Record Gymraeg o Canada sydd gen i dan sylw y tro hwn, gan y gantores glasurol Shannon Mercer sy’n hannu o Quebec ac Ottawa. Cryno-ddisg gyda’r teitl “Wales – The Land Of Song/Chansons gallois.”
Mae hi o dras Cymreig – ymfudodd ei thad a mam i Ganada o dde Cymru yn 1967 gyda thri o blant, a chael dau blentyn arall yn Canada, Shannon yn un ohonynt, yr ieuengaf. Mae’n adrodd stori drist am y teulu lle cafodd ei nain ochr ei thad ei gadael mewn basged ar stepen drws cartref plant yn y Gelligaer ym Morgannwg yn 1913.
Mae’n debyg i’w thad daro ar draws y Gymdeithas Gymraeg yn Ottawa ac yna dechrau canu hefo’r Gwalia Singers yno. Yn bymtheg oed, teithiodd Shannon i’r Eisteddfod Rhyngwladol yn Llangollen, gan ddychwelyd i Ganada hefo cwpan arian a ennillodd yn yr eisteddfod! Mae hi’n egluro bod y diwylliant a’r cysylltiadau Cymreig wedi llywio ei bywyd a rhoi hoffter mawr o ganu iddi drwy ei hoes.
Mae hi’n soprano, ac wedi canu yn y byd opera yng ngogledd America.
Ar y gryno-ddisg hon, a ryddhawyd yn 2009 ar label Analekta o Quebec, Canada, mae Shannon yn perfformio hefo’r Skye Consort, sef grwp clasurol dan arweiniaeth y trefnydd Seán Dagher. Mae’r grwp yn perfformio cerddoriaeth o sawl traddodiad ar draws y byd.
Hefo’r cryno-ddisg hon, mae wedi trio gosod y darnau cerddorol ar ffin ychydig yn symudol rhwng cerddoriaeth clasurol a gwerin, gan ddefnyddio sawl offeryn clasurol gyda’r delyn – telyn o’r Eidal o’r 17eg ganrif, er yn debyg iawn i delyn deires Gymreig. Alawon gwerin traddodiadol o Gymru geir ar y CD, fel Bugeilio’r Gwenith Gwyn a Dafydd Y Garreg Wen, pymtheg o ganeuon i gyd.
Mae’n egluro yn y llyfryn ddaw gyda’r CD ei fod wedi treulio cryn amser yn penderfynu pa offerynau a gosodiadau i’w defnyddio ar gyfer y caneuon unigol. Ceir rhai darnau offerynol a rhai hefo Shannon yn canu yn y Gymraeg. Mae’r CD yn llwyddo’n dda i droedio ffin allai fod braidd yn aneglur rhwng y clasurol a’r dull gwerin.
Wrth i mi brynu ychydig o recordiau ar gyfer y casgliad yn ddiweddar, cefais gopi o gryno-ddisg gan gôr o Gymry yn Awstralia.
Map yn dangos Geelong.
Mae’r “Geelong Welsh Ladies Choir” yn hannu o ddinas Geelong, ger Melbourne yn nhalaith Victoria yn Awstralia. Dinas o rhyw chwarter miliwn o bobl, rhyw 45 milltir o Melbourne.
Fe ffurfiwyd y côr yn 1998. Rhyddhawyd y gryno-ddisg “Songs From The Heart” i goffáu eu taith i Gymru ym mis Medi 2004, i berfformio chwe cyngerdd hefo chwech o wahanol gorau meibion. Ceir 17 o ganeuon ar y CD, rhai ohonynt yn y Gymraeg. ‘Does dim label na rhif ar y CD, a gafodd ei recordio yn Pan Studios, Geelong.
Nôl ym mis Ebrill mi soniais am y ddwy gyntaf yn y gyfres hon gan gwmni recordiau R-Bennig.
Erbyn hyn, mae’r trydydd yn y gyfres ar gael, rhifyn mis Gorffennaf.
Lyndsay Davies o Dregarth yw’r arbrofwr y tro hwn. Yn ôl y disgrifiad ar wefan y cwmni ar Bandcamp, mae’n cyfansoddi cerddoriaeth trwy ddefnyddio App papur-lluniau yn y Gymraeg. Mae’n debyg y gallwch chwarae peth ohono’n ôl drwy sganio’r lluniau.
Fel y disgwyl, seiniau cwbl arbrofol a geir yma, yn electroneg eu naws. Deuddeg trac fydd yn apelio ar wrandawyr sy’n hoff o gerddoriaeth arbrofol a gwahanol. Offerynol gan fwyaf, hefo ambell i gyfraniad lleisiol Cymraeg yn y cefndir ar un neu ddau o’r traciau.
Ceir un thema sain yn rhedeg drwy’r cwbl, ond hefo sawl math o gerddoriaeth wahanol ar y gwahanol draciau yn cyd-fynd. Eir mor bell a cerddoriaeth sitaraidd yn y cefndir ar 2 o’r traciau. Gorffennir gyda thrac hefo’r teitl diddorol “Jazz Papur Ty Bach”.
Mae’r casgliad hwn yn arbrofol ac yn sicr yn wahanol. Mae’n byw fyny i deitl y gyfres “Welsh Experimentalist yn dda iawn. Os ydych yn hoff o gerddoriaeth arbrofol neu’n chwilio am rhywbeth ychydig bach yn wahanol i’r recordiau Cymraeg arferol, mi fyddwch yn mwynhau hon.
Mae Welsh Experimentalist #3 ar gael am daliad o bunt neu fwy am albwm o 12 o draciau drwy gwefan R-Bennig ar Bandcamp:
Y record ddiweddaraf i mi ei hychwanegu i’r casgliad yw “Lliwiau”, record EP gyntaf y grwp Sidan (Sain 27, 1972).
Grwp o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd oedd Sidan – Caryl Parry Jones, Gaenor Roberts, Sioned Mair, Meinir Evans a Gwenan Evans.
Yn ôl y nodiadau ar gefn clawr y record, “Daeth Sidan i Amlygrwydd ar ôl ennill y gystadleuaeth canu ysgafn yn Eisteddfod Jiwbili yr Urdd yn y Bala, yna y gystadleuaeth radio ‘Dewch I’r Llwyfan’ “
Cafwyd un EP arall ganddynt, sef “Ai Cymro Wyt Ti?” (Sain 40, 1973), ac un record hir, “Teulu Yncl Sam” (Sain 1017, 1975, hefyd ar gaset Sain C517). Bu i’r grwp hefyd gyfrannu tuag at recordiau eraill, fel Gorffennwyd (stori’r Pasg) yn 1976.
Beth sy’n ddiddorol am y record hon yw’r llawysgrif ar gefn y clawr, yn Saesneg, fel a ganlyn:
To Prince & Princess Llewelyn & Lady Maureen From Lord and Lady Caer. Gwrych Castle 6th July 1973, Abergele.
‘Roedd castell Gwrych yn dal ar agor i’r cyhoedd yn 1973 a phob math o ddigwyddiadau yno. Byddai’n ddiddorol gallu ffeindio allan be oedd y digwyddiad ac arwyddocad yr ysgrif!
Fel casglwr recordiau Cymraeg, mae’n beth diddorol iawn weithiau cael taro ar draws record nad oeddwn yn gwybod am ei bodolaeth. Yn enwedig pan fo hanes diddorol iawn yn gysylltiedig â’r record. Ac wrth gwrs hefo apêl arbennig i mi gan fod cysylltiad a’i ardal ar ochr teulu fy nhad.
Recordiad o lais y pregethwr dall, y Parch. Evan Edward Rowlands o Ddolgellau a geir ar y record hir hon. Recordiad breifat o’i lais yn pregethu a chanu yn Saesneg a’r Gymraeg yw hon. Un ochr o’r record yn Gymraeg, a’r llall yn y Saesneg. Fe’i rhyddhawyd i gofio amdano wedi ei farwolaeth ar yr ail o Fawrth 1976 yn 75 oed. Mae’n enghraifft dda o recordiad ag apêl bro, lly byddai mwyafrif gwerthiant y record yn lleol i ardal y perfformiwr mae’n siwr.
Cafodd y record ei chyhoeddi ar label Tryfan (TRF 207 oedd y rhif), sef adran recordiau preifat cwmni Recordiau Sain, yn 1976. Aeth elw o werthiant y record i Gymdeithas Y Deillion Gogledd Cymru, achos a oedd yn agos at galon Evan Rowlands gan ei fod wedi bod yn ddall ei hun ers yn ifanc. Mae diolch ar glawr y record i Mr. D. McCaffrey, siop Celfi Diddan, Dolgellau fu’n gwerthu’r record heb elw iddo’i hun – mae sticer fach binc y siop yn dal ar glawr y record 45 mlynedd yn ddiweddarach!
Wedi’w eni ym mythynnod Glan Afan yn Nolgellau yn 1901, fe fu’n byw yn yr ardal y rhan fwyaf o’i oes. Bu’n byw am gyfnod yn Maesgwm, y Ganllwyd, a chafodd addysg yn ysgol y deillion yn Lerpwl ac Edgbaston lle dysgodd i ddarllen Braille yn y ddwy iaith, ac ymlaen i Goleg Bala-Bangor.
Y gerdd er cof.
Aeth yn bregethwr – ordeinwyd ef i’r Weinidogaeth Annibynnol yn 1927. Bu’n pregethu am 60 mlynedd, er na chafodd erioed ofalaeth eglwys. Mae’n debyg iddo fod yn bregethwr cyfarwydd ar draws ardal eang o Ogledd Cymru. Mae un o’r traciau yn gofnod ohono yn gweinyddu priodas merch ym Margam, wedi iddo weinyddu priodas ei mham hefyd. Bu’n briod a’i wraig gyntaf Nancy (Annie Goodman) am 43 mlynedd, ac yna i Rosalind tan ei farwolaeth yn 1976. Fe’i gladdwyd ym mynwent Dolgellau.
Ceir cerdd Saesneg “In Loving Memory Of Evan” ar gefn y clawr, lle mae pob llinell y gerdd yn cychwyn gyda llythrennau ei enw llawn i gofio amdano – gweler y llun.
Ffaith fach ddiddorol yw’r cysylltiad â darlun Salem, gan Vosper.
Salem, gan Curnow Vosper
‘Roedd mam Evan Rowlands yn un o’r bobl yn y llun Salem, gan Sydney Curnow Vosper o 1908. Llun o du fewn Capel Salem, capel y Bedyddwyr ym Mhentre Gwynfryn yng Ngwynedd. Roedd ei nain yn ofalwr i’r capel.
Mae’n debyg fod Evan Rowlands ei hun i fod yn y llun hefo’i fam (dywed ar y record ei fod yno wrth i’r paentio gael ei wneud, ar ei wyliau o ysgol y deillion ar y pryd), ond gan iddo fethu eistedd yn llonydd ddigon hir i gael paentio ei lun, fe welir ei gefnder Evan Edward Lloyd (yr olaf yn y llun i farw, yn 1963) yn ei le, yn eistedd gyda mam Evan Rowlands, Mrs Mary Rowlands yn y cefndir i’r dde pell o’r prif gymeriad, Siân Owen Ty’n Y Fawnog. Mae’n debyg i bawb yn y llun gael eu talu 6 hen geiniog (2.5p heddiw) yr awr am eistedd ar gyfer y llun! Ffeithiau bach ddiddorol am Salem – wyddoch chi mai dymi yw’r ddynes ganol gyda’r het Gymreig, nid person go iawn, a mai un het Gymreig oedd ar gael i baentio’r llun a’r merched yn gorfod ei rhannu pan yn cael eu paentio.
Dywed Evan Rowlands ar y record ei fod yn cofio Robert Williams, Caer Meddyg, fel blaenor, y dyn a’i ben ar ei ddwylo ar y chwith yn y llun, yr unig un yn y llun mae’n debyg oedd yn aelod o Gapel Salem.
Fe geir mwy o wybodaeth am hyn ar drac cyntaf y record, sef eitem o Rhwng Gwyl A Gwaith y BBC o 1974 am y llun, yr un flwyddyn ag y rhyddhawyd record hir Salem gan Endaf Emlyn.
Diolch yn fawr iawn i Simon Thwaite, Caernarfon (Gwynedd Record Collector ar Facebook) am ddod o hyd i’r record a’i gwerthu i mi.
Wedi bod yn pori drwy gwefannau fel Discogs ddoe a heddiw, ac od yw sylwi bod prisiau lot o gryno-ddisgiau dipyn drytach yn ail law nag yn newydd sbon er eu bod dal ar gael!
Mae’n fwyaf amlwg ar nifer o gryno-ddisgiau Sain a Fflach – os yw pris yr eitem yr ydych yn chwilio amdano yn fwy na rhyw £3-£4 mae’n werth mynd ar wefannau y cwmniau recordiau Cymreig i edrych os yw’r CD yn dal ar gael i’w phrynu. Bydd hynny yn aml yn rhatach ac yn sicrhau bod eich arian yn mynd i ddwylo y cwmniau recordiau a’r artistiaid yma yng Nghymru. Llawn gwell nag i’r rhai tu allan i Gymru sy’n trio gwerthu CDs sydd dal ar gael am £5.99 neu £9.99 ar wefan Sain, er enghraifft, ond tua £20 ar wefannau fel Discogs.
Mae’r farchnad recordiau ail-law Cymraeg wedi mynd braidd yn anodd yn ddiweddar – prisiau yn codi wrth i bobl sylweddoli gwerth a phrinder y recordiau. Adeg yma llynedd mi oeddwn yn gallu prynu recordiau am rhyw ychydig bunnoedd reit hawdd. Am rhyw reswm eleni mae prisiau llawer uwch. Lot o’r rhai hefo’r prisiau uwch hefo’r geiriau “rare Welsh…” yn y disgrifiad.
Efallai bod y cyfnodau clo wedi achosi bod llai o recordiau Cymraeg yn cael eu gwerthu yn ail law, a bod y gwerthwyr dramor wedi sylwi ar hynny a chymeryd mantais i drio gwthio’r prisiau fyny?
Un peth da yd fod y recordiau drud yn aros ar werth am amseroedd maith weithiau, felly yn y pen draw mae’n bosibl y bydd hynny’n dechrau gwthio prisiau yn ol lawr unwaith eto. Gobeithio.
Mae yna fersiwn newydd o’r Ddisgyddiaeth yma rwan. Fersiwn 21/04/21 Nifer o ychwanegiadau, ambell i gywiriad. Ar gael fel rhestr recordiau mewn taenlen Excel, neu fel dogfen PDF.
Math o record feinyl, hefo llun wedi’w gwasgu o fewn haenau dan wyneb glir, fel rheol yn rhedeg ar draws y record a than y rhychau.
Hyd y gwn i, ‘does yna fawr ddim o’r rhain wedi’w rhyddhau yn y sîn recordiau Cymraeg – dim ond dwy y gwn i amdanynt – er bod llawer o recordiau feinyl lliw neu feinyl clîr wedi dod i’r fei.
Y cyntaf oedd ‘Dagrau’n Dechrau Disgyn” gan Ray Jones o Aberystwyth, a ryddhawyd ‘nôl yn 1984 ar label Recordiau M.F. dan gynhyrchiad Tidy Tone Music. A chân o’r enw “Ferch O Ferch” ar yr ail ochr.
Dagrau’n Dechrau Disgyn gan Ray Jones
Eleni ddaeth y nesaf i mi wybod amdani. “Tagu” oedd teitl y record saith modfedd, gan yr International Dole Boi gyda Carla Mair Eccles, ar label R-Bennig, neu o leiaf ar is-label o’r enw SWSH, yn 2021. Dwi ddim yn siwr os yw hon yn record swyddogol neu dim ond “promo copy”.
“Tagu”, gan International Dole Boi gyda Carla Mair Eccles.
Oes yna rywun yn gwybod am fwy o llun-ddisgiau Cymraeg?
Dyma albwm newydd gan label R-bennig. Deuddeg o draciau o gerddoriaeth ‘arbrofol’ gan gyfansoddwr o Ynys Môn dan yr enw Lomax.
Yr albwm cyntaf mewn cyfres dan y teitl ‘The Welsh Experimentalist’ yw hon, lle mae cyfansoddwyr cerddoriaeth arbrofol yn cael cyfle i arddangos eu talent, dan nawdd Johnny R a label R-Bennig.
Clawr The Welsh Experimentalist #1
Cerddoriaeth synth hefo ambell i effeithiau sain tebyg i flutter echo a defnyddio synnau tebyg i white noise i gyfleu naws gwynt neu môr. Cyfres o ganeuon offerynol gawn ni yma, hefo ambell drac gyda synth yn unig, ac ambell un gydag offer taro electroneg.
Mae’r trac olaf hefo mwy o naws cerddoriaeth ddawns, trac o’r enw “Crwydriadwr”, a berfformir gan DJ Cassie Stephens vs Lomax (Cassie Stephens yw’r ferch ar glawr rhai o recordiau a chryno ddisgiau diweddar y label). Llawer mwy upbeat na gweddill yr albwm, ond eto hefo’r synnau arbrofol yn gyfeiliant i’r bît.
Ydych chi’n fan o gerddoriaeth arbrofol? Mae’n werth mynd draw i dudalen R-Bennig ar Bandcamp lle gallwch wrando ar rai o’r traciau a phrynu copi o’r albwm am bunt neu fwy (fyny i chi yn union faint!), neu gyrru copi fel anrheg.
Fel rheol, dwi ddim yn fan mawr o gerddoriaeth arbrofol, ond mi wnes i ddod yn agos i fwynhau hon.
Disgwylir yr ail albwm yn y gyfres hon erbyn dechrau mis Mai eleni, gan “The North Wales Theremin Orchestra” – theremin yw offeryn ddyfeiswyd gan Leon Theremin yn 1928, lle nad oes cyswllt rhwng ddwylo’r perfformiwr a’r offeryn ei hun. Mae gan yr offeryn ddwy aerial sy’n ei alluogi i synhwyro lle mae dwylo’r perfformiwr yn gymharol i’r offeryn ei hun. Fe glywch swn y theremin ar y rhaglen deledu Midsomer Murders. Bydd yr ail albwm The Welsh Experimentalist hefyd yn costio punt neu fwy drwy Bandcamp.
Jac a Wil Davies oedd deuawd fwyaf poblogaidd Cymru drwy ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Bu eu henwau yn gyfystr a’r deuawdau traddodiadol yn y Gymraeg.
Dau frawd oedd Jac a Wil. Yn rhan o deulu o naw o blant, chwech o frodyr a thair chwaer – Evelyn, Mary, Pat, Allenby, Tom, Wil, Corris, Cadfan a Jac. Plant i Mark a Catherine Davies, fferm Waunwen ger pentref Cefneithin, Cross Hands, fferm fechan tua ugain erw oedd Waunwen. Glöwr oedd tad y ddau.
Ganwyd Wil yn 1915 a John Wesley Davies (Jac) yn 1917. Priododd Wil â Lena Hughes, a priododd Jac ag Ethel Morgan.
Byddai’r teulu’n mynd i gapel Tabernacl yng Nghefneithin. Yno y byddai’r teulu yn addoli a chanu ers yn ifanc, ac yn deulu cerddorol eu hunain. Bu iddynt ffurfio côr i’r teulu berfformio mewn digwyddiadau lleol, gyda’r enw Côr Yr Aelwyd. Erbyn eu harddegau, roedd Wil a Jac yn canu gyda Chôr Meibion Y Tymbl. Cyfeilydd y côr oedd Tom Hughes, a fyddai’n gymaint o ddylanwad ar yrfa gerddorol Jac a Wil.
Wedi perfformiadau y côr, yn aml y bu galw ar i Jac a Wil berfformio un o’u caneuon fel deuawd, arwydd o bethau i ddod.
Fel nifer o ddynion yr ardal, aeth y brodyr i weithio i’r pyllau glo pan yn ddigon hen, fel eu tad. I waith glo Blaenhirwaun yr aethant. Bu bron i Wil gael ei ladd mewn damwain yn y lofa unwaith, lle y collodd ei gyfaill Garfield i’r nwy – mae’n debyg fod hyn a digwyddiadau eraill wedi cael dipyn o effaith ar Wil dros y blynyddoedd.
‘Roedd hi’n gyffredin i sawl glôwr ddioddef o glefydau llwch y glo adeg hynny wedi gweithio am flynyddoedd lawer dan ddaear. Ceisiodd Jac gael gadael y lofa adeg y rhyfel, gan nad oedd yn hapus yn gweithio yno, a chael caniatad yn y pen draw wedi peth ffwdan gyda’r awdurdodau (‘roedd gweithio mewn pyllau glo adeg y rhyfel yn cael ei ystyried yn waith pwysig iawn). Yn 1943, ymunodd a’r Royal Army Service Corps. Cafodd deithio i sawl gwlad tra’r oedd Wil yn dal i weithio dan ddaear – byddai ei hoffter o deithio yn nodwedd o Jac am weddill ei fywyd. Bu galw ar Jac i ganu i’w gyd-filwyr sawl gwaith.
Tumble Trobadours
Wedi’r rhyfel, wrth i’r milwyr ddychwelyd adref ac i fywyd cymdeithasol ail ddechrau, roedd y capeli, y canu a’r adloniant yn dipyn o ffocws bywyd y pentrefi. Cafodd Jac waith fel swyddog stordy i’r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Rhydaman, lle y bu’n gweithio tan ei ymddeoliad, tra’r oedd Wil yn dal i weithio yn y pwll. Ond canu fyddai eu byd. Bu Jac a Wil yn aelodau grwpiau a chorau fel y Tumble Trobadours yn 1947 a Chôr Meibion Mynydd Mawr, yn ogystal a pherfformio fel deuawd.
Yn 1957, aeth y ddau frawd a grwp bach o ffrindiau i’r Cennen Arms, Trapp, ger Llandeilo. Tra yno, cafwyd gwahoddiad i berfformio, a phwy oedd yn digwydd bod yno i’w clywed ond y bargyfreithiwr Alun Talfan Davies (a gychwynodd Llyfrau’r Dryw gyda’i frawd yn 1940). Cafwyd gwahoddiad i berfformio eto, y tro hwn o flaen Alun Talfan Davies a’i frawd Aneurin. Yn dilyn hynny, cafwyd wahoddiad i berfformio yn nathliadau Gwyl Dewi Cymry Llundain yn Neuadd Albert, Llundain, o flaen cynulleidfa o filoedd o bobl. Bu bron i swildod naturiol Wil fod yn drech nag ymddangos (fo oedd yr un swil, tra’r oedd Jac yn llawer mwy hyderus ar lwyfan), ond gallasent edrych yn ôl ar y perfformiad hwn fel eu ymddangosiad swyddogol cyntaf fel y ddeuawd Jac a Wil. Wedi hyn, bu teithio led-led Cymru yn beth cyffredin ar y naw iddynt am flynyddoedd lawer.
Cyn hir, daeth gwahoddiad oddi wrth John Edwards, cwmni Qualiton, i wneud record. Y cyntaf o nifer fawr o recordiau i Qualiton ac yna i Welsh Teldisc.
Recordiau 78cyf ddaeth gyntaf, gyda’r ddwy gân ‘O Dwed Wrth Mam Rwy’n Dyfod’ ac ‘Arfer Mam’ ar y cyntaf un. Y cyntaf o nifer o recordiau 78cyf i’r cwmni. Cafodd y caneuon ar yr hen recordiau hyn eu ail-ryddhau ar feinyl yn ddiweddarach gan Qualiton, Welsh Teldisc a Sain.
Recordiau 78cyf Qualiton GM 2239 O Dwed Wrth Mam Rwy’n Dyfod/Arfer Mam GM 2241 Yr Arw Groes/Gweddi Mam GM 2242 Craig Yr Oesoedd/Duw Cariad Yw GM 2244 Gawn Ni Gwrdd/Golau Ar Y Lan (Bliss) GM 2245 Cyfrif Y Bendithion/Ty Fy Nhad GM 2246 Nac Wyled Teulu Duw/O Iesu Mawr GM 2247 Ble Mae Fy Machgen Hoff/Cawn Fynd Adref
Recordiau 78cyf Jac a Wil i Qualiton
Dylanwad mawr ar Jac a Wil fel deuawd oedd Tom Hughes. Fel Jac a Wil, bu’n aelod o’r Trwbadwrs, yn arweinydd Côr Y Tymbl, ac yn frawd i wraig Wil, Lena. Tom sy’n cael y clod am “swn” Jac a Wil, gan drefnu caneuon yn arbennig ar gyfer eu lleisiau hwy. Mae’n debyg i’r rhan fwyaf o ganeuon Jac a Wil ddod o lyfr Swn Y Jiwbili a’r llyfr emynau. Mae’n debyg nad oedd Wil yn gallu darllen lawer o gerddoriaeth, felly yn dysgu y caneuon o’i gof.
Un o ganeuon enwocaf Jac a Wil oedd “Pwy Fydd Yma ‘Mhen Can Mlynedd“. Mi fu bron i hon a pheidio a chael ei recordio, gan nad oedd neb yn rhy siwr pwy gyfansoddodd y gân. Ond fe’i recordiwyd a’i rhyddhau, cyn derbyn llythyr (braidd yn flin mae’n debyg) yn egluro mai Llwyd Williams, Capel Ebeneser, Rhydaman a’i chyfansoddodd i ddathlu can-mlwyddiant y capel. Yn ffodus, ni wnaeth hyn atal y record rhag cael ei rhyddhau!
Aethant ymlaen i recordio sawl record i Qualiton a Welsh Teldisc ddiwedd y 50au a thrwy’r 60au. Y mwyafrif yn y Gymraeg, ac ambell i un Saesneg gan bod galw mawr am eu caneuon y tu allan i Gymru hefyd. Digon od, er i’r ddau gwmni ryddhau recordiau hir, ni chafwyd record hir gan Jac a Wil (ar wan i’r casgliadau ryddhaodd Sain yn y 70au)
Qualiton QSP 5003 Tell Mother I’ll Be There/Mother’s Ways (Yn Saesneg) WSP 5056 Gawn Ni Gwrdd/Golau Ar Y Lan WSP 5058 Cyfrif Y Bendithion/Ty Fy Nhad WSP 5059 O Iesu Mawr/Nac Wyled Teulu Duw WSP 5060 Ble Mae Fy Machgen Hoff/Cawn Fynd Adref WSP 5069 Pwyso Ar Ei Fraich/Hapus Awr WSP 5070 Tirion A Thyner/Dyma Feibl Annwyl Iesu WSP 5074 O Dwed Wrth Mam/Arfer Mam WSP 5080 Pwy Fydd Yma ‘Mhen Can Mlynedd/Duw Cariad Yw
Rhai o’u recordiau ar label Qualiton
Welsh Teldisc (Caneuon Cymraeg er y teitlau Saesneg ar y cloriau) TEP 821 The Songs Of Jac a Wil (1963) TEP 824 Jac a Wil Sing (1963) TEP 827 Jac a Wil Favourites (1964) TEP 829 The Homely Songs Of Jac a Wil (1964) TEP 835 Star Songs Of Jac a Wil (1964) TEP 840 Songs With Sentiment by Jac a Wil (1964) TEP 844 Jac a Wil Yn Canu Carolau (1964) TEP 846 Jac a Wil Sing Familiar Songs (1964) TEP 852 Jac a Wil Special Requests (1965) TEP 855 Jac a Wil Yn Canu Carolau, Ail Record (1965) TEP 860 Songs Of The Cross (1966) [Canfed record Welsh Teldisc yn ol y clawr!] TEP 869 Caneuon Ysgafn (1968)
Recordiau Jac a Wil ar label Teldisc
Teldisc Evangelical SEP 304 Songs In Brotherly Harmony-Jack And Will Davies (1964) (4 cân yn Saesneg – Tell Mother I’ll Be There/Nailed To The Cross/The Old Rugged Cross/He Died Of A Broken Heart).
Mae’n debyg y bu i’w recordiau a chasetiau werthu miloedd lawer dros gyfnod o hanner can mlynedd, dros gan mil yn ôl rhai. Wedi i gwmni Sain dderbyn hawlfraint hen recordiau fel Teldisc, fe ryddhawyd tair record hir a chaset o gasgliadau o ganeuon Jac a Wil yn 1976 ac 1978. Ac yna, yn 2005, fe ryddhawyd casgliad Goreuon Jac a Wil ar gryno-ddisg, i sicrhau bod lleisiau y ddeuawd i’w clywed i’r dyfodol.
Sain 1057H/C557G Jac a Wil Cyfrol 1 (1976) Sain 1067H/C576G Jac a Wil Cyfrol 2-Carolau Nadolig ac Emynau (1976) Sain 1112H/C712G Jac a Wil Cyfrol 3 (1977) Sain SCD 2330 Goreuon Jac a Wil (2005)
Tair record a chryno-ddisg Jac a Wil ar label Sain
Byddai’r holl berfformio a theithio yn gryn fyrdwn ar y ddau dros y blynyddoedd, yn enwedig gan eu bod yn gweithio llawn amser ochr yn ochr a’r perfformio. Ni fyddai’r ddau yn dreifio, bu pobol eraill yn eu cludo i’r cyngherddau. Yn aml, mae’n debyg, byddent yn cyrraedd adref yn oriau man y bore, cwpl o oriau a gwsg a syth i’r gwaith. Hefyd, ‘roedd iechyd Will yn enwedig yn dirywio hefo’r clefyd llwch ar ol blynyddoedd o weithio yn y pwll glo a’r profiadau o golli cyd-weithwyr mewn damweiniau ac i afiechyd yn pwyso’n drwm arno.
Daeth y perfformio rheolaidd fel deuawd i ben erbyn tua 1976, er y cafwyd ambell gyngerdd ac ymddangosiad teledu wedi hynny. ‘Roedd yr ymddangosiad olaf ar y teledu mewn Noson Lawen a recordiwyd ar y 7ed o Fedi 1983, a dim ond ambell i gyngerdd achlysurol wedi hynny. Parhaodd Jac i berfformio’n unigol o bryd i’w gilydd.
Collodd Jac ei wraig Ethel ar fore Sadwrn 17eg o Fai 1986.
Bu farw Wil yn 72 oed ar yr 11eg o Fedi 1987 wedi gwaedlif ar yr ymenydd, a chafodd ei gladdu ym mynwent Y Tymbl.
Er yr holl deithio i berfformio dros y blynyddoedd, roedd Jac yn dal yn hoff o deithio a chanu. Bu’n aelod o Gôr Mynydd Mawr, Côr Meibion De Cymru, Cantorion Y Rhyd a’r Parti Bach.
Cafodd Jac ei anrhydeddu gan yr eisteddfod yn 1991, pan y’i urddwyd â’r Wisg Wen. Cymerodd yr enw gorsedd “Jac o Jac a Wil”.
Derbyniodd Jac ddisg aur gan gwmni Sain yn 1999 fel rhan o ddathliadau Sain yn 30 oed y flwyddyn honno. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth gwerthiant eu recordiau ac am eu cyfraniad cerddorol ac adloniadol i Gymru. Hefyd yn 1999 mentrodd ar daith i’r Wladfa, yn ei wythdegau erbyn hynny.
Yn 2007, fe drefnwyd parti 90 oed i Jac yng ngwesty’r Llwyn Iorwg, Caerfyrddin ar nos Iau’r Pasg.
Bu farw Jac Davies ar y 5ed o Chwefror 2008 yn 90 oed.