Catalog Cynnar Sain.

Cafodd record gyntaf camni Sain ei rhyddhau ar y 9ed o Hydref 1969. “Dwr” gan Huw Jones oedd y record gyntaf honno, a Huw ei hun yn yn o sefydlwyr y cwmni, gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards. Cafodd y record hir gyntaf, “Canu’r Werin”, ei chyhoeddi yn 1972. Wrth i’r nifer o recordiauParhau i ddarllen “Catalog Cynnar Sain.”

Paper Chains.

Record gyntaf Endaf Emlyn, ryddhawyd yn 1971 ar label Parlophone. Madryn oedd ar ochr 2 y record, gyda’r gân Saesneg Paper Chains ar yr ochr gyntaf. Fe recordiwyd y record hon yn stiwdios Abbey Road, Lerpwl, lle recordiwyd y Beatles, oedd hefyd ar label Parlophone ar y pryd. ‘Roedd hon yn un o dair recordParhau i ddarllen “Paper Chains.”

Rhywun Am Hysbysebu?

‘Nôl yn 1983, rhyddhawyd record gan y grwp roc o Fethesda, Maffia Mr. Huws ar y cyd rhwng y grwp a gwyl Pesda Roc. Teitl y record? Hysbysebion. Ariannwyd y record yn rhannol gan werthu gofod hysbysebu ar glawr y record. Roedd y clawr mewn arddull “gatefold”, sef clawr ddwbl, er mai un record oeddParhau i ddarllen “Rhywun Am Hysbysebu?”

Coch, Glas, Piws, Gwyn a Melyn!

Tro diwethaf, mi soniais am record las 78cyf Mari Macklin o 1931. Y tro yma, dwi am sôn am recordiau feinyl lliw. Mae’r rhain reit gyffredin yn y byd cerddoriaeth Eingl-Americanaidd, ond gweddol brin yn y Gymraeg. Y record liw feinyl gyntaf yn y Gymraeg oedd recordd 12 modfedd goch y Trwynau Coch, “Un SipParhau i ddarllen “Coch, Glas, Piws, Gwyn a Melyn!”

Ben, Y Ci Sy’n Canu

Os ydych chi’n hoff o ryw newydddeb eithaf doniol, gwahanol, ac yn hoff o anifaeliaid ciwt, mi fyddwch yn hoff iawn o’r record hon, o 1972. Ben The Singing Dog ydi’r seren ar y record sengl hon, dan y teitl “This Is My Life” (cambrian, CSP 731, 1972). Anifael anwes i’r gantores ac actores BerylParhau i ddarllen “Ben, Y Ci Sy’n Canu”

Recordiau Fflecsi

Recordiau 7 modfedd gan amlaf, wedi’w wneud o daflen denau o feinyl neu rhyw fath o blastig. Dim llawer tewach na darn o bapur. Fe ddefnyddiwyd y recordiau fflecsi hyn i ddarparu cerddoriaeth neu llafar gyda rhyw lyfr neu gylchgrawn, fel record ar glawr cylchgrawn gerddorol. “Fflecsi” yw’r term a ddefnyddir yn y Gymraeg, hydParhau i ddarllen “Recordiau Fflecsi”

Recordiau Feinyl

Ryddhawyd recordiau wedi eu gwneud o polyvinyl chloride (PVC) yn yr 1940au, er y bu rhyw faint o arbrofi hefo defnyddiau o’r fath i wneud recordiau byth ers dyddiau yr hen recordiau 78cyf shellac. Roedd RCA Victor wedi dyfeisio recordiau feinyl yn yr 1930au ond ni fu rheini’n lwyddiant masnachol. Yn raddol, dechreuwyd ddefnyddio’r termParhau i ddarllen “Recordiau Feinyl”

Am Gadw Fyny Â’r Diweddaraf?

Yn fy nyddiau ifanc i (a dwi’n teimlo’n eitha’ hen ar ôl ysgrifennu hynny!), gweld hysbysebion a newyddion mewn cylchgronau fel Sgrech, neu darllen Y Cymro, neu gwrando ar Radio Cymru oedd y ffyrdd arferol o glywed am recordiau Cymraeg newydd. Neu clywed amdanynt gan rywun arall, neu yn y disgos, neu hyd yn oedParhau i ddarllen “Am Gadw Fyny Â’r Diweddaraf?”

Jack Duckworth ar Sain

Wel, y diweddar actor Bill Tarmey, fu farw yn 2012, yn canu deuawd hefo’r actores Ruth Madoc. Mae Bill Tarmey, sy’n enwog am actio rhan Jack Duckworth yn yr opera sebon Coronation Street am flynyddoedd lawer, wedi rhyddhau sawl record dros y blynyddoedd. Ond hyd y gwn i dyma’r unig un ar label Gymraeg. YnParhau i ddarllen “Jack Duckworth ar Sain”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni