Un o’r pleserau o gasglu recordiau ydi derbyn rhywbeth diddorol ond annisgwyl. Yn yr achos yma, cerdyn post (lluniau isod) i archebu catalog recordiau cwmni Delyse, o 1962. Mi ddaeth hwn hefo record o 1959, sef “Beethoven – Scottish, Irish, Welsh and English Songs” (Delysé ECB 3153, hefyd ar Envoy DS 6053). Yn ôl nodiadauParhau i ddarllen “Cerdyn Delyse”
Tagio Archifau: delysé
Delysé
Cwmni o Lundain a ryddhaodd nifer o recordiau Cymraeg a Chymreig yn y 50au a’r 60au, darlleniadau o straeon plant yn Saesneg, a cherddoriaeth glasurol. Roedd yna ychydig o is-labeli, fel Envoy, Isabella a Voyager. Delysé oedd y cwmni recordiau cyntaf i’w sefydlu gan ddynes, Isabella Wallich, ym 1954. Ganwyd hi yn Isabella Valli ynParhau i ddarllen “Delysé”
