Llyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer, Llandysul yn 2005 yw “Hewl-Stori Geraint Griffiths” gan Geraint Davies a John Davies. Mae’n olrhain hanes y canwr a’r actor Geraint Griffiths o’i blentyndod yn Oakwood Row, Pontrhydyfen. Mae Geraint yn dod o deulu cerddorol ers sawl cenhedlaeth – ei hen-daid William Griffiths oedd y cyntaf o deulu’r GriffithsParhau i ddarllen “Hewl-Stori Geraint Griffiths”
Archifau Categori: Uncategorized
Leila Megàne
Dwi wedi sôn am y gantores Leila Megàne o’r blaen, tra’n sôn am gasetiau Adlonni, o 1981. Yn yr erthygl honno, cyfeiriais at gryno ddisg gan Sain yn 2001 o ganeuon Leila Megane – yn ddiweddar fe fum ddigon lwcus i daro ar draws copi o’r CD honno ar gyfer y casgliad. Ganwyd hi ynParhau i ddarllen “Leila Megàne”
Llyfr Heather
Wedi i mi sôn am lyfr Gerain Jarman yn y post dwythaf, be well na sôn am lyfr Heather Jones y tro hwn. “Gwrando Ar Fy Nghân-Heather Jones” yw’r teitl. Cyhoeddwyd y llyfr gan Wasg Y Dref Wen yn 2007. Mae’r llyfr yn dilyn hanes Heather fel plentyn, ei phrofiadau fel mam ifanc a hanesParhau i ddarllen “Llyfr Heather”
Llyfr Jarman
Mae fy mrawd wedi dechrau darllen llyfr am Geraint Jarman, a llyfr diddorol ydi o hefyd. “Twrw Jarman” ydi’r teitl. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2011. Mae’r llyfr yn cychwyn hefo hanes teulu’r Jarmans, ffoaduriaid Protestanaidd o wlad Belg lle’r oedd Catholigion mewn grym, i Garno yng Nghymru a hanes ei daid a siop yParhau i ddarllen “Llyfr Jarman”
Derec Brown
‘Dwi wedi bod yn gwrando ar gryno ddisg “Derec Brown – Goreuon” heddiw (Fflach CD290H, 2005). Yn y nodiadau sydd ar y llyfryn clawr y CD, mae yna restr o recordiau Derec Brown dros y blynyddoedd, a mae hyd y rhestr yn gwneud i mi sylweddoli maint cyfraniad Derec Brown i’r byd pop a rocParhau i ddarllen “Derec Brown”
Fflach
Cwmni recordiau Richard a Wyn Jones o’r grwp Ail Symudiad, yn Aberteifi. Ffurfiwyd y cwmni yn 1981 a’r record gyntaf oedd Ail Symudiad a “Twristiaid Yn Y Dre”, a ddilynwyd gan ddwy record arall gan Ail Symudiad (“Geiriau” a “Garej Paradwys”), ac yna yn 1982 y record gyntaf i gynnwys caneuon gan grwpiau eraill, sefParhau i ddarllen “Fflach”
Diweddaru’r Ddisgyddiaeth
Dwi wedi bod wrthi’n diweddaru y Ddisgyddiaeth yn ddiweddar. Mae cryn dipyn o ychwanegiadau ers y fersiwn diweddaraf ym mis Gorffennaf. Dwi’n ddiolchgar iawn i Rhian Eleri o gwmni Sain, ac i Johnny R o R-Bennig am wybodaeth ychwanegol ar gyfer cynnyrch y ddau gwmni. Hefyd, diolch yn fawr i’r rhai yrrodd manion gwybodaeth ychwanegolParhau i ddarllen “Diweddaru’r Ddisgyddiaeth”
Wren – Dryw
Weithiau Dryw, weithiau Wren. Sefydlwyd y cwmni recordiau yma fel estyniad o gwmni cyhoeddi Llyfrau’r Dryw, Llandybie, gyda Dennis Charles Rees (“Den The Wren”) wrth lyw y cwmni recordiau. Roedd Dennis Rees yn gweithio i Alun Talfan Davies QC fel rheolwr Llyfrau’r Dryw cyn cymeryd rheolaeth ar adain recordiau’r cwmni. Roedd ganddynt stiwdio recordio ynParhau i ddarllen “Wren – Dryw”
Cambrian.
Cwmni recordiau Cymraeg, o Bontardawe, Abertawe, a sefydlwyd gan Josiah Jones (“Joe Cambrian”) yn 1967. Bu Josiah Jones yn gweithio rhywfaint i gwmniau Qualiton a Teldisc cyn hynny yn ogystal, cyn gadael Teldisc yn 1967 i gychwyn cwmni Cambrian. Daeth Cambrian yn ran o grwp Decca yn 1974, gyda recordiau i’w gweld ar label CambrianParhau i ddarllen “Cambrian.”
R-Bennig Arbennig
Bu cwmni recordiau R-Bennig yn weithgar iawn yn rhyddhau recordiau rhwng tua 1990 a 2005 cyn i’w perchennog Johnny R (sef John Robbins o Gwalchmai) symud ymalen at borfeydd eraill. Rhyddhawyd bron i 130 o recordiau ar y brif label a nifer bach of is-labeli fel Egni a Statws. Bandiau fel Waw Ffactyr, A5, VaffanParhau i ddarllen “R-Bennig Arbennig”
