Siawns ein bod i gyd yn gwybod am y tenor enwog, David Lloyd. Neu David George Lloyd a rhoi ei enw llawn iddo. ‘Roedd yn un o’r tenoriaid cyntaf o Gymru i geisio cynulleidfa tu allan i Gymru, yn y byd opera, oratorio a recordio. Ond yng Nghymru, ‘roedd yn enwog hefyd am ganu emynauParhau i ddarllen “David Lloyd”
Archifau Categori: Recordiau
Gwahanol Fersiynau
Wrth gasglu hen recordiau, buan iawn y dewch i sylweddoli y ceir mwy nag un fersiwn o ambell i record. Ar y dechrau, roeddwn yn anelu cael un copi o gymaint o recordiau Cymraeg ag y gallwn. Dros amser deuais i sylweddoli bod ambell i fersiwn o rai recordiau. Er Enghraifft, edrychwch ar recordiau 7Parhau i ddarllen “Gwahanol Fersiynau”
Babi Mam
EP ddigidol gan Huw Angerddi ydi hon, hefo caneuon babanod, wedi’w chyhoeddi gan R-Bennig. ‘Rydym wedi arfer hefo cerddoriaeth rap, arbrofol a gwahanol gan R-Bennig, a mae hon yn sicr yn wahanol i’w deunydd arferol. Dyma Huw Angerddi (yr enw yn chwarae ar y gair “hwiangerddi”) yn chwarae pedair cân offerynnol ar gyfer y babanod.Parhau i ddarllen “Babi Mam”
Welsh Teldisc
John Edwards (1905-1966), pianydd o Abertawe, oedd sylfaenydd Cymdeithas Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig (Guild for the Promotion of Welsh Music) yn 1955. Roedd ei wraig Olwen yn berchen eiddo ym Mhontardawe, Morganwg. Sefydlodd John Edwards Welsh Teldisc Records Ltd yn 1962, gan ryddhau recordiau feinyl yn y 60au a’r 70au gan artistiaid Cymraeg fel Dafydd Iwan,Parhau i ddarllen “Welsh Teldisc”
Merêd
Gan mlynedd yn ôl o’r wythnos hon fe annwyd yr arbennigwr canu gwerin Cymraeg, Meredydd Evans (neu Merêd). Bu’n weithgar ym meysydd canu gwerin, darlledu ac adloniant drwy’r rhan fwyaf o’i fywyd. Yn un o enwogion y genedl. Ar y 9ed o Ragfyr 1919 fe’i annwyd yn Llanegryn, sir Feirionnydd, yr ieuengaf o blant CharlotteParhau i ddarllen “Merêd”
Ategolyn Recordiau
Rhywbeth eithaf gwahanol y tro hwn! Fe gewch ambell record saith modfedd Gymraeg hefo canol record jukebox. Mae’n eithaf cyffredin ar recordiau Teldisc, Cambrian a Qualiton. Weithiau, mi ddewch ar draws recordiau hefo’r canol hwn ar goll. Daw ambell i chwaraeydd recordiau gyda’r darn angenrheidiol modfedd a hanner, wrth gwrs, ond mi ddeuais i arParhau i ddarllen “Ategolyn Recordiau”
Dic Penderyn
Record brin iawn o 1978 wedi’w hychwanegu i’r casgliad yn ddiweddar (diolch yn fawr i Tomos Gwyn).. Rhyddhawyd y record sengl “Dic Penderyn” gan Theatr Yr Ymylon yn 1978, i gyd-fynd â’r opera roc Dic Penderyn flwyddyn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd. Ceir dwy gân ar y record sengl hon, sef “Bach Bach” gan Meic Stevens,Parhau i ddarllen “Dic Penderyn”
Llyfr Jarman
Mae fy mrawd wedi dechrau darllen llyfr am Geraint Jarman, a llyfr diddorol ydi o hefyd. “Twrw Jarman” ydi’r teitl. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2011. Mae’r llyfr yn cychwyn hefo hanes teulu’r Jarmans, ffoaduriaid Protestanaidd o wlad Belg lle’r oedd Catholigion mewn grym, i Garno yng Nghymru a hanes ei daid a siop yParhau i ddarllen “Llyfr Jarman”
Derec Brown
‘Dwi wedi bod yn gwrando ar gryno ddisg “Derec Brown – Goreuon” heddiw (Fflach CD290H, 2005). Yn y nodiadau sydd ar y llyfryn clawr y CD, mae yna restr o recordiau Derec Brown dros y blynyddoedd, a mae hyd y rhestr yn gwneud i mi sylweddoli maint cyfraniad Derec Brown i’r byd pop a rocParhau i ddarllen “Derec Brown”
Fflach
Cwmni recordiau Richard a Wyn Jones o’r grwp Ail Symudiad, yn Aberteifi. Ffurfiwyd y cwmni yn 1981 a’r record gyntaf oedd Ail Symudiad a “Twristiaid Yn Y Dre”, a ddilynwyd gan ddwy record arall gan Ail Symudiad (“Geiriau” a “Garej Paradwys”), ac yna yn 1982 y record gyntaf i gynnwys caneuon gan grwpiau eraill, sefParhau i ddarllen “Fflach”
