Gan mlynedd yn ôl o’r wythnos hon fe annwyd yr arbennigwr canu gwerin Cymraeg, Meredydd Evans (neu Merêd). Bu’n weithgar ym meysydd canu gwerin, darlledu ac adloniant drwy’r rhan fwyaf o’i fywyd. Yn un o enwogion y genedl. Ar y 9ed o Ragfyr 1919 fe’i annwyd yn Llanegryn, sir Feirionnydd, yr ieuengaf o blant CharlotteParhau i ddarllen “Merêd”
Archifau Categori: newyddion
Diweddaru’r Ddisgyddiaeth
Dwi wedi bod wrthi’n diweddaru y Ddisgyddiaeth yn ddiweddar. Mae cryn dipyn o ychwanegiadau ers y fersiwn diweddaraf ym mis Gorffennaf. Dwi’n ddiolchgar iawn i Rhian Eleri o gwmni Sain, ac i Johnny R o R-Bennig am wybodaeth ychwanegol ar gyfer cynnyrch y ddau gwmni. Hefyd, diolch yn fawr i’r rhai yrrodd manion gwybodaeth ychwanegolParhau i ddarllen “Diweddaru’r Ddisgyddiaeth”
Gwerthiant Gorau.
Mae’n swyddogol mai Trebor Edwards yw’r artist a werthodd fwyaf o recordiau Cymraeg i gwmni Sain. Yn ôl y cwmni, mae Trebor wedi gwerthu dros 155,000 o recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau ar label Sain yn yr hanner can mlynedd ers sefydlu y cwmni. Bu Trebor yn sgwrsio hefo Aled Hughes ar Radio Cymru bore ddoe.Parhau i ddarllen “Gwerthiant Gorau.”
Arddangosfa Sain.
Wedi bod ar ymweliad fer â Chanolfan Sain yn Llandwrog heddiw, i weld Arddangosfa 50 Sain. Diolch yn fawr i’w derbynydd am y croeso. Mae yna dipyn i’w weld, boed yn luniau, hen offer stiwdio, copïau o hen lythyrau, cloriau hen recordiau a gwybodaeth. Diddorol iawn – efallai y byddaf am ymweld eilwaith rhywbryd iParhau i ddarllen “Arddangosfa Sain.”
Poster 50 Sain a Gostyngiad.
Mae poster 50 Sain wedi cyrraedd ac yn rhoi ychydig o liw ar y wal wen yn y ty ‘ma. Mae’n dod mewn tiwb cardfwrdd tua 5cm ar draws, sydd ychydig yn rhy fawr i fynd trwy’r blwch llythyrau. Dim ond £5 oddi wrth Sain, cynnwys cludiant i’r D.U. Fel cam pellach i ddathlu’r hannerParhau i ddarllen “Poster 50 Sain a Gostyngiad.”
Sain yn 50.
Heddiw yw penblwydd swyddogol cwmni Sain yn 50. Ie, ‘nôl ar adeg hyn yn 1969 fe gychwynodd Sain ar daith hir a llewyrchus ym myd cerddoriaeth Cymru, gan gyhoeddi cannoedd o recordiau, casetiau a chryno ddisgiau a bellach yn y byd digidol wrth gwrs. Bu dipyn o ddathlu cyn heddiw wrth gwrs – yn yrParhau i ddarllen “Sain yn 50.”
Am Gadw Fyny Â’r Diweddaraf?
Yn fy nyddiau ifanc i (a dwi’n teimlo’n eitha’ hen ar ôl ysgrifennu hynny!), gweld hysbysebion a newyddion mewn cylchgronau fel Sgrech, neu darllen Y Cymro, neu gwrando ar Radio Cymru oedd y ffyrdd arferol o glywed am recordiau Cymraeg newydd. Neu clywed amdanynt gan rywun arall, neu yn y disgos, neu hyd yn oedParhau i ddarllen “Am Gadw Fyny Â’r Diweddaraf?”
