‘Nôl yn 1983, rhyddhawyd record gan y grwp roc o Fethesda, Maffia Mr. Huws ar y cyd rhwng y grwp a gwyl Pesda Roc. Teitl y record? Hysbysebion.
Ariannwyd y record yn rhannol gan werthu gofod hysbysebu ar glawr y record. Roedd y clawr mewn arddull “gatefold”, sef clawr ddwbl, er mai un record oedd tu mewn (record 12 modfedd, 45cyf, 4 cân arni, rhif Pesda Roc R001).
Roedd yr arddull gatefold yn boblogaidd yn yr 80au – roedd yn bosibl cael mwy o le ar gyfer y gwaith celf ac ati. Yn achos Maffia, defnyddio’r gofod ar gyfer hysbysebion wnaethant – pedair tudalen o hysbysebion!
Felly, dyma gynnig y wobr am y nifer mwyaf o hysbysebion ar un record Gymraeg i Maffia Mr Huws (oni bai bod rhywun yn gwybod yn well!)
O droi at y record ei hun, roedd pedair cân ar y record:
A1 Hysbysebion A2 Byth Eto B1 Tri Chynnig I Gymro B2 Yr Addewid
Tro diwethaf, mi soniais am record las 78cyf Mari Macklin o 1931. Y tro yma, dwi am sôn am recordiau feinyl lliw.
Mae’r rhain reit gyffredin yn y byd cerddoriaeth Eingl-Americanaidd, ond gweddol brin yn y Gymraeg.
Y record liw feinyl gyntaf yn y Gymraeg oedd recordd 12 modfedd goch y Trwynau Coch, “Un Sip Arall”. Enw’r band yn goch. Record lliw coch. Cwmni recordiau Coch!
Pedair cân arni: Byth Mynd I Golli; Angela;Colli Ti; a Pepsi Cola.
“Melyn” gan Adwaith
Y record liw ddiweddaraf y gwn i amdani oedd y record hir “Melyn” gan y grwp Adwaith yn 2018. Record goch, ar waetha’r teitl!
Y Record Goch gan Recordiau Lliwgar
Y Record Las gan Recordiau Lliwgar
Sefydlwyd cwmni Recordiau Lliwgar yn 2011 i gynhyrchu recordiau feinyl lliw. Rhyddhawyd un record 10 modfedd ddwbl mewn feinyl coch yn 2011, hefo’r teitl “Y Record Goch”, ac yna yn 2013 rhyddhawyd Y Record Las mewn feinyl glas.
Ar label Anhrefn, rhyddhawyd un record liw: ANHREFN 13 Heb Gariad-Caneuon O’r De (1987, gwyn, 7″)
Y cwmni ryddhaodd fwyaf o recordiau feinyl lliw oedd y label R-Bennig gan Johnny R., Gwalchmai, Ynys Môn. Dyma restr o’r recordiau:
Diweddariad 25/09/19: Diolch yn fawr i Johnny R am fwy o wybodaeth. O Gwalchmai (nid Gaerwen)oedd R-Bennig. A diolch hefyd i Johnny am fwy o wybodaeth am y recordiau lliw a fflecsi. I ddyfynnu o’i neges e-bost:
” Yn ogystal roedd Crac (feinyl pinc), Pic Nic (gwyrdd) Waw ffactor fflecsi (Hyblyg/binc) a blwyddyn yma (2019) Ari Parri ”Hawe” 5″ clear vinyl R-BENNIG UU 1 Mared Wyn Jones ”Snorkle” 5″ clear vinyl R-BENNIG UU2 Molsan Instamatic ”Molsan EP” 7″ clear vinyl R-BENNIG UU3 Hefyd ar prif label Soft Lad ”Allaim Disgwyl” 7 ” Clear Vinyl R-BEN 143f”
Esboniodd hefyd eu bod yn dathlu 30 yn 2020 – mae’n siwr y bydd yna ddatblygiadau erbyn hynny – a bod sawl cân ar YouTube, megis sengl Ari Parri Esboniodd hefyd eu bod yn dathlu 30 yn 2020 – mae’n siwr y bydd yna ddatblygiadau erbyn hynny – a bod sawl cân ar YouTube, megis https://youtu.be/ssS1OBuSqlE
Cwmni fu’n rhyddhau recordiau 78cyf rhwng 1930 a 1932 oedd Filmophone. Math cynnar o recordiau fflecsi, blygadwy, oedd cyhoeddiadau y cwmni, wedi eu gwneud o seliwlos (cellulose) lliwgar. Rhyddhawyd tua 380 o recordiau 78cyf gan y cwmni.
Gellid rolio’r recordiau hyn i fyny a’u rhoi mewn tiwb er enghraifft. Ond yn anffodus, unwaith wedi plygu neu grychu y record, dyna hi. Diwedd oes y record. Ac yn aml, dim ond gallu eu chwarae rhyw ddwsin o weithiau cyn iddynt ddirywio.
Rhyddhawyd dwy record Gymraeg gan y gantores Mari Macklin yn canu i gyfeiliant piano yn 1931.
Filmophone 330: Alleluia/MyLittle Welsh Home – yn Gymraeg yn ôl y label (fflecsi lliw glas)
Filmophone 331: Y Gwcw Ar Y Fedwen/Y Bugail (fflecsi lliw du)
Hyd y gwn i, dyma’r recordiau fflecsi a lliw cyntaf yn y Gymraeg. Yn anffodus dwi ddim yn gwybod mwy na hyn am y recordiau hyn – rhywun â mwy o wybodaeth?
Os ydych chi’n hoff o ryw newydddeb eithaf doniol, gwahanol, ac yn hoff o anifaeliaid ciwt, mi fyddwch yn hoff iawn o’r record hon, o 1972.
Ben The Singing Dog ydi’r seren ar y record sengl hon, dan y teitl “This Is My Life” (cambrian, CSP 731, 1972).
Anifael anwes i’r gantores ac actores Beryl Hall oedd Ben. Wedi mabwysiadu’r ci’n ifanc, mi sylwodd ei fod yn ufudd a deallus iawn ac yn dysgu’n dda, a dyma fynd ati i’w hyfforddi i berfformio a “chanu”. Erbyn heddiw, diolch i YouTube ac ati, mae recordiadau o anifaeliaid yn eithaf cyffredin, ond ‘nôl yn 1972 mae’n siwr bod y record yma yn dra “gwahanol”.
Mi ymddangosodd ar nifer o raglenni a pherfformio i gannoedd o bobl yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Max Bygraves a Harry Secombe.
Cymysgedd o ddarnau byr o Ben yn canu i gerddoriaeth, a llais Beryl Hall yn sôn am Ben ydi’r record yma.
Mi fyddai Beryl Hall yn llofnodi cefn y clawr – dwi wedi gweld sawl un hefo neges tebyg i’r un ar y clawr isod.
Newyddion da i gasglwyr recordiau Dyffryn Clwyd. Mae Siop Clwyd yn Ninbych yn gwerthu llawer o’u stoc o gasetiau a chryno ddisgiau am tua hanner pris er mwyn lleihau eu stoc.
Dyma rai y bum ddigon ffodus i’w prynu yno bore ‘ma:
Recordiau 7 modfedd gan amlaf, wedi’w wneud o daflen denau o feinyl neu rhyw fath o blastig. Dim llawer tewach na darn o bapur.
Fe ddefnyddiwyd y recordiau fflecsi hyn i ddarparu cerddoriaeth neu llafar gyda rhyw lyfr neu gylchgrawn, fel record ar glawr cylchgrawn gerddorol.
“Fflecsi” yw’r term a ddefnyddir yn y Gymraeg, hyd y gwn i, ond efallai y gellid eu galw’n record hyblyg neu rhywbeth felly?
Mae yn ychydig o recordiau ‘r math yma wedi eu rhyddhau gan gwmniau recordiau Cymraeg a chylchgronau Cymraeg dros y blynyddoedd. Dyma rai ohonynt a lluniau ohonynt lle gallaf:
Recordiau R-Bennig RBE001 A5-Fflecsi (1990) R-BEN 006 Johnny R-Dyddiadur (1991) R-BEN 033 Vaffan Coulo-Jobs 4 The Boys (gyda’r cylchgrawn Sothach rhif 71, Mehefin 1995) Waw Ffactyr-Libido/Cyfweliad Heno (1994) Recordiau Priod REP 003 Treiglad Pherffaith-Rhagrith Pop Rhagfyr (hefo’r cylchgrawn Sgrech, Tachwedd 1984) RYAN03 Terry Waite ar Asid/Ffa Coffi – Chicken Jane/Gwn (1989)
Ryddhawyd recordiau wedi eu gwneud o polyvinyl chloride (PVC) yn yr 1940au, er y bu rhyw faint o arbrofi hefo defnyddiau o’r fath i wneud recordiau byth ers dyddiau yr hen recordiau 78cyf shellac. Roedd RCA Victor wedi dyfeisio recordiau feinyl yn yr 1930au ond ni fu rheini’n lwyddiant masnachol.
Yn raddol, dechreuwyd ddefnyddio’r term “feinyl” am recordiau, pa ddefnydd bynnag a ddefnyddid i’w gwneud.
Mae’n hawdd anghofio efallai nad yw’r to ifanc wedi dod ar draws recordiau feinyl rhyw lawer. Maent yn dod mewn sawl maint ac yn chwarae ar sawl cyflymdra. Mesurir y main ar draws rhan lletaf y record.
7 modfedd – recordiau sengl (un gân bob ochr) ac EPs (mwy nag un gân bob ochr).
10 modfedd – recordiau hir cynnar, yn y 50au a’r 60au. Nifer o recordiau Cymraeg o’r cyfnod hwn gan gwmniau fel Delysé a Qualiton fel y byddech yn disgwyl, ond mae ambell i record mwy diweddar wedi’w rhyddhau, fel rhai o recordiau Gorky’s Zygotic Mynci a Topper gan Ankst yn y 90au, ac “In Luna” gan Georgia Ruth Williams ar label Gwymon yn 2012, a “Swimming Limbs” gan Jen Jeniro ar I Ka Ching yn 2011.
12 modfedd – y record hir gyfoes, sy’n gallu dal tua 22 munud bob ochr o’r record ar gyflymdra o 33 1/3cyf. Ceir ambell i record 12 modfedd 45cyf hefyd, fel un y Trwynau Coch “Un Sip Arall” yn 1979.
Record Voice-O-Graph
Ceir ambell i faint llai cyffredin arall hefyd, fel record 8 modfedd y Celfi Cam “Hwiangerdd” o 1999, a recordiau bach a ddefnyddiwyd mewn tegannau plant ers lawer dydd. Hefyd, ‘roedd yna recordiau 6 modfedd a ddefnyddiwyd i recordio eich llais eich hun ar beiriant Voice-o-Graph mewn bwth arcedau glan y môr neu ffair bach, i’w yrru fel anrheg neu gerdyn post sain o’ch gwyliau glan y môr yn y 50au a’r 60au (cafodd ei ddyfeisio gan gwmni International Mutoscope yn y 40au). Glamp o beiriant mawr tua maint ciosg ffôn, hefo meicroffon, fyddai’n recordio’n syth i ddisg cardfwrdd wedi ei lamineiddio. Doedd y fath record ddim yn para’n hir, yn dirywio bob tro y ca’i chwarae, a gyda dyfodiad tâp yn y 60au, diflanodd y Voice-o-graph yn fuan ar ôl hynny.
Mesurir cyflymdra chwarae recordiau mewn cylchdroadau y funud (cyf). Wedi tranc yr hen recordiau 78cyf, y math mwyaf cyffredin oedd 33 1/3cyf a 45cyf. Mi oedd yna rercordiau arafach hefyd. Gellid recordio mwy o amser ar record arafach, ond ‘doedd yr amser ddim cystal, felly fe ddefnyddiwyd recordiau 16 2/3cyf ar gyfer recordiau llafar yn hytrach na cherddioraeth, fel llyfr llais i’r deillion, er enghraifft. Erbyn y 70au, ‘doedd y cyflymdra yma ddim ar gael ar chwaraewyr recordiau newydd.
Highway HiFi
Digon od, fe ddatblygwyd system yn 1956 gan Chrysler yn yr UDA o’r enw “Highway HiFi” i chwarae recordiau 16 2/3cyf mewn chwaraeydd recordiau ceir, ond ni fu’n llwyddiant mawr, yn enwedig gyda dyfodiad casetiau oedd yn haws i’w defnyddio a mwy dibyniadwy yn y ceir.
Ffurf arall ar y record feinyl oedd y disgiau fflecsi. Wedi’w gwneud o ffilm feinyl denau iawn, tua trwch darn o bapur. Yn aml, defnyddiwyd hwy fel record i fynd hefo llyfrau neu ar glawr cylchgrawn. Digon da i allu eu chwarae ar chwaraeydd cyffredin os oedd y bwrdd chwarae digon gwastad. Os nad oedd ddigon gwastad, weithiau byddai’n rhaid chwarae record o’r fath ar ben record arall! Cafwyd un neu ddwy o esiamplau o’r math yma o record yn y Gymraeg hefyd dros y blynyddoedd.
Dagrau’n Dechrau Disgyn-Ray Jones
Er mai du oedd (ac yw) lliw recordiau feinyl fel rheol, dros y blynyddoedd fe gafwyd recordiau o bob lliw. A llun – ambell waith fe welwn record hefo llun wedi’w gynnwys tu fewn i haenen glir, fel record Ray Jones, “Dagrau’n Dechrau Disgyn” ar label Recordiau MF yn 1984.
Gyda dyfodiad y cryno-ddisgiau yn yr 80au, daeth amser feinyl fwy na lai i ben, gyda gostyngiad sylweddol yn y gwerthiant bob blwyddyn. Ond erbyn hyn, mae peth atgyfodiad, gyda nifer gymharol fach o recordiau feinyl yn cael eu cyhoeddi, recordiau fel “Melyn” gan Adwaith ar label Libertino yn 2018. Ymddengys na fydd recordiau feinyl fyth yn diflannu’n llwyr.
Yn fy nyddiau ifanc i (a dwi’n teimlo’n eitha’ hen ar ôl ysgrifennu hynny!), gweld hysbysebion a newyddion mewn cylchgronau fel Sgrech, neu darllen Y Cymro, neu gwrando ar Radio Cymru oedd y ffyrdd arferol o glywed am recordiau Cymraeg newydd. Neu clywed amdanynt gan rywun arall, neu yn y disgos, neu hyd yn oed mynd i siop Gymraeg i bori drwy eu silffoedd recordiau.
Y dyddiau yma, mae’n siwr mai arlein neu wrth wrando ar raglenni fydd y rhan fwyaf ohonom yn clywed am recordiau newydd Cymraeg.
Dyma rai llefydd lle dwi’n clywed am newyddion am y byd pop a cherddoriaeth Cymraeg.
Logo Sain
Gwefannau y cwmniau recordiau. Yn aml mae gan y cwmniau dudalen ar y wê yn ogystal ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, mae Sain hefo eu tudalen www.sainwales.com , a phresenoldeb ar Facebook ac ar Twitter.
Tudalennau a grwpiau ar Facebook a Twitter, er enghraifft y grwp “Cerddoriaeth Gymraeg” ar Facebook.
Dilyn y gwasanaeth Pyst, sydd ar www.pyst.cymru ac ar Facebook a Twitter. Gwasanaeth dosbarthu, cyhoeddusrwydd a hyrwyddo recordiau yw Pyst. Cewch dipyn o newyddion am recordiau neu lawrlwythiadau newydd (sy’n aml ar gael i wrando arnynt ar y gwasanaethau ffrydio digidol fel Spotify, iTunes ac Apton hefyd). Ceir ambell i bodlediadau i wrando arnynt hefyd.
Rhestrau chwarae (playlists) ar wasanaethau fel Spotify ac Apton. Er enghraifft, dwi’n hoff o ddilyn rhestrau chwarae “C’est Bon” (Ywain Gwynedd – Sebon) a rhestr Pyst ar Spotify gan eu bod yn cael eu diweddaru’n aml hefo llawer o’r caneuon diweddaraf.
Rhestr chwarae Ywain Gwynedd
Rhestr chwarae Pyst
Logo Y Selar
Dilyn Y Selar. Fe sefydlwyd cylchgrawn Y Selar ‘nôl yn 2004. Erbyn hyn, dwy waith y flwyddyn gaiff ei gyhoeddi fel cylchgrawn papur traddodiadol, ond gallwch gadw fyny hefo’r diweddaraf ar y we https://selar.cymru/ a darllen hen rifynnau yn https://issuu.com/y_selar , a maent ar Twitter a Facebook hefyd.
Radio Cymru. Os clywch gân newydd ar Radio Cymru, ond heb glywed ei theitl, mae Radio Cymru yn aml yn rhoi rhestr caneuon rhaglenni ar dudalen y rhaglen ar BBC iPlayer neu BBC Sounds am ychydig wythnosau ar ôl darlledu. Hefyd, os yn gwrando ar wasanaeth digidol fel radio DAB (ceisiwch ennill un ar fore Gwener ar raglen Aled Hughes!) neu Freeview, yn aml mae’n dangos teitl y gân sy’n chwarae ar y pryd.
Logo Y Cymro
Yn fwy traddodial, mae papur newydd Y Cymro (ac ambell i gylchgrawn Cymraeg) yn dal i gynnwys dipyn o newyddion ac adolygiadau am gerddoriaeth newydd. Er mai misolyn yw’r Cymro erbyn hyn wrth gwrs. https://ycymro.cymru/
Ac yn olaf, gwefannau a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol y grwpiau a’r artistiaid eu hunain. Fel rheol, dim ond angen chwilio am enw’r grwp neu artist arlein i gael unrhyw newyddion am eu caneuon newydd, cyngherddau ac ati. Er enghraifft, chwiliwch am y Welsh Whisperer arlein ac fe welwch ei fod yr un mor brysur arlein ag yw yn teithio ledled Cymru!
Oes gennych chi awgrymiadau eraill? Gadewch i mi wybod drwy yrru neges i mi hefo’r ffurflen negeseuo uchod.
Wel, y diweddar actor Bill Tarmey, fu farw yn 2012, yn canu deuawd hefo’r actores Ruth Madoc.
Mae Bill Tarmey, sy’n enwog am actio rhan Jack Duckworth yn yr opera sebon Coronation Street am flynyddoedd lawer, wedi rhyddhau sawl record dros y blynyddoedd. Ond hyd y gwn i dyma’r unig un ar label Gymraeg.
Yn 1988 y rhyddhawyd y sengl ar label Sain – Sain 137S, un o recordiau sengl feinyl olaf Sain. ‘Roedd dwy gân ar y record, “Our Song Of Love” a “The Colours Of Christmas”.
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Edward Wilson Evans a’r geiriau gan Eleri Medley, cyn-athrawes o Brestatyn.
Cantores o Rydamman, a ryddhaodd sengl Gymraeg yn 1970 ar label Major Minor. Dwy gân ar y record
Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl (Geiriau gan Dyfed Lewis a threfniant cerddorol E. D. Williams)
Pwya Ddaw’n Ddi-Stwr (gan Leo Maguire, geiriau Cymraeg gan Davydd Owen)
Sylwer ar y sillafu – dwi wedi copïo air-am-air oddi ar y record. Y cyfarwyddwr cerddorol oedd Arthur Greenslade, a’r cynhyrchydd oedd Tommy Scott.
Pam sôn am y record hon? Wel, y label hon yn cyhoeddi record Gymraeg yn 1970, yn y bôn. Label a sefydlwyd yn 1966 gan Philip Solomon, rheolwr a chynhyrchydd recordiau Radio Caroline. Dosbarthwyd gan Decca.
Cysylltiad hefo Abertawe – mae enw Snell & Sons, Abertawe ar ochr un. Cyhoeddwyr llawysgrifau cerddorol Gymraeg a Chymreig, cwmni a sefydlwyd gan D. J. Snell yn 1900 oedd Snell & Son. Bu iddynt gyhoeddi cyfres o bum sengl caneuon noson lawen Emrys Jones ar un adeg. Dyma ddolen gyswllt i erthygl am David John Snell yn y Bywgraffiadur Cymreig: https://biography.wales/article/s2-SNEL-JOH-1880
Ond yn ôl at Lynda Jenkins. Cyhoeddodd un LP yn 1971 hefo tair cân Cymraeg arni. Enw’r record hir oedd “Love Is All Around”, ar label Decca (SKL 5108). Teitlau y caneuon Cymraeg oedd “Cartref”, “Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl” a “Dwed Wrth Mam Dof Ati Hi”.
Hefyd bu record sengl hefo dwy gân Saesneg ar label Harp – “Where The River Bends” a “Sweet Dulais Valley” (rhif HSP 1028).
Yn ogystal, deuais ar draws record gan y digrifwr a chyflwynydd Radio Wales Owen Money, lle bu hi yn canu llais cefndir ar y gân “Freedom” (label Blackjack Recordings).
Dyma glip bach o’r gân “Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl”.
Ychydig iawn a wyddwn am y gantores yma wedi hynny – oes yna rhywun allan yna sydd a mwy o wybodaeth i’w gynnig?