Dyna deitl y casgliad hwn o 20 o ganeuon dawns a synth gan Tanwen o Lambed (Llanbedr Pont Steffan) ar label R-Bennig eleni. Cymysgedd o ganeuon hefo teitlau Saesneg a Chymraeg. Dim ond £5 yw’r gost, a rhif y CD yw R-BEN 271. Yn ol nodiadau ar wefan y label, mae’n debyg yr oedd ganParhau i ddarllen “Funny Sounds From Wales”
Tagio Archifau: r-bennig
Llun-Ddisgiau
Dwi wedi sôn eisoes am y llun-ddisg mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg, sef Dagrau’n Dechrau Disgyn gan Ray Jones. Erbyn hyn, mae dwy arall wedi’w cyhoeddi gan R-Bennig ar eu is-label SWSH. Y cyntaf ohonynt yw’r ail i’w rhyddhau ar y label SWSH, sef trac na chafodd ei ryddhau o’r blaen – Ysgafnach Na DwrParhau i ddarllen “Llun-Ddisgiau”
Welsh Experimentalist #3
Nôl ym mis Ebrill mi soniais am y ddwy gyntaf yn y gyfres hon gan gwmni recordiau R-Bennig. Erbyn hyn, mae’r trydydd yn y gyfres ar gael, rhifyn mis Gorffennaf. Lyndsay Davies o Dregarth yw’r arbrofwr y tro hwn. Yn ôl y disgrifiad ar wefan y cwmni ar Bandcamp, mae’n cyfansoddi cerddoriaeth trwy ddefnyddio AppParhau i ddarllen “Welsh Experimentalist #3”
Llun-recordiau
Math o record feinyl, hefo llun wedi’w gwasgu o fewn haenau dan wyneb glir, fel rheol yn rhedeg ar draws y record a than y rhychau. Hyd y gwn i, ‘does yna fawr ddim o’r rhain wedi’w rhyddhau yn y sîn recordiau Cymraeg – dim ond dwy y gwn i amdanynt – er bod llawerParhau i ddarllen “Llun-recordiau”
Arbrofi R-bennig
Dyma albwm newydd gan label R-bennig. Deuddeg o draciau o gerddoriaeth ‘arbrofol’ gan gyfansoddwr o Ynys Môn dan yr enw Lomax. Yr albwm cyntaf mewn cyfres dan y teitl ‘The Welsh Experimentalist’ yw hon, lle mae cyfansoddwyr cerddoriaeth arbrofol yn cael cyfle i arddangos eu talent, dan nawdd Johnny R a label R-Bennig. Cerddoriaeth synthParhau i ddarllen “Arbrofi R-bennig”
Risin’
O ffatri ffrwyth dychymyg Johnny R a Recordiau R-Bennig y daw y casgliad hwn o un ar bymtheg o oreuon y label o 2020. “Risin’” yw y teitl, a mae’n cynnwys amrywiaeth eang o ganeuon ac arddulliau rhwng yr holl draciau ar y cryno-ddisg. Mae’r cd yn cynnwys traciau gan unigolion a grwpiau, rhai hefoParhau i ddarllen “Risin’”
Tramor
Er fod y blog hwn yn cael ei ysgrifennu yn uniaith Gymraeg, diddorol ydi cael negeseuon gan gasglwyr recordiau dramor o bryd i’w gilydd. Gan fod peth cyfieithu ar y blog hwn, mae’n galluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddarllen. Dros y penwythnos, cefais sgwrs ebost hefo casglwr recordiau yn Tel Aviv, Israel,Parhau i ddarllen “Tramor”
Gethin Jet
Mae recordiau R-Bennig wedi lansio is-label newydd hwylus, sef Recordiau Sâl. Un o nodweddion y label newydd mae’n debyg yw fod pob deunydd am ddod mewn bag chwdu (heb ei ddefnyddio, gobeithio…). Gethin Jet yw’r artist cyntaf ar y label, hefo traciau am gwmni hedfan Easyjet. Ar y traciau, mae’r cymeriad (aelod o staff EasyjetParhau i ddarllen “Gethin Jet”
Cân Y Blog Recordiau
Hmm, dwi’n meddwl fod Y Blog Recordiau yn “sefydliad” bellach… wedi’r cwbl mae Y Pregethwr Aur wedi canu amdano! Os ydych yn fodlon anwybyddu y llun hyll ar y dudalen, gwrandewch ar y gân drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Recordiau R-Bennig: https://r-bennig.bandcamp.com/track/y-blog-recordiau Mae’r trac yn ran o LP newydd gan R-Bennig, sef “DarlithParhau i ddarllen “Cân Y Blog Recordiau”
Babi Mam
EP ddigidol gan Huw Angerddi ydi hon, hefo caneuon babanod, wedi’w chyhoeddi gan R-Bennig. ‘Rydym wedi arfer hefo cerddoriaeth rap, arbrofol a gwahanol gan R-Bennig, a mae hon yn sicr yn wahanol i’w deunydd arferol. Dyma Huw Angerddi (yr enw yn chwarae ar y gair “hwiangerddi”) yn chwarae pedair cân offerynnol ar gyfer y babanod.Parhau i ddarllen “Babi Mam”
