Dyna deitl y casgliad hwn o 20 o ganeuon dawns a synth gan Tanwen o Lambed (Llanbedr Pont Steffan) ar label R-Bennig eleni. Cymysgedd o ganeuon hefo teitlau Saesneg a Chymraeg. Dim ond £5 yw’r gost, a rhif y CD yw R-BEN 271. Yn ol nodiadau ar wefan y label, mae’n debyg yr oedd ganParhau i ddarllen “Funny Sounds From Wales”
Archifau Categori: casglu
Y recordiau prin (a gwerthfawr!) Cymraeg
Erthygl ddiddorol iawn, lle mae Rhys Lloyd Jones ar BBC Cymru Fyw yn trafod rhai o’r recordiau Cymraeg sy’n gwerthu am brisiau anhygoel y dyddiau hyn. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58016283
David R Edwards
1964-2021 Trist iawn clywed am golli David R Edwards, sef “Dave Datblygu”, wedi afiechyd. Roedd yn 56 oed, ac yn ôl datganiad y gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo Pyst ar Facebook, bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos wedi “dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd, gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.” Hefyd,Parhau i ddarllen “David R Edwards”
Chansons Galloises
Record Gymraeg o Canada sydd gen i dan sylw y tro hwn, gan y gantores glasurol Shannon Mercer sy’n hannu o Quebec ac Ottawa. Cryno-ddisg gyda’r teitl “Wales – The Land Of Song/Chansons gallois.” Mae hi o dras Cymreig – ymfudodd ei thad a mam i Ganada o dde Cymru yn 1967 gyda thri oParhau i ddarllen “Chansons Galloises”
Côr Merched Geelong
Wrth i mi brynu ychydig o recordiau ar gyfer y casgliad yn ddiweddar, cefais gopi o gryno-ddisg gan gôr o Gymry yn Awstralia. Mae’r “Geelong Welsh Ladies Choir” yn hannu o ddinas Geelong, ger Melbourne yn nhalaith Victoria yn Awstralia. Dinas o rhyw chwarter miliwn o bobl, rhyw 45 milltir o Melbourne. Fe ffurfiwyd yParhau i ddarllen “Côr Merched Geelong”
Sidan
Y record ddiweddaraf i mi ei hychwanegu i’r casgliad yw “Lliwiau”, record EP gyntaf y grwp Sidan (Sain 27, 1972). Grwp o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd oedd Sidan – Caryl Parry Jones, Gaenor Roberts, Sioned Mair, Meinir Evans a Gwenan Evans. Yn ôl y nodiadau ar gefn clawr y record, “Daeth Sidan i Amlygrwydd arParhau i ddarllen “Sidan”
Evan Rowlands
Fel casglwr recordiau Cymraeg, mae’n beth diddorol iawn weithiau cael taro ar draws record nad oeddwn yn gwybod am ei bodolaeth. Yn enwedig pan fo hanes diddorol iawn yn gysylltiedig â’r record. Ac wrth gwrs hefo apêl arbennig i mi gan fod cysylltiad a’i ardal ar ochr teulu fy nhad. Recordiad o lais y pregethwrParhau i ddarllen “Evan Rowlands”
Y Troubadours
Fe brynais y record hon gan werthwr recordiau yn Illinois, yr Unol Daleithiau. Er archebu ganol mis Tachwedd, newydd gyrraedd mae hi heddiw. Un o recordiau sengl cynnar Qualiton yw hi – QSP.5008 – o’r chwedegau cynnar. ‘Does dim dyddiad arni, na ‘matrix/runout code’ i’w weld fyddai wedi helpu fi i ddyddio’r record efallai. DwyParhau i ddarllen “Y Troubadours”
Pendyrus
Digwydd sylwi ar nodyn ar gefn clawr y record “The Singing Hills” gan Gôr Meibion Pendyrus o 1963 (label Qualiton, rhif QUA 12006) am darddiad yr enw “Pendyrus”. Mae’n debyg nad oedd yna dref na phentref adeg hynny o’r enw Pendyrus, a bod hanes sut y dewiswyd yr enw ar y côr yn un diddorolParhau i ddarllen “Pendyrus”
Prisiau Recordiau Cymraeg #2
Yn dilyn sylw gan Mathonwy Rhys ar yr erthygl am brisiau recordiau Cymraeg, mi es i ati i ymchwilio ymhellach a ffeindio bod copïau trwyddedig (ac weithiau copïau answyddogol) o recordiau prin Cymraeg ar gael ar safleoedd gwerthu recordiau fel Discogs. Yn aml, mae y rhain wedi’w trwyddedu i’w gwerthu dros y dwr, ond osParhau i ddarllen “Prisiau Recordiau Cymraeg #2”
