Recordiau Afon

Cwmni recordiau Cymraeg byr-hoedlog o ganol y 70au, a sefydlwyd gan Hywel Williams. Gyda chyfeiriad yn Hanner Ffordd, Nantgaredig, Dyfed. Enw masnach y cwmni oedd Afon (Recordiau) Cyf.

Rhyddhaodd y cwmni dair o recordiau byr, er fod y drefn rhifo yn awgrym bod un arall wedi’w ystyried os nad wedi’w rhyddhau go iawn.

Mae’r drefn rhifo yn defnyddio’r llythrennau RAS (Recordiau Afon Sengl):

RAS 001 Chwys-Gwr Bonheddig Hael/Fel Na Mae’r Byd Yn Mynd (1975)
RAS 002 Talcen Crych-Angharad/Yfory (1975)
RAS 004 Rhian Rowe-Cariad Côll/Tyrd I’r Oed (dim dyddiad, efallai 1976)

Er nad wyf yn gwybod i sicrwydd, dwi wedi clywed dyfalu efallai mai record gan y grwp Cwrwgl Sam (un o grwpiau Derek Brown) oedd RAS 003 i fod. Rhyddhaodd Cwrwgl Sam bâr o draciau ar y record hir Lleisiau gan fudiad Adfer yn 1975 (Cei / Henaint).

Chwys oedd Sulwyn Rees (lleisydd), Colin Owen (drymiau), John Davies (gitar flaen) a Clive Richards (gitar fas). Roeddynt yn tarddu o Hwlffordd a Chaerfyrddin ac wedi bod yn perfformio am tua dwy flynedd cyn rhyddhau y record hon, a recordiwyd yn stiwdios Swansea Sound yn Abertawe. Byddai Sulwyn yn gwisgo fel “Gwr Bonheddig Hael” i ganu’r gân honno o dro i dro! Daeth y grwp i amlygrwydd cenedlaethol wedi Twrw Tanllyd Pontrhydfendigaid, wedi peth amser yn perfformio’n lleol yn y de orllewin.

Wedi i’r grwp Chwys ddod i ben, aeth Colin, John a Clive ymlaen i ffurfio Eliffant gyda Geraint Griffiths wedi diwedd y grwp Injaroc y bu Geraint yn aelod ohono.

Talcen Crych oedd Alun Lenny, Austin Davies, Eifion Daniels a Ronw Protheroe, gyda chyfraniadau gan John Davies, Colin Owen a Geraint Lovgreen. Rheolwr y grwp oedd Hywel Williams.

Eglura’r nodiadau ar glawr y record fod llun y clawr wedi’w dynnu gan Derek Powell ar ol perfformiad o’r opera roc “Enoc Huws-Siwparsiopwr. Hefyd, mae’n egluro testun y gân gyntaf, Angharad: “Dafydd a ddychwelodd i’w henwlad wedi’r rhyfel hir ac fe welodd nad oedd yr hyn a fu yn bod mwyach-collodd ei deulu, ei gartref, ei dir a’i gyfeillion ac fe ymroddodd gweddill ei fywyd i’r dasg o geisio dod o hyd i fywyd a breuddwyd ei ieuenctid. Weithiau clywir ei gri yn swn y gwynt ac yn sibrwd y tonnau – “Angharad” – ond bellach ‘does neb yn gwrando.

Roeddynt wedi rhyddhau record cyn hyn ar label Wren yn 1974 dan y teitl “Allan Yn Fuan” (Wren WSP 2030). Roedd “line-up” y grwp ychydig yn wahanol adeg hynny yn ol y nodiadau ar glawr y record honno.

Clawr record Clychau’r Nant

Rhian Rowe – merch o Gwm Gwendraeth a fu’n aelod o’r grwp Clychau’r Nant hefo Ann a Wendy Thomas a ryddhaodd record ar label Wren yn 1973.

Hefyd, rhyddhaodd Rhian record sengl ei hun i Wren (WSP 2019) yn 1973, pan oedd ond 14 oed. Mae’n debyg i Rhian ennill teitl Seren Asbri yn 1976, a chystadlu yng nghystadleuaeth Cân I Gymru yr un flwyddyn gyda’r gân “Y Llanc Glas Lygad” – gellir clywed y gân honno ar gryno ddisg “Can I Gymru-Y Casgliad Cyflawn 1969-2005” gan Sain (SCD 2494, 2005).

Cwmni Lola

Dwi’n ddiolchgar iawn i Gari Melville am yrru mwy o wybodaeth am gasetiau Cwmni Lola, Ystradgynlais.

Fe ychwanegaf y wybodaeth i’r Ddisgyddiaeth a diweddaru’r copi ar y wefan cyn hir.

LOLAMW001 – Duane Thompson – Not at Home – caset EP (1981)
LOLAMW002 – Y Celfi Cam – Profiadau Cyffyrddus Cyfrol 1 – caset EP (1982)
LOLAMW003 – Tim Leadbeater – Stitsia Hwn’na! – caset EP (1982)
LOLAMW004 – Duane Thompson – Greatest Hits – caset albwm (1982)
LOLA MW005 – Y Sefydliad – 4 Can (S4C) – caset EP (1983)
LOLA MW006 – Amryw – Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd – caset albwm (1983)
LOLA MW007 – Treiglad Pherffaith – Ar Taith – caset EP (1983)

HA!008 – Y Celfi Cam – Bimbos ar Acid – caset albwm (1992)
HA!009 – Y Celfi Cam – Bimbos ar Acid! Yr Out-Takes – caset EP (1992)
HA!10 – Y Celfi Cam – Trip i’r Lleuad – caset EP (1992)
HA!11 – Y Celfi Cam – BeBop Robert – caset albwm (1992)
HA!12 – Y Celfi Cam – Allan I Flippin’Ginio – caset albwm (1992)
HA!13 – Y Celfi Cam – Fi a Jock a Sion a Sian – caset albwm (Ni rhyddhawyd)
HA!14 – Y Celfi Cam – Hedfan – caset EP (1996)

Disciau Dysgu Difyr

Cyfres fer o recordiau saith modfedd addysgiadol ar gyfer plant, gan gwmni Wren o Landybie, sir Gaerfyrddin yn 1967.

Cyfres o bump o record-lyfrau oedd hon, gyda chaneuon a llafar a llyfryn yn rhan o’r profiad dysgu yn unigol neu mewn grwp.

Nid yw’r drefn rhifo yn gyson, mae rhai â rhifau cyfres Dryw (yn lle’r rhifau Wren WRE a WSP ar y rhan fwyaf o recordiau’r cwmni). Mae rhai heb rif Dryw, dim ond rhif CD syml. Mae’r labeli’n wahanol ar rai o’r recordiau hefyd fel y gwelwch yn y lluniau hyn.

Disc 1 – Anifeiliaid
Disc 2 – Adar
Disc 3 – Lleoedd (DRYW 003)
Disc 4 – Teithio (DRYW 002)
Disc 5 – Cerddi Chwarae

Fe glywn lais Norah Isaac fel cyflwynydd, Esme Lewis fel unawdydd y caneuon, a Mansel Thomas a Leonard Morris yn cyfeilio. Golygwyd y gyfres gan Norah Isaac, Dennis C. Rees ac Alun Talfan Davies.

Daeth pob record gyda llyfryn bach gyda lluniau syml du a gwyn (yr arlunydd oedd Robert Hunter) a nifer o gerddi i’w darllen.

Rhan o un o’r llyfrau

Ar y pryd, gwelwyd y rhain fel cyfrwng newydd fel cymorth dysgu newydd ar gyfer plant, “trwy glywed gair yn ogystal a’i weld” fel y dywedir ar glawr y record.

Roedd y recordiau a’r llyfrau ar gael ar wahan am dri swllt am y llyfrau, neu wyth swllt a chwe cheiniog am y recordiau (deg swllt a chwe cheiniog yn ddiweddarach – 52.5 ceiniog mewn arian heddiw).

Dim ond tair o’r pump o Ddisciau Dysgu Difyr sydd gen i – Adar, Lleoedd a Teithio – ysgwn i os oes rhywun â chopïau o’r lleill? Neu ag atgofion o’u defnyddio mewn ysgolion efallai?

Beti A’r Gwylliaid Gleision

Cyhoeddodd recordiau Wren ddwy record gan y grwp braidd yn anghyfarwydd hwn.

Mae nhw’n recordiau diddorol gan eu bod yn enghraifft prin o grwpiau Cymraeg “bas a drymiau” o’r 60au. ‘Rydym yn eithaf cyfarwydd â record y Blew o 1967 fel enghraifft o grwp cynnar Cymraeg o’r cyfnod, ond hyd yn oed cyn hynny mi oedd grwpiau fel Helen Wyn a Hobogiaid y Nos a Beti A’r Gwylliaid Gleision wedi recordio.

Cafwyd dwy record fer gan y grwp o’r gogledd, Beti a’r Gwylliaid Gleision. Daeth y cyntaf allan yn 1966, hefo’r teitl “Cymry’n Canu ’66” â phedair cân arni (Wren WRE 1009). Roedd rhai o ganeuon y grwp yn gyfieithiadau o ganeuon Saesneg poblogaidd ar y pryd, fel “All My Loving” y Beatles (Gyts A Gras ar y record gyntaf). Roedd nifer o ganeuon y grwp â thuedd grefyddol.

01 Dacw’r Ardal, Dacw’r Hafan
02 Bydd Deg, Bydd Strêt
03 Gyts a Gras
04 O Iesu Hardd

Aelodau’r grwp ar y record gyntaf oedd:

Beti Gwynn Williams – llais. Yn athrawes yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda ar y pryd. ‘Roedd wedi canu cryn dipyn mewn eisteddfodau ac ati ac yn adnabyddus am ei llais cyfoethog contralto cyn mentro i’r byd canu pop.
Brian Williams – organ drydan. Yn frodor o Fetws Garmon, ‘roedd yn organydd eglwys gyda diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol.
Sion Rhys Jones – gitar fâs. Brodor o Waenfawr ger Caernarfon. Bu’n aelod o sawl grwp arall, fel y Valiants o 1962 i 1965, a rannodd lwyfan hefo rhai o enwogion y cyfnod.
Tom Rees Howell – drymiau. O Benygroes, Gwynedd, gyda diddordeb mewn recordiau a gwaith coed.
Les Jones – gitar rhithm. O Garmel, Gwynedd, ac aelod ieuengaf y grwp.

Y Parchedig Gwilym O. Roberts Pontllyfni, colofnydd Y Cymro ac athro a seiciatrydd gychwynnodd y grwp, gyda’r bwriad o gael pobl ifanc yr ardal i wrando ar gerddoriaeth grefyddol ac ysbrydol, a’u denu i’r capeli. Er y bu i hynny sathru ar draed ambell i offeiriad ar y pryd oedd ddim yn awyddus i gael grwp swnllyd o’r fath yn perfformio yn y sêt fawr! Serch hynny, cafodd y grwp dipyn o lwyddiant yn canu mewn neuaddau dawns, clybiau ieuenctid ac ambell i eglwys.

Yn 1968, fe ryddhawyd record fer arall gan Wren (WRE 1047) hefo pum cân arni:
01 Llwch Wyf Fi
02 O Iesu Mawr
03 Mae’r Gwaed A Redodd
04 Newyddion Braf
05 Brenin Cariad.

Erbyn hyn roedd Tom Rees Howell wedi gadael y grwp. Wedi ymuno erbyn hyn oedd:
Gwilym Evans – drymiau a gitar. O Laniestyn, Gwynedd, roedd yn organydd eglwys.
Gwilym Morris – gitar flaen a phianydd. O Waenfawr, ac erbyn hyn efe oedd yr ieuengaf yn y grwp.

Ysgwn i os oes unrhyw un hefo mwy o ddiddordeb am bwy oedd Beti Williams? Dwi wedi gweld cyfeiriadau at “Beti Gwynn Williams” oedd yn wraig i W.S Gwynn Williams (ysgrifenydd ac yna cadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru), mab W. Pencerdd Williams. Roedd y Beti yma (ei enw llawn oedd Elizabeth Eleanor Davies cyn priodi) o Abergele yn wreiddiol ac hefyd yn gontralto hefo cefndir canu eisteddfodol a chanu pop. Hefyd, os mai’r un Beti Williams a ganodd “Mae Nain Mewn Bwthyn” ar y record “Canu’r Cymry” (Cambrian SCLP 687, 1980)?

Os oes rhywun â mwy o wybodaeth, mi fyddwn yn falch iawn o glywed ganddoch, i gael rhoi’r wybodaeth am y grwp a’r recordiau diddorol cynnar yma ar gof a chadw.

Teyrnged i David Lloyd

Wedi i mi sgwennu am y tenor, David Lloyd yn ddiweddar, mi wnes i daro ar draws record deyrnged i David Lloyd, gan y tenor Cymreig Wynford Evans, a Abertawe.

“Teyrnged i David Lloyd” yw teitl y record a’r caset, a gyhoeddwyd gan Sain yn 1982 (Sain 1246D yw’r record hir, a Sain C846N yw’r caset.

Ganwyd Wynford Evans yn Abertawe ar y 30ain o Ebrill 1946, yn frawd bach i Huw, ac yn fab i William Thomas Evans a Lizzie Ann.

Cefn y record hir
Cefn y record hir

Yn 1964, yn 18 oed, fe fentrodd ar, ac ennillodd, unawd tenor 18-25 yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ac aeth ymlaen i ennill sawl gwobr yn ystod ei yrfa. Yn 1969 fe ganodd i’r Tywysog Charles yn ystod ei daith Arwisgo o gwmpas Cymru.

Bu’n ganwr opera mewn sawl gwlad, ac yn aelod o sawl grwp cerddorol, ac ymddangosodd sawl gwaith ar y teledu.

Bu hefyd yn diwtor cerdd preifat i fyfyrwyr o bob oed.

Yn 1967 fe briododd â Judith Thomas yng nhapel y Bedyddwyr Dinas Noddfa, Abertawe. Cawsant dau o blant, Geraint ac Eryl. Fe symudodd i Englefield Green, Surrey ac wedyn i Staines upon Thames. Bu’n gysylltiedig â sawl cymdeithas gorawl trwy ei fywyd.

Bu farw ar y 23ain o Fedi, 2009.

Ar y record, fe ganodd 13 o ganeuon teyrnged i David Lloyd. Yn ôl y daflen ddaeth gyda’r record, mae nodiadau Huw Williams yn esbonio “mae’n briodol iawn bod pob eitem a gynhwysir yn y rhaglen yn dal rhyw gysylltiad â’r tenor o Sir y Fflint, ac yn gyfrwng i’n hatgoffa o’r ‘llais a hudodd genedl'”.

John Hywel gyfeiliodd ar y piano a’r organ ar y record.

Dyma restr o’r caneuon ar y record a’r caset:
1. Bugail Aberdyfi
2. Lausanne
3. Y Bugail
4. O Na Byddai’n Haf O Hyd
5. Pa Le Mae’r Amen
6. Y Dieithryn
7. Galwad Y Tywysog
8. Elen Fwyn
9. Hyder
10.Bwthyn Bach Melyn Fy Nhad
11.Pwy Fydd Yma ‘Mhen Can Mlynedd?
12.Yr Hen Gerddor
13.Arafa Don

David Lloyd

Pedwar o gasetiau David Lloyd ar labeli Cambrian a Sain.
Rhai o gasetiau David Lloyd

Siawns ein bod i gyd yn gwybod am y tenor enwog, David Lloyd. Neu David George Lloyd a rhoi ei enw llawn iddo.

‘Roedd yn un o’r tenoriaid cyntaf o Gymru i geisio cynulleidfa tu allan i Gymru, yn y byd opera, oratorio a recordio. Ond yng Nghymru, ‘roedd yn enwog hefyd am ganu emynau a chaneuon gwerin.

Fe’i anwyd yn Nhrelogan, Sir Y Fflint, ar y 6ed o Ebrill 1912. Fe farwodd ei fam Elizabeth tra’r oedd David yn ei arddegau. Bu farw ei dad Pryce 2 flynedd yn ddiweddarach. Yn un o saith o blant, fe adawodd David yr ysgol yn 14 oed gyda’r bwriad o fod yn brentys saer.

Bu’n canu dipyn mewn eisteddfodau lleol, ac yna ennill ysgoloriaeth i ysgol gerdd Y Guildhall gan ddechrau yno yn 1933 wedi i John Williams o Fangor ei annog i ddilyn gyrfa gerddorol.

Wedi ennill dipyn o gydnabyddiaeth yno, gadawodd yn 1938 a dechrau denu sylw yn y byd opera gyda’i berfformiadau o waith Verdi a Mozart ym Mhrydain a thramor.

Gyda dyfodiad yr ail ryfel byd yn 1939, bu’n rhaid iddo stopio perfformio dramor. Bu’n gwasanaethu gyda’r Gwarchodlu Cymreig drwy’r rhyfel, a methu a pherfformio yn y Gymraeg oherwydd rheolau “Saesneg Yn Unig” y lluoedd arfog ar y pryd. Ond fe allodd recordio dipyn yn y Saesneg rhwng 1940 ac 1947, yn stiwdios EMI gan fwyaf, a mae sawl record 78cyf a ryddhawyd ar labeli Columbia a Decca i’w cael.

Mae’n debyg mai’r traciau Cymraeg cynharaf wedi’w recordio sy’n goroesi yn dyddio o 1947, a recordiodd i’r BBC yng Nghaerdydd. Y ddwy gân oedd “Bugail Aberdyfi” a “Wyt Ti’n Cofio’r Lloer Yn Codi”, gyda Mary Kendall ar y piano.

Yna, rhyddhaodd recordiau 78cyf yn y Gymraeg i Decca yn 1948/9 a dwi’n falch o allu dweud fod gen i gopiau o rai o’r rhain.

Yn anffodus daeth diwedd dros dro ar ei yrfa fel canwr yn 1954 pan fu iddo ddioddef damwain ddifrifol wrth recordio rhaglen i’r BBC ger y Rhyl, a thorri ei gefn. Am tua chwe mlynedd wedi hynny ni allai berfformio.

Yn 1960, fe ryddhaodd ychydig o recordiau i Qualiton gyntaf, ac yna i Delyse yn 1962. Gallwch edrych am fanylion ei recordiau yn Y Ddisgyddiaeth.

Ni briododd David Lloyd erioed – ‘doedd o ddim yn credu bod bywyd teithiol y perfformiwr yn addas i ddyn priod.

Bu farw David Lloyd ar y 27ain o fis Mawrth 1969, wedi damwain arall adref. Fe’i gladdwyd ym mynwent Picton ger Gwespyr, sir y Fflint. Ac yntau ond yn ei 50au, collodd Cymru un o’i thenoriaid enwocaf erioed.

Cryno-ddisg David Lloyd gan Sain.
Casgliad David Lloyd ar 3 CD gan Sain

Yn ffodus, mae llawer o’i waith ar gof a chadw ar recordiau. Mae cwmni Sain, er enghraifft, wedi rhyddhau cryno-ddisgiau o’i waith, yn gyntaf fel tair CD unigol rhwng 1994 a 2001, ac yna yn 2009 fel casgliad cyflawn o’r recordiadau yn y ddwy iaith o 1940 tan 1962 (SCD 2601, “David Lloyd – Y Llais Arian” gyda 56 o ganeuon. Cyn hynny, bu i gwmni Cambrian gyhoeddi sawl caset ac LP o’i waith ddiwedd y 60au ac yn ystod y 70au, a record hir ar Qualiton (Decca) yn 1973. Ceir ambell i gasgliad Saesneg ar label Columbia fel EPs ac LPs hefyd.

Qualiton

John Edwards
Label Qualiton

Cwmni recordiau sefydlwyd gan John Edwards yn 1953 a ryddhaodd recordiau yn y 50au a’r 60au (o tua 1958 tan 1965, er y gwelir ambell record ar y label tan yn hwyrach yn y 60au).

Y cwmni oedd yn berchen ar y label oedd Cwaliton Records (Wales) Ltd o Bontardawe.

Cyhoeddodd y cwmni dros 110 o recordiau sengl ac Eps, tua 120 o recordiau hir 10” a 12” a chasetiau a nifer helaeth o recordiau 78 gan Jac a Wil, Richie Thomas, Euryl Coslett a nifer eraill. Bu John Edwards ei hun yn chwarae’r piano ar ambell i record.

Un o’r recordiau mwyaf arbennig a nodweddiadol y cwmni oedd Maes B gan Y Blew yn 1967.

Recordiau corawl a chanu ysgafn oedd cynnyrch pennaf y cwmni. Rhyddhawyd nifer o recordiadau gan y ddeuawd boblogaidd Jac a Wil.

Wedi marwolaeth John Edwards yn 1966 yn 61 oed, prynodd Decca y cwmni a’i ail-enwi yn Qualiton Records (1968) Ltd gellir weld yr enw hwn a chyfeiriad yn Llundain ar y recordiau o hynny ymlaen.

Mae yna gwmniau eraill yn defnyddio’r enw mewn gwledydd eraill, heb unrhyw gysylltiad a’r cwmni yng Nghymru.

Gwahanol Fersiynau

Wrth gasglu hen recordiau, buan iawn y dewch i sylweddoli y ceir mwy nag un fersiwn o ambell i record.

Ar y dechrau, roeddwn yn anelu cael un copi o gymaint o recordiau Cymraeg ag y gallwn. Dros amser deuais i sylweddoli bod ambell i fersiwn o rai recordiau. Er Enghraifft, edrychwch ar recordiau 7 modfedd cynnar Sain, lle cewch labeli melyn neu las ar y record a gallwch weld bod ail-gyhoeddi neu gwneud mwy o stoc wedi bod dros amser.

Dyma un enghraifft dda, EP gan y tenor David Lloyd o 1961. Hon oedd y record gyntaf iddo ryddhau wedi ei ddamwain ddifrifol ym Mehefin 1954 lle torrodd ei gefn mewn damwain wrth recordio rhaglen i’r BBC.

Ceir pedair cân ar y record, sef Bugail Aberdyfi, Y Dieithryn, My Little Welsh Home ac Art Thou Troubled. Rhif y record yw QEP 4026, ar label Qualiton.

Mae gen i dair fersiwn wahanol o’r record, fel y gwelwch o’r lluniau isod. Y gwahaniaeth yng ngynllun y clawr sydd yn taro rhywun fwyaf, gan eu bod yn gwbl wahanol.

Mae’r ddwy fersiwn gyntaf o gyfnod Qualiton eu hunain, a’r trydydd (y fersiwn heb ddarlun o’r canwr) o’r cyfnod wedi i Qualiton ddod dan berchnogaeth Decca tua 1968 (ceir dyddiad hawlfraint o 1969 ar glawr y record).

Yn ol y wybodaeth ar y clawr, cafodd y gwahanol fersiynau eu printio gan wahanol gwmniau, sef Woodalls (Printers) Ltd, Wrexham; West Brothers Printers Ltd, Mitcham; a MacNeil Press yn Llundain.

Gethin Jet

Mae recordiau R-Bennig wedi lansio is-label newydd hwylus, sef Recordiau Sâl.

Un o nodweddion y label newydd mae’n debyg yw fod pob deunydd am ddod mewn bag chwdu (heb ei ddefnyddio, gobeithio…).

Gethin Jet yw’r artist cyntaf ar y label, hefo traciau am gwmni hedfan Easyjet. Ar y traciau, mae’r cymeriad (aelod o staff Easyjet mae’n debyg!) yn llefaru neu malu awyr ar fwrdd yr awyren am bob dim i’w wneud ag Easyjet a hedfan ar wyliau.

Mae Gethin yn dechrau gan ymddiheuro i bawb ar yr awyren nad oes bagiau chwdu (sick-bags) ar yr awyren gan fod Johnny-R wedi bod ar yr awyren ychydig ynghynt ac wedi cymeryd y bagiau chwdu i gyd. Heb ddatgelu gormod, mae hynny’n rhoi rhyw syniad i chi sut mae pethau’n datblygu’n eitha digrif wedyn.

Daeth y traciau ar gaset lliw oren, mewn bag papur oren a gwyn, lliwiau cwmni Easyjet. Gallwch wrando ar y traciau ar dudalen R-Bennig ar y wefan Bandcamp – yn ddiddorol, ‘doedd y traciau ar y wefan ddim cweit yr un fath a’r traciau ar y caset! Er enghraifft, ar ail ochr y caset roedd yna gyhoeddiadau oddi ar fwrdd yr awyren.

Gwrandewch cyn prynu, ar https://r-bennig.bandcamp.com/album/recordiau-sal-1-gethin-jet-gaset

Fel yr arfer hefo cynnyrch R-Bennig, mae’n wahanol iawn i gynnyrch cwmniau eraill, ac yn dangos dychymyg di-waelod Johnny-R a’i gymeriadau, gyda cryn dipyn o ddigrifwch. Gwrandewch a phrynwch a chwerthwch.

Llun o'r caset a'r bag chwdu.
Caset Gethin Jet a’r Bag Chwdu

Cronfa Lawnsio 2020

Er nad ydi hyn yn uniongyrchol i’w wneud â chasglu recordiau, diddorol oedd darllen ar wefan Radio Cymru am y Gronfa Lawnsio, sy’n cynnig arian i berfformwyr o Gymru, i’w helpu i ehangu eu cynulleidfa.

I ddyfynnu o’r wefan:

“Yn rhan o’r cynllun Gorwelion, mae cronfa Lawnsio yn adnodd sy’n helpu artistiaid neu fandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol, drwy ddarparu mynediad hollbwysig iddynt at gyllid.”

Gobeithio y bydd y cynllun o gymorth i grwpiau ac unigolion sy’n dechrau perfformio a recordio yn y Gymraeg. Yn ôl y wefan, gellid derbyn hyd at £2,000 dan y cynllun hwn.

Mwy o wybodaeth ar y dudalen https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/3rvwkyqpVgQ7dwnZjj2WYhT/y-gronfa-lawnsio-2020

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni