Cwmni recordiau Gwerin o Llanelli, cwmni yn gysylltiedig â Siop Y Werin, Stryd Y Farchnad Llanelli (perchennog Dyfrig Thomas).
Rhyddhaodd y cwmni tua 48 o recordiau a chasetiau dan eu label eu hunain, gyda rhifau yn dechrau hefo “SYW” (“Siop Y Werin”) rhwng 1976 a 1986, a rhai eraill yn dechrau hefo’r llythrennau “PR”, ac o leiaf pedair record label Brangwyn, hefo rhifau’n cychwyn hefo “BRAN” (1977-1980).
Unigolion, corau a gwerin oedd mwyafrif o recordiau y cwmni, er y bu iddynt ryddhau recordiau pop fel Jip, Seindorf a Caryl a’r Band. Mae rhai o recordiau mwy gwerinol y cwmni bellach yn brin iawn ac yn gallu gwerthu am arian mawr, fel recordiau Carraig Aonair a Pererin.
Fel cwmniau eraill y cyfnod, roedd gan y cwmni gatalog papur – dyma sgan o’r un dwy dudalen o Ionawr 1980 sy’n rhestru tua hanner o gynnyrch y cwmni – gallwch weld rhestr mwy cyflawn ar dudalen y Ddisgyddiaeth. Os ydych yn gasglwr y pethau yma, mae’n werth nodi bod rhai o gatalogau cynharach y cwmni ar bapur glas hefyd.