Fel casglwr recordiau Cymraeg, mae’n beth diddorol iawn weithiau cael taro ar draws record nad oeddwn yn gwybod am ei bodolaeth. Yn enwedig pan fo hanes diddorol iawn yn gysylltiedig â’r record. Ac wrth gwrs hefo apêl arbennig i mi gan fod cysylltiad a’i ardal ar ochr teulu fy nhad. Recordiad o lais y pregethwrParhau i ddarllen “Evan Rowlands”
Archifau Categori: Recordiau
Prisiau Cryno Ddisgiau
Wedi bod yn pori drwy gwefannau fel Discogs ddoe a heddiw, ac od yw sylwi bod prisiau lot o gryno-ddisgiau dipyn drytach yn ail law nag yn newydd sbon er eu bod dal ar gael! Mae’n fwyaf amlwg ar nifer o gryno-ddisgiau Sain a Fflach – os yw pris yr eitem yr ydych yn chwilioParhau i ddarllen “Prisiau Cryno Ddisgiau”
Llun-recordiau
Math o record feinyl, hefo llun wedi’w gwasgu o fewn haenau dan wyneb glir, fel rheol yn rhedeg ar draws y record a than y rhychau. Hyd y gwn i, ‘does yna fawr ddim o’r rhain wedi’w rhyddhau yn y sîn recordiau Cymraeg – dim ond dwy y gwn i amdanynt – er bod llawerParhau i ddarllen “Llun-recordiau”
Arbrofi R-bennig
Dyma albwm newydd gan label R-bennig. Deuddeg o draciau o gerddoriaeth ‘arbrofol’ gan gyfansoddwr o Ynys Môn dan yr enw Lomax. Yr albwm cyntaf mewn cyfres dan y teitl ‘The Welsh Experimentalist’ yw hon, lle mae cyfansoddwyr cerddoriaeth arbrofol yn cael cyfle i arddangos eu talent, dan nawdd Johnny R a label R-Bennig. Cerddoriaeth synthParhau i ddarllen “Arbrofi R-bennig”
Jac a Wil
Jac a Wil Davies oedd deuawd fwyaf poblogaidd Cymru drwy ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Bu eu henwau yn gyfystr a’r deuawdau traddodiadol yn y Gymraeg. Dau frawd oedd Jac a Wil. Yn rhan o deulu o naw o blant, chwech o frodyr a thair chwaer – Evelyn, Mary, Pat, Allenby, Tom, Wil,Parhau i ddarllen “Jac a Wil”
Mwy Am Y Troubadours
Ychydig fisoedd yn ôl fe sgwennais am record y Troubadours o’r chwedegau cynnar, gan apelio am rhyw faint mwy o wybodaeth amdanynt. Ers hynny, daeth ychydig mwy o wybodaeth i law. Yr enw gwreiddiol oedd y Tumble Troubadours, hefyd clywyd amdanynt fel Y Troubadours neu’r Trwbadors. Fe ffurfiwyd y grwp yn 1947, gyda’r adfywiad cymdeithasolParhau i ddarllen “Mwy Am Y Troubadours”
Risin’
O ffatri ffrwyth dychymyg Johnny R a Recordiau R-Bennig y daw y casgliad hwn o un ar bymtheg o oreuon y label o 2020. “Risin’” yw y teitl, a mae’n cynnwys amrywiaeth eang o ganeuon ac arddulliau rhwng yr holl draciau ar y cryno-ddisg. Mae’r cd yn cynnwys traciau gan unigolion a grwpiau, rhai hefoParhau i ddarllen “Risin’”
Y Troubadours
Fe brynais y record hon gan werthwr recordiau yn Illinois, yr Unol Daleithiau. Er archebu ganol mis Tachwedd, newydd gyrraedd mae hi heddiw. Un o recordiau sengl cynnar Qualiton yw hi – QSP.5008 – o’r chwedegau cynnar. ‘Does dim dyddiad arni, na ‘matrix/runout code’ i’w weld fyddai wedi helpu fi i ddyddio’r record efallai. DwyParhau i ddarllen “Y Troubadours”
Caneuon Y Morwyr-Shantis
Wedi anturiaethau a phoblogrwydd y postmon 26 oed o ardal Glasgow, Nathan Evans, ar TikTok yn canu shanti, neu cân morwr, toc wedi’r Nadolig, aeth Cymro o’r enw Gethin Griffiths ati i wneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Llwyddodd yr Albanwr i boblogeiddio shantis, neu caneuon y morwyr ymhlith ei ddilynwyr byd-eang, felly gyda chymorthParhau i ddarllen “Caneuon Y Morwyr-Shantis”
Rosser Electronics
Er nad ydym efallai yn or-ymwybodol o’r enw hwn, roedd y cwmni a’r peiriannydd Doug Rosser yn eithaf canolog i ddyddiau cynnar y sîn recordiau Cymraeg o’r ’50au i’r ’70au. Mae’r stori yn cychwyn yn 1956, pan aeth John Edwards o Bontardawe (Recordiau Teldisc a Qualiton) a Doug Rosser draw i Sweden a phrynu offerParhau i ddarllen “Rosser Electronics”
