Beti A’r Gwylliaid Gleision

Cyhoeddodd recordiau Wren ddwy record gan y grwp braidd yn anghyfarwydd hwn. Mae nhw’n recordiau diddorol gan eu bod yn enghraifft prin o grwpiau Cymraeg “bas a drymiau” o’r 60au. ‘Rydym yn eithaf cyfarwydd â record y Blew o 1967 fel enghraifft o grwp cynnar Cymraeg o’r cyfnod, ond hyd yn oed cyn hynny miParhau i ddarllen “Beti A’r Gwylliaid Gleision”

Genod Ni – Merched Y Dryw

Wedi prynu copi o lyfr Gwenan Gibbard, Merched Y Chwyldro, gan Cyhoeddiadau Sain yn ddiweddar. A thua’r un pryd dyma fi’n dod ar draws caset ar thema tebyg, am ferched a grwpiau benywaidd a oedd yn recordio i gwmni Wren/Dryw ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au. “Genod Ni-Merched Y Dryw” yw teitl y caset. RhifParhau i ddarllen “Genod Ni – Merched Y Dryw”

Wren – Dryw

Weithiau Dryw, weithiau Wren. Sefydlwyd y cwmni recordiau yma fel estyniad o gwmni cyhoeddi Llyfrau’r Dryw, Llandybie, gyda Dennis Charles Rees (“Den The Wren”) wrth lyw y cwmni recordiau. Roedd Dennis Rees yn gweithio i Alun Talfan Davies QC fel rheolwr Llyfrau’r Dryw cyn cymeryd rheolaeth ar adain recordiau’r cwmni. Roedd ganddynt stiwdio recordio ynParhau i ddarllen “Wren – Dryw”

Paul Henry (Harmonica).

Dod ar draws record fach ddiddorol gan Paul Henry, pencampwr harmonica (organ gêg). Hyd y gwn i, dyma ei unig record ar label Gymreig – Dryw WRE 1153, sef EP o 1974. Yn ol y nodiadau ar y record, ganwyd Paul Henry yn Abertawe yn 1952, a graddio hefo B.A. mewn Saesneg a Hanes ynParhau i ddarllen “Paul Henry (Harmonica).”

Yr Arian.

Wedi derbyn record go brin at y casgliad heddiw. Grwp o Flaenau Ffestiniog oedd Yr Arian, wnaeth ryddhau eu hunig record sengl ar label Dryw/Wren yn 1974. Mae’n record eithaf prin, yn un o’r dwsin recordiau 7 modfedd olaf i Wren ryddhau cyn darfod yn 1976. I gyd fynd ag enw’r grwp, mae clawr yParhau i ddarllen “Yr Arian.”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni