / hip-hop fel rheol, ond dwi yn gallu gwrando ar, a weithiau mwynhau, stwff R-Bennig, gan ei fod yn dra wahanol i’r rhan fwyaf o recordiau Cymraeg. Mi ydw i wedi tra mwynhau gwrando ar rai o’r traciau ar “Risin'”. Ond yn sicr, hyd yn oed os nad ydych yn ffan mawr o’r math o stwff y mae’r label yn ei ryddhau, dwi’n siwr y bydd pawb yn gallu gwerthfawrogi y cyfoeth dychymyg sydd wedi creu a rhyddhau traciau tebyg i’r stwff sydd ar yr albwm hwn.
Ewch draw i Bandcamp felly, lle gallwch wrando ar y gryno ddisg Risin’ cyn penderfynu prynu. Dim ond £5 yw cost y casgliad fel ffeiliau digidol.
Fe brynais y record hon gan werthwr recordiau yn Illinois, yr Unol Daleithiau. Er archebu ganol mis Tachwedd, newydd gyrraedd mae hi heddiw.
Un o recordiau sengl cynnar Qualiton yw hi – QSP.5008 – o’r chwedegau cynnar. ‘Does dim dyddiad arni, na ‘matrix/runout code’ i’w weld fyddai wedi helpu fi i ddyddio’r record efallai.
Dwy gân sydd ar y record, llai na 2 funud yr un. Unawdydd benywaidd hefo lleisiau dynion, parti neu gôr, yn gefndir i gyfeiliant piano. Dim sôn am enwau aelodau’r grwp, dim ond yr arweinydd, Tom Hughes.
Ar ochr 1, ceir y gân “Y Seren Fach”, cyfieithiad Cymraeg Lynn Roberts o’r gân Saesneg “Catch A Falling Star”, fu’n rhif un olaf i Perry Como yn America yn 1957. Mae’n debyg iddi gyrraedd rhif 9 ym Mhrydain. Cyfansoddwyr y gân Saesneg oedd Paul Vance a Lee Pockriss.
Ar yr ail ochr, fe glywn y gân “Hed Wennol Fach”, sef cyfieithiad Cymraeg Lynn Roberts o’r gân “Sing Little Birdie” a gyfansoddwyd gan Syd Cordell a Stan Butcher a ddaeth yn ail i Brydain yn nghystadleuaeth Eurovision yn 1959, gyda’r ddeuawd gwr a gwraig Pearl Carr a Teddy Johnson yn canu. Cwta munud a chwarter yw’r fersiwn Gymraeg!
Bardd telynegol yw troubadour yn wreiddiol. Cyfansoddwyr a pherfformwyr fyddai’n aml yn crwydro o ardal i ardal i chwarae hen farddoniaeth delynegol Occitan a gychwynodd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg yn Occitania. Ardal o dde Ewrop yn ymestyn ar draws rhannau o Sbaen, Ffrainc a darn bach o’r Eidal.
Ysgwn i os oes rhywun a mwy o wybodaeth am y record a’r grwp? Dwi mor falch o daro ar draws copi o record mor brin wrth gwrs, ond tan rwan wedi methu ffeindio dim mwy o wybodaeth i’w roi ar gof a chadw.
Wedi anturiaethau a phoblogrwydd y postmon 26 oed o ardal Glasgow, Nathan Evans, ar TikTok yn canu shanti, neu cân morwr, toc wedi’r Nadolig, aeth Cymro o’r enw Gethin Griffiths ati i wneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Llwyddodd yr Albanwr i boblogeiddio shantis, neu caneuon y morwyr ymhlith ei ddilynwyr byd-eang, felly gyda chymorth Gwilym Bowen Rhys fe gafwyd y gân “Mae’r Gwynt Yn Deg” i godi diddordeb yn y shantis Cymreig drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Chwiliwch am #SeaShantyTikTokCymraeg ar y Trydar!
Ychydig o gefndir i gân Nathan Evans gyntaf. “Wellerman” oedd y teitl, hen gân werin o Seland Newydd. Daw’r gair Wellerman o hanes helwyr morfilod (neu “whelars” fel hen whelars Môn ers talwm) yn disgwyl cwch cyflenwi cwmni Weller Bros, cwmni hela morfilod o Awstralia fu’n gweithredu ar arfordir deheuol Seland Newydd rhwng tua 1830 a 1840. Caneuon a genid i hwyluso eu gwaith ar fwrdd y llongau hyn ac i basio’r oriau hir ar y môr oedd shanties. Caneuon bachog a hawdd i bawb ymuno yn eu canu.
Er bod hanes hir o Gymry yn gweithio ar yr hen gychod hwylio mawr, yn rhyfeddol ‘does yna fawr o draddodiad o ganu morwrol yn yr iaith Gymraeg – Saesneg neu ieithoedd eraill y cychod a’r cyflogwyr a ddefnyddid hyd yn oed gan y Cymry. Fe es i ati i chwilio am hanes a chasgliadau o’r caneuon hyn a synnu nad oes cymaint a hynny ohonynt.
Caneuon Y Môr
Yn 1985, fe wnaeth Côr Meibion Y Penrhyn ryddhau record hir o’r enw Caneuon Y Môr (Sain 1334D), casgliad o ddwsin o ganeuon a chysylltiadau morwrol, fel Fflat Huw Puw, Rownd Yr Horn a Troi’n Ôl, shanti a wnaed yn boblogaidd gan y Beach Boys ers talwm. Mae’r record wedi bod ar gael ar gaset o’r un enw hefyd (Sain C934).
Wrth borri drwy’r casgliad recordiau, deuais ar draws caset gyda’r teitl “Seiont II – Still Steaming” gan Gyfeillion Seiont II, sef elusen a ffurfiwyd i geisio cadw’r llong garthu (‘dredger’) Seiont II o Gaernarfon ar fynd. Caset i godi arian i’r elusen oedd hwn, gydag 17 o ganeuon morwrol Cymraeg a Saesneg. Rhyddhawyd y caset yn 1995, wedi ei recordio yn Stiwdio Bryn Derwyn, Bethesda, gyda’r cerddorion Kieran Lynch, Geoff Hardman, Dave Palmer, Alf Patrick Lemm, Graeme Hughes a Paul Airey.
Clawr y caset “Seiont II”
Efallai mai’r casgliad gorau o ganeuon y morwyr ydi’r cryno-ddisg “Codi Angor-Caneuon A Shantis J. Glyn Davies” a gyhoeddwyd ar label Sbrigyn Ymborth yn 2013. Cenir y caneuon gan nifer o enwogion y byd canu Cymraeg, fel Al Lewis, Cowbois Rhos Botwnnog, John ac Alun, Harri Richards a Gwyneth Glyn.
Clawr “Codi Angor”
Enw mawr byd caneuon morwyr Cymru oedd J. Glyn Davies, neu’r Athro John Glyn Davies, a oedd yn fardd, yn gyfansoddwr, yn awdur ac yn ysgolhaig.
Cafodd ei eni yn Lerpwl yn 1870. Wrth ymweld â Phen Llyn tra’n blentyn (‘roedd ei daid yn byw yn Edern) fe gymerodd ddiddordeb mewn llongau a’r môr.
Gweithiodd i ragflaenwyr Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, Aberystwyth o 1899 i 1907. Bu’n gweithio yn adran Gelteg Prifysgol Lerpwl o 1907 i 1936 a gweithio i gwmni llongau yn Lerpwl a Seland Newydd am gyfnod.
J. Glyn Davies
Sgwennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cerddi i blant – dechreuodd gyfansoddi ei gerddi ei hun ar gyfer ei blant gan nad oedd llawer o ganeuon o’r fath yn y Gymraeg ar y pryd. Rhai o’i lyfrau oedd “Cerddi Huw Puw” (1923), “Cerddi Robin Goch” (1935) a “Cerddi Portinllaen” (1936).
Clywodd shantis gan ei frawd Frank oedd wedi gweithio ar y môr a dysgu llawer o’r caneuon hyn, felly aeth J Glyn Davies ati i osod geiriau Cymraeg ar yr hen alawon môr. Seiliwyd llawer o’r caneuon yn ei lyfrau ar ganeuon morwyr a glywodd pan yn ifanc. Mae caneuon adnabyddus fel Fflat Huw Puw, Heibio Ynys Sgogwm a Llongau Caernarfon, er enghraifft, yn perthyn iddo.
Priododd â Hettie Williams o’r Cei Newydd, Ceredigion yn 1908. Cyhoeddodd hithau lyfr amdano, dan y teitl “Hanes Bywyd John Glyn Davies, 1870-1953” i sicrhau ei gofio fel tad caneuon shanti Cymraeg.
Er nad ydym efallai yn or-ymwybodol o’r enw hwn, roedd y cwmni a’r peiriannydd Doug Rosser yn eithaf canolog i ddyddiau cynnar y sîn recordiau Cymraeg o’r ’50au i’r ’70au.
Mae’r stori yn cychwyn yn 1956, pan aeth John Edwards o Bontardawe (Recordiau Teldisc a Qualiton) a Doug Rosser draw i Sweden a phrynu offer ar gyfer sefydlu ffatri gwasgu recordiau yn Mhontardawe. Bu’r cwmni hwnnw yn gyfrifol am wasgu llawer o recordiau Cymraeg y cyfnod.
Doug Rosser (chwith) a Dafydd Evans
Ganwyd Douglas Rosser yn 1920. Cafodd ei addysg yn Heath Technical College, Abertawe. Yn 19 oed, fe ymunodd â chwmni Rediffusion a gweithio ar systemau ail-ddarlledu dros wifrau. Bu’n weithiwr radio gyda’r awyrlu yn ystod yr ail ryfel byd, cyn mynd i’r Unol Daleithiau a Canada i weithio ym maes darlledu. Wedi’r rhyfel, sefydlodd ei fusnes ei hun i wneud offer recordio a thorri recordiau. Bu’n helpu creu ffatrioedd recordiau mewn sawl gwlad, gan gynnwys gweithio gyda chwmniau mawr fel EMI. Yn 1958, sefydlodd cwmni recordiau Qualiton gyda John Edwards, a bu’n Gyfarwyddwr Technegol cwmni Qualiton tan gadael a ffurfio cwmni Rosser Electronics Ltd gyda Dafydd Evans (a gyfarfodd tra’n gweithio i Qualiton) yn 1967.
Huw Jones wrth ddesg Rosser Electronics yn Stiwdio Sain – gellir weld enw Rosser Electroneg Cyf dan enw Sain ar gornel uchaf y ddesg.
Cwmni gwneud offer sain a stiwdio oedd Rosser Electronics, gan gynnwys darparu desgiau sain i gwmniau fel stiwdio enwog Rockfield yn Sir Fynwy a stiwdio Mayfield yn Llundain. Bu’r cwmni yn gyfrifol am osod offer darlledu mewn naw stiwdio yng nghanolfan NATO ym Mrwsel, Gwlad Belg (tipyn o gamp i gwmni bach o Gymru hefo dim ond pump o staff ar y pryd!), heb son am ddarparu offer ar gyfer cwmni teledu Harlech (rhagflaenydd HTV), a desg gymysgu stiwdio gyntaf cwmni Sain, Gwernafalau, yn Llandwrog.
Adeilad y BBC yn Abertawe
‘Roedd swyddfa Rosser Electronics yn hen adeilad y BBC yn Heol Alexandra, Abertawe. ‘Roedd ganddynt stiwdio fawr yn yr adeilad hwnnw ar gyfer recordio cerddoriaeth gorawl a chlasurol. Cafwyd dwy stiwdio lai yno yn ogystal.
Bu Doug Rosser ei hun yn beiriannydd cymysgu sain ar nifer o recordiau Cymraeg, gan gynnwys ambell i record ar labeli Gwerin, Harp, Brangwyn a Wren.
Bu Rosser Electronics yn gyfrifol am gyhoeddi rhai recordiau Cymraeg a Chymreig ar eu label eu hunain, gan gynnwys recordiau gan Gôr Plant Cattwg, y Bridgend Police Choir, Côr Meibion Talgarth a’r Cylch, a Chôr Meibion Aberafan. Cafodd rhai o’r recordiau hyn eu hail-gyhoeddi yn ddiweddarach gan gwmni Gwerin yn Llanelli. ‘Does dim dyddiad ar y recordiau hyn, felly dwi ddim yn gwybod yn iawn o ba gyfnod y maent. Mae’r rhan fwyaf o’r recordiau gyda’r rhagddodiad “REL-PR-” (REL=Rosser Electronics Ltd) yn rhifau’r recordiau. Er mai Saesneg yw iaith cloriau’r recordiau fel llawer o recordiau cynnar Cymraeg, ceir caneuon Cymraeg arnynt.
Rhai o recordiau label Rosser Electronics
Adran arall o Rosser Electronics oedd label Brangwyn o 1977 ymlaen. Cyhoeddwyd o leiaf pum record gan gorau meibion Pontarddulais, Llanelli a Phendyrus, a Huw Tregelles Williams yn chwarae’r organ fawr yn Neuadd Y Brangwyn, Abertawe. Erbyn hyn, ‘roedd cyfeiriad y cyhoeddwr lawr fel yr un cyfeiriad a Recordiau Gwerin Llanelli, fu’n cyhoeddi recordiau Cymraeg o tua 1976 ymlaen.
Rhai o recordiau label Brangwyn
Ôl-nodyn: Mae’r enw Rosser Electronics Ltd yn dal i fod, wedi’w gofrestru gyda Thy’r Cwmniau yn 2019 gan gwpl o Port Talbot.
Digwydd sylwi ar nodyn ar gefn clawr y record “The Singing Hills” gan Gôr Meibion Pendyrus o 1963 (label Qualiton, rhif QUA 12006) am darddiad yr enw “Pendyrus”. Mae’n debyg nad oedd yna dref na phentref adeg hynny o’r enw Pendyrus, a bod hanes sut y dewiswyd yr enw ar y côr yn un diddorol iawn, trivia bach diddorol.
Ystyr yr enw fel y byddech yn ddisgwyl efallai yw’r geiriau “pen” a “dyrus” – darn gwyllt o dir neu crib creigiog. Ar y pryd, mae’n debyg nad oedd lle o’r enw Pendyrus fel y cyfryw, er bod adfeilion dwy hen fferm o’r enw Pendyrus Uchaf a Pendyrus Isaf, ger Ferndale a Tylorstown heddiw. Mae’n debyg y cafodd Tylorstown ei enwi ar ôl Alfred Tylor a ddechreuodd glofa yno. Pendyrus oedd enw gwreiddiol y lofa, a newidiodd yn Ferndale 6 a 7 yn ddiweddarach. Y dyddiau hyn mae’n debyg fod y Swyddfa Bost yn derbyn yr enw Pendyrus fel enw Cymraeg ar ardal Tylorstown.
Wedi hel diddordeb gan ddigon o ddynion lleol i ffurfio côr, daethant at ei gilydd ar y 24ain o Fai 1924 yng nghwt undeb y glowyr ger y lofa. Yn ystod y cyfarfod cyntaf hwn, bu tân yng ngorsaf bwer y lofa. Wrth edrych ar y tân, fe sylwodd rhywun ar enw blwch signalau’r rheilffordd gerllaw, gyda’r enw “Pendyris” (wrth gwrs mae ‘i’ ac ‘u’ yn swnio’n debyg yn y de), fe benderfynasant y byddai’r enw hwnnw yn well ar gyfer y côr na “Côr Meibion Tylerstown”, er enghraifft.
Mae hyn i gyd yn dangos mor bwysig yw cadw manion hanes cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg a Chymreig, a’r rhan sydd gan y nodiadau ar recordiau o’r cyfnod i’w chwarae yn hyn. Wrth gwrs, mae casglwyr fel fi yn mwynhau hel mân ffeithiau fel hyn!
Mae Mathew Hywel Rees wedi bod yn brysur iawn yn golygu tudalennau Cân I Gymru ar y Wicipedia Cymraeg. Hen bryd bod y wybodaeth a’r hanes ar gof a chadw cyhoeddus, gan bod cryn dipyn o hanes diddorol i’r gystadleuaeth ers iddo ddechrau ‘nôl yn 1969 – dros 50 mlynedd erbyn hyn.
Mae Mathew yn dipyn o “super-fan” o’r gystadleuaeth mae’n debyg! Ond tynnu coes ai peidio, diolch byth bod pobl fel hyn yn barod i roi amser ac egni i roi ein hanes arlein fel hyn.
Mae tudalennau unigol hefyd ar gyfer pob blwyddyn (ac eithrio 1973 pan nad oedd cystadleuaeth), drwy ddilyn y dolenni unigol ar waelod y dudalen.
Os oes rhywun â gwybodaeth bellach ar ei gyfer – nid yw rhestr cystadleuwyr yn gyflawn ar gyfer pob blwyddyn, er enghraifft – gyrrwch y wybodaeth ataf ac mi wnaf ei yrru ymlaen iddo ychwanegu.
Yn dilyn sylw gan Mathonwy Rhys ar yr erthygl am brisiau recordiau Cymraeg, mi es i ati i ymchwilio ymhellach a ffeindio bod copïau trwyddedig (ac weithiau copïau answyddogol) o recordiau prin Cymraeg ar gael ar safleoedd gwerthu recordiau fel Discogs.
Yn aml, mae y rhain wedi’w trwyddedu i’w gwerthu dros y dwr, ond os ydych yn fodlon disgwyl iddynt gael eu gyrru i chi, ac os mai’r gerddoriaeth sy’n bwysig i chi yn hytrach na chael copi gwreiddiol o’r recordiau prin hyn, mae’n gallu bod yn ddewis amgen da ac afforddiadawy. Yn aml mae prisiau rhain llawer is na’r recordiau gwreiddiol Cymraeg. A weithiau ansawdd llawer gwell hefyd gan fod nifer o’r ‘copiau’ swyddogol wedi’w cynhyrchu o’r tapiau gwreiddiol – llai o swn ffrio na hen record feinyl!
Dyma rhai enghreifftiau. Prisiau ddim yn cynnwys cludiant.
Gwymon, gan Meic Stevens
Meic Stevens-Gwymon £962 (€1,050) – dewis arall Sunbeam SBRCD5046 £4.50 Mae cwmni Sunbeam, a sefydlwyd gan Richard Morton Jack a Steven Carr yn 2005, wedi ail-gyhoeddi nifer o recordiau cynnar Meic Stevens, prisiau ail law dipyn llai na’r recordiau gwreiddiol erbyn hyn os mai’r gerddoriaeth sy’n bwysicach i chi na bod yn berchen ar y copiau gwreiddiol. Ceir y fersiwn CD o 2008 yn ail law am tua £4.50 weithiau, a’r LP Sunbeam am tua £15.
Rain In The Leaves gan Meic Stevens
SBRCD5021 Rain In The Leaves: The EPs, Volume 1 (2006). Cryno-ddisg o nifer o recordiau cynnar 7 modfedd Meic Stevens.
Pan edrychais ar Discogs bore ‘ma, roedd 8 copi ail law ar gael am tua £8-£12 sydd llawer llai wrth gwrs na’r prisiau gwreiddiol o tua £60-£80 yr EP.
Sackcloth And Ashes gan Meic Stevens
SBRCD5033 Sackcloth And Ashes: The EPs, Volume 2 (2007). Cryno ddisg o fwy o ganeuon cynnar Meic Stevens. 20 copi ar werth o tua £4 yr un.
Hefyd wrth gwrs mi wnaeth Sain gyhoeddi set o dair CD gyda chaneuon cynnar Meic Stevens, gyda chaneuon cynnar ar label Wren a Sain, yn ogystal a rhai traciau a thapiau na ryddhawyd cyn hynny. Sain SCD2345 oedd rhif honno, teitl Disgwyl Rhywbeth Gwell I Ddod, o’r flwyddyn 2002. Ddim ar gael ar CD bellach yn ol gwefan Sain, ond ar gael drwy iTunes am tua £13.
Hefyd, yn 2013, fe ryddhaodd Sain gasgliad mwy o ganeuon Meic Stevens, dan y teitl Dyma’r Ffordd I Fyw. 6 o gryno-ddisgiau, yn cynnwys y 5 albwm o’r 80au, a’r clasur Gwymon o 1972. Pris £24.99, yn dal ar gael ar gryno ddisgiau neu drwyr iTunes, ac ar gael i wrando ar y platfformau ffrydio hefyd. Braidd yn hurt, mae copiau ail law ar gael ar discogs am tua £50-£60 o’r set hon, er bod y cryno-ddisgiau dal ar gael gan Sain am tua £25!!!
Casgliadau Meic Stevens ar Sain.
Hiraeth, gan Endaf Emlyn
Endaf Emlyn-Hiraeth (WRL 537L, 1973) £595. Mae’r gerddoriaeth ar gael drwy iTunes a’r gwasanaethau ffrydio arferol. Fe fu’r LP ar gael ar feinyl gan Sain (Sain Finyl 2823), ond bellach ond ar iTunes am £7.99. Ceir casgliad o bedair record hir Endaf Emlyn (Salem, Syrffio Mewn Cariad, Hiraeth a Dawnsionara) gan Sain ar SCD2287, Dilyn Y Graen. Mae Bella Terra Music yn Ne Korea wedi ail-ryddhau copi ar CD ers 2011, gellir cael copiau ail law am tua £15 – £20. Ar Spotify ac Apton hefyd.
Gôg, gan Meic Stevens
Mae Bella Terra Music hefyd wedi rhyddhau Gôg gan Meic Stevens ar CD ers 2012 (mae copi gwreiddiol o’r LP yn gwerthu am tua £195-£300 ar Discogs). Ceir copiau ail law o’r cd am tua £25. Hefyd, rhyddhaodd yr un cwmni cd o ganeuon cynnar Meic Stevens gyda Heather Jones, caneuon fel Tryweryn, Mwg a Chân Walter.
Mae recordiau Brân wedi gwerthu am arian gwirion ers peth amser, yn enwedig yr LPs. Ar hyn o bryd, mae copi ail law o’r LP “Ail Ddechra” ar werth yn Siapan ar Discogs am, credwch neu peidio, $1,490 (tua £1,162.20, pediwch anghofio’r 20c !). Yn ogystal a fersiwn cd o Dde Korea ar label Big Pink Music, mae Rise Above Relics yn Lloegr wedi rhyddhau fersiwn LP, yn ogystal a’r casgliad Brân cyfan, A Box Of Brân, sydd ar gael yn ail law ar Discogs. Mae Ail Ddechra hefyd ar atSain Y 70au Cyfrol 1 gan Sain. Mae Big Pink Music wedi rhyddhau y tair LP gan Brân (cynnwys Hedfan a Gwrach Y Nos). Hefyd, ceir copiau answyddogol ar LP o Hedfan ar gyfres Breeder Backtrack rhai blynyddoedd yn ôl.
Recordiau hir Brân
Mi soniais am brisiau uchel recordiau y grwp Pererin yn yr erthygl ddiwethaf. Wrth gwrs, mae Pererin yn un o’r grwpiau Cymraeg gwerin sydd wedi teithio’r byd ac yn adnabyddus mewn sawl gwlad. Er bod copïau gwreiddiol cyflwr da o Teithgan, Tirion Dir a Haul Ar Yr Eira yn gallu gwerthu am gannoedd o bunnoedd, mae cwmniau fel Guerssen (Sbaen), Akarma (Yr Eidal) a Face The Dawn (Prydain) wedi ail-gyhoeddi y recordiau ar LP a CD yn fwy diweddar. Gellir cael copiau o’r rhain am tua £10-£15. An anffodus, ‘does yna fawr o ddim o gerddoriaeth Pererin ar Apton na Spotify. Hefyd, er i Sain gyhoeddi Yng Ngolau Dydd ar gaset, ychydig o gopiau a welwyd, felly mae’n beth da mewn un ffordd bod Guerszen wedi ail gyhoeddi hon hefyd.
Recordiau hir Pererin
Wrth gwrs, mae ambell i gân o bob un o’r recordiau drud, yn enwedig y senglau a’r EPs, wedi ymddangos ar gasgliadau dros y blynyddoedd, gan Sain ac eraill.
Felly, peidiwch a phoeni’n ormodol am y pris os ydych yn ceisio casglu’r recordiau, gan fod copiau ar gael mewn llefydd eraill yn aml.
Erbyn hyn, mae llawer o recordiau Cymraeg yn gwerthu am brisiau fyddech chi’n meddwl braidd yn hurt. ‘Rydym i gyd yn dueddol o feddwl am record Y Blew (Maes B) fel YR enghraifft o record Gymraeg bring casgladwy, ond na, mae llawer yn gwerthu am fwy na hyn, i gasglwyr tramor gan fwyaf.
Y sbardun i sgwennu am hyn oedd eitem Facebook gan Gwynedd Record Collector, sy’n trefnu siop wib (pop-up shop) o bryd i’w gilydd yn y Gogledd. Mae’n gwerthu rhai recordiau ar eBay hefyd, dan yr enw “grc-vinyl”. Fe sgwenodd:
“Bit of local interest here. The 3 ‘Pererin’ albums, highly collectable big hitters from the Welsh Language scene in the early 1980’s have just turned up in a local collection. These can attract attention globally and i’ve previously sent copies to Japan and South Korea. Now on auction with ebay, always interesting to see where they end up.”
Dyma rhai enghreifftiau dwi wedi eu gweld ar eBay a Discogs yn ddiweddar:
Meic Stevens-Gwymon £962 (€1,050) Endaf Emlyn-Hiraeth £595 Y Diawled-SOS £500 Pererin-Teithgan a Haul Ar Yr Eira £450 Y Diawled-Noson Y Blaidd £275 Sidan-Teulu Yncl Sam £199 Meic Stevens-Byw Yn Y Wlad £100 Pererin-Tirion Dir £49 Edward H Dafis-Hen Ffordd Gymreig O Fyw £50 Y Blew-Maes B £70 Trobwll-Taith £70 Crys-Lan Yn Y Gogledd £60 Bran-Tocyn £55 Bara Menyn (eu dwy record) £45 Meic Stevens-Nid Oes Un Gwydr Ffenestr £60-£80 Carraig Aonoir-CA2 £80 Eirin Peryglus-Noeth £90 Eirin Peryglus-Bronson £85 Eirin Peryglus-Trosgynnol £120 (€125) Meic Stevens-Yr Eryr A’r Golomen £69 Datblygu-Wyau £90 Anhrefn-Dim Heddwch/Priodas Hapus £100
Mae nifer o gasetiau a recordiau cynnar labeli Ankst ac Anhrefn hefyd yn mynd am brisiau gwirion – dwi’n eu gweld a bron a rhoi’r gorau i gasglu oherwydd y prisiau.
Dim ond rhai enghreifftiau a welais i yn ddiweddar oedd y rhain.