Arbrofi R-bennig

Dyma albwm newydd gan label R-bennig. Deuddeg o draciau o gerddoriaeth ‘arbrofol’ gan gyfansoddwr o Ynys Môn dan yr enw Lomax. Yr albwm cyntaf mewn cyfres dan y teitl ‘The Welsh Experimentalist’ yw hon, lle mae cyfansoddwyr cerddoriaeth arbrofol yn cael cyfle i arddangos eu talent, dan nawdd Johnny R a label R-Bennig. Cerddoriaeth synthParhau i ddarllen “Arbrofi R-bennig”

Cân I Gymru 2021

Daeth cystadleuaeth Cân I Gymru 2021 eleni o Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Oherwydd cyfyngiadau y cyfnod clo, ‘doedd yna ddim cynulleidfa fyw, ond cafwyd cynulleidfa rithiol yn y cefndir, drwy gyfrwng galwadau fideo, gyda rhai yn cael eu holi a thynnu eu coes gan y cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris. Roedd y gystadleuaethParhau i ddarllen “Cân I Gymru 2021”

Risin’

O ffatri ffrwyth dychymyg Johnny R a Recordiau R-Bennig y daw y casgliad hwn o un ar bymtheg o oreuon y label o 2020. “Risin’” yw y teitl, a mae’n cynnwys amrywiaeth eang o ganeuon ac arddulliau rhwng yr holl draciau ar y cryno-ddisg. Mae’r cd yn cynnwys traciau gan unigolion a grwpiau, rhai hefoParhau i ddarllen “Risin’”

Caneuon Y Morwyr-Shantis

Wedi anturiaethau a phoblogrwydd y postmon 26 oed o ardal Glasgow, Nathan Evans, ar TikTok yn canu shanti, neu cân morwr, toc wedi’r Nadolig, aeth Cymro o’r enw Gethin Griffiths ati i wneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Llwyddodd yr Albanwr i boblogeiddio shantis, neu caneuon y morwyr ymhlith ei ddilynwyr byd-eang, felly gyda chymorthParhau i ddarllen “Caneuon Y Morwyr-Shantis”

Tramor

Er fod y blog hwn yn cael ei ysgrifennu yn uniaith Gymraeg, diddorol ydi cael negeseuon gan gasglwyr recordiau dramor o bryd i’w gilydd. Gan fod peth cyfieithu ar y blog hwn, mae’n galluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddarllen. Dros y penwythnos, cefais sgwrs ebost hefo casglwr recordiau yn Tel Aviv, Israel,Parhau i ddarllen “Tramor”

YouTube

Wrth gwrs, mae yna nifer fawr iawn o ganeuon a pherfformiadau Cymraeg i’w gweld ar YouTube. Gwelais drydariad diddorol gan Yws Gwynedd lle y bu’n ceisio gweithio allan pa gân Gymraeg sydd wedi cael ei gwylio fwyaf ar YouTube a sut ffigurau sydd yna i ganeuon Cymraeg ar y cyfrwng hwnnw a chreu rhyw siartParhau i ddarllen “YouTube”

Gethin Jet

Mae recordiau R-Bennig wedi lansio is-label newydd hwylus, sef Recordiau Sâl. Un o nodweddion y label newydd mae’n debyg yw fod pob deunydd am ddod mewn bag chwdu (heb ei ddefnyddio, gobeithio…). Gethin Jet yw’r artist cyntaf ar y label, hefo traciau am gwmni hedfan Easyjet. Ar y traciau, mae’r cymeriad (aelod o staff EasyjetParhau i ddarllen “Gethin Jet”

Cronfa Lawnsio 2020

Er nad ydi hyn yn uniongyrchol i’w wneud â chasglu recordiau, diddorol oedd darllen ar wefan Radio Cymru am y Gronfa Lawnsio, sy’n cynnig arian i berfformwyr o Gymru, i’w helpu i ehangu eu cynulleidfa. I ddyfynnu o’r wefan: “Yn rhan o’r cynllun Gorwelion, mae cronfa Lawnsio yn adnodd sy’n helpu artistiaid neu fandiau talentogParhau i ddarllen “Cronfa Lawnsio 2020”

Cân Y Blog Recordiau

Hmm, dwi’n meddwl fod Y Blog Recordiau yn “sefydliad” bellach… wedi’r cwbl mae Y Pregethwr Aur wedi canu amdano! Os ydych yn fodlon anwybyddu y llun hyll ar y dudalen, gwrandewch ar y gân drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Recordiau R-Bennig: https://r-bennig.bandcamp.com/track/y-blog-recordiau Mae’r trac yn ran o LP newydd gan R-Bennig, sef “DarlithParhau i ddarllen “Cân Y Blog Recordiau”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni