Cyhoeddodd recordiau Wren ddwy record gan y grwp braidd yn anghyfarwydd hwn. Mae nhw’n recordiau diddorol gan eu bod yn enghraifft prin o grwpiau Cymraeg “bas a drymiau” o’r 60au. ‘Rydym yn eithaf cyfarwydd â record y Blew o 1967 fel enghraifft o grwp cynnar Cymraeg o’r cyfnod, ond hyd yn oed cyn hynny miParhau i ddarllen “Beti A’r Gwylliaid Gleision”
Archifau Categori: casglu
Teyrnged i David Lloyd
Wedi i mi sgwennu am y tenor, David Lloyd yn ddiweddar, mi wnes i daro ar draws record deyrnged i David Lloyd, gan y tenor Cymreig Wynford Evans, a Abertawe. “Teyrnged i David Lloyd” yw teitl y record a’r caset, a gyhoeddwyd gan Sain yn 1982 (Sain 1246D yw’r record hir, a Sain C846N yw’rParhau i ddarllen “Teyrnged i David Lloyd”
David Lloyd
Siawns ein bod i gyd yn gwybod am y tenor enwog, David Lloyd. Neu David George Lloyd a rhoi ei enw llawn iddo. ‘Roedd yn un o’r tenoriaid cyntaf o Gymru i geisio cynulleidfa tu allan i Gymru, yn y byd opera, oratorio a recordio. Ond yng Nghymru, ‘roedd yn enwog hefyd am ganu emynauParhau i ddarllen “David Lloyd”
Gwahanol Fersiynau
Wrth gasglu hen recordiau, buan iawn y dewch i sylweddoli y ceir mwy nag un fersiwn o ambell i record. Ar y dechrau, roeddwn yn anelu cael un copi o gymaint o recordiau Cymraeg ag y gallwn. Dros amser deuais i sylweddoli bod ambell i fersiwn o rai recordiau. Er Enghraifft, edrychwch ar recordiau 7Parhau i ddarllen “Gwahanol Fersiynau”
Gethin Jet
Mae recordiau R-Bennig wedi lansio is-label newydd hwylus, sef Recordiau Sâl. Un o nodweddion y label newydd mae’n debyg yw fod pob deunydd am ddod mewn bag chwdu (heb ei ddefnyddio, gobeithio…). Gethin Jet yw’r artist cyntaf ar y label, hefo traciau am gwmni hedfan Easyjet. Ar y traciau, mae’r cymeriad (aelod o staff EasyjetParhau i ddarllen “Gethin Jet”
Cân Y Blog Recordiau
Hmm, dwi’n meddwl fod Y Blog Recordiau yn “sefydliad” bellach… wedi’r cwbl mae Y Pregethwr Aur wedi canu amdano! Os ydych yn fodlon anwybyddu y llun hyll ar y dudalen, gwrandewch ar y gân drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Recordiau R-Bennig: https://r-bennig.bandcamp.com/track/y-blog-recordiau Mae’r trac yn ran o LP newydd gan R-Bennig, sef “DarlithParhau i ddarllen “Cân Y Blog Recordiau”
Genod Ni – Merched Y Dryw
Wedi prynu copi o lyfr Gwenan Gibbard, Merched Y Chwyldro, gan Cyhoeddiadau Sain yn ddiweddar. A thua’r un pryd dyma fi’n dod ar draws caset ar thema tebyg, am ferched a grwpiau benywaidd a oedd yn recordio i gwmni Wren/Dryw ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au. “Genod Ni-Merched Y Dryw” yw teitl y caset. RhifParhau i ddarllen “Genod Ni – Merched Y Dryw”
Merêd
Gan mlynedd yn ôl o’r wythnos hon fe annwyd yr arbennigwr canu gwerin Cymraeg, Meredydd Evans (neu Merêd). Bu’n weithgar ym meysydd canu gwerin, darlledu ac adloniant drwy’r rhan fwyaf o’i fywyd. Yn un o enwogion y genedl. Ar y 9ed o Ragfyr 1919 fe’i annwyd yn Llanegryn, sir Feirionnydd, yr ieuengaf o blant CharlotteParhau i ddarllen “Merêd”
Ategolyn Recordiau
Rhywbeth eithaf gwahanol y tro hwn! Fe gewch ambell record saith modfedd Gymraeg hefo canol record jukebox. Mae’n eithaf cyffredin ar recordiau Teldisc, Cambrian a Qualiton. Weithiau, mi ddewch ar draws recordiau hefo’r canol hwn ar goll. Daw ambell i chwaraeydd recordiau gyda’r darn angenrheidiol modfedd a hanner, wrth gwrs, ond mi ddeuais i arParhau i ddarllen “Ategolyn Recordiau”
Dic Penderyn
Record brin iawn o 1978 wedi’w hychwanegu i’r casgliad yn ddiweddar (diolch yn fawr i Tomos Gwyn).. Rhyddhawyd y record sengl “Dic Penderyn” gan Theatr Yr Ymylon yn 1978, i gyd-fynd â’r opera roc Dic Penderyn flwyddyn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd. Ceir dwy gân ar y record sengl hon, sef “Bach Bach” gan Meic Stevens,Parhau i ddarllen “Dic Penderyn”
