Cân Y Blog Recordiau

Hmm, dwi’n meddwl fod Y Blog Recordiau yn “sefydliad” bellach… wedi’r cwbl mae Y Pregethwr Aur wedi canu amdano!

Os ydych yn fodlon anwybyddu y llun hyll ar y dudalen, gwrandewch ar y gân drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Recordiau R-Bennig: https://r-bennig.bandcamp.com/track/y-blog-recordiau

Mae’r trac yn ran o LP newydd gan R-Bennig, sef “Darlith From Beyond” gan Y Pregethwr Aur, un o gymeriadau Johnny R a Recordiau R-Bennig. Rhyddhawyd yr LP ar y 5ed o Ionawr eleni. Y rhif ar gyfer casglwyr yw R-BEN 162.

Clawr "Darlith From Beyond"
Clawr “Darlith From beyond” (llun gan Recordiau R-Bennig)

Babi Mam

Clawr yr EP ddigidol R-BEN 142

EP ddigidol gan Huw Angerddi ydi hon, hefo caneuon babanod, wedi’w chyhoeddi gan R-Bennig.

‘Rydym wedi arfer hefo cerddoriaeth rap, arbrofol a gwahanol gan R-Bennig, a mae hon yn sicr yn wahanol i’w deunydd arferol.

Dyma Huw Angerddi (yr enw yn chwarae ar y gair “hwiangerddi”) yn chwarae pedair cân offerynnol ar gyfer y babanod. Ceir swn xylophone a nodau synth i greu caneuon eithaf syml a meddal, fel caneuon plant bach. Mae yna rhywfaint o naws arbrofol i’r caneuon weithiau.

Mae’n anodd dweud sut y dylid dehongli ambell i record gan R-Bennig. Fe allwch dderbyn hon fel caneuon ar gyfer babanod, neu gwarando arni fel cerddoriaeth ychydig yn arbrofol. Un peth y gellir ddweud heb amheuaeth ydi fod o’n wahanol iawn weithiau i gynnyrch cwmniau Cymraeg eraill ac yn hynny o beth mae’n sicr fod yna le i gynnyrch R-Bennig.

Mae’r cwmni wedi bod yn weithgar iawn eleni hefo bron i ddeg ar hugain o gyhoeddiadau, a hynny heb fawr o gyhoeddusrwydd.

Gallwch lawr-lwytho’r pedair cân yn unigol am £0.50 yr un (cyfanswm £2.00) oddi ar dudalen R-Bennig ar Bandcamp. Mae hefyd ar gael fel rhan o’r casgliad R-Bennig o 29 sengl, EP ac LP am £32.50 am y cwbl lot, sef gostyngiad o 35% o’i gymharu a’u prynu yn unigol. Mae 29 “record” yn y pecyn hwn wrth i mi sgwenu hwn.

https://r-bennig.bandcamp.com/track/babi-mam

Genod Ni – Merched Y Dryw

Llun o'r caset "Genod Ni-Merched Y Dryw"
Caset “Genod Ni-Merched Y Dryw”

Wedi prynu copi o lyfr Gwenan Gibbard, Merched Y Chwyldro, gan Cyhoeddiadau Sain yn ddiweddar. A thua’r un pryd dyma fi’n dod ar draws caset ar thema tebyg, am ferched a grwpiau benywaidd a oedd yn recordio i gwmni Wren/Dryw ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au.

“Genod Ni-Merched Y Dryw” yw teitl y caset. Rhif y caset yw WRC/705, un o gyfres fer o gasetiau gyda chloriau syml melyn a logo gwyn y Dryw rhywbryd yn y 70au cynnar. Dim dyddiad arno, a fawr ddim o nodiadau am y grwpiau yn canu ar y caset, felly dyma fynd ati i ymchwilio!

I ddechrau, dyma’r rhestr traciau, a pha record y maent wedi’w cymryd oddi arnynt.

Ochr 1
01 Rebel – Y Diliau (“Rebel”, WSP 2007, Gorffennaf 1971)
02 Hafan Hoff Ceredigion – Y Gemau (“Y Gemau”, WRE 1050, Gorffennaf 1968)
03 Y Briodas – Margaret Williams (“Caneuon Ysgafn”, WRE 1059, Rhagfyr 1968)
04 Ffarwel – Yr Awr (“Yr Awr”, WRE 1088, Mehefin 1970)
05 Bydd Hon Yn Ddigon – Ann Morris (“Ann Morris”, WRE 1093, 1970)
06 Llwybrau – Topsy/Talisman (“Llais Y Talisman”, WRE 1080, Ionawr 1970)

Ochr 2
07 Dysga’r Ffordd I Fyw – Ann Morris (“Ann Morris”, WRE 1093, 1970)
08 Ble ‘Rwyt Ti ‘Nghariad I Heno – Y Briallu (“Y Briallu”, WRE 1060, Rhagfyr 1968)
09 Aled – Y Tlysau (“Y Tlysau”, WRE 1052, Awst 1968)
10 Tyrd Yn Ôl – Yr Awr
11 Topsy/Talisman – Llais Y Llys (“Llais Y Talisman”, WRE 1080, Ionawr 1970)
12 Gwinllan – Y Diliau (“Rho Dy Law”, WRE 1081, Ionawr 1970)

A dyma ychydig o nodiadau am yr unigolion a’r grwpiau.

Y Diliau – Lynwen Jones, Mair Davies a Meleri Evans (merch Gwynfor Evans) o Langadog. Ffurfiwyd y grwp yn 1964. Rhyddhawyd eu record gyntaf, yr EP “Caneuon Y Diliau” ar label Qualiton yn 1965, ac una arall dan y teitl “Dwli Ar Y Diliau” yn 1967. Yna un record ar label Cambrian yn 1969, a phedair ar label Wren rhwng 1970 a 72, ac un record i Sain yn 1973. Eu record olaf oedd “Tân Neu Haf” ar label Gwerin yn 1979. Ymunodd Gaynor John a’r grwp yn 1968 cyn i Lynwen adael (pedwarawd am gyfnod) – y record ar label Cambrian yn 1969 oedd record gyntaf y grwp ar eu newydd wedd.

Y Gemau – Meinir Jones. Delyth Hopkins a Llinos Jones (chwaer Meinir). Y tair o Bontrhydygroes ac yn aelodau o Gôr Ysgol Uwchradd Tregaron pan recordiwyd y record hon (WRE 1050, 1968). Roedd Delyth wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Yr Urdd ac Eisteddfod Llangollen. Ymddangosodd Y Gemau ar y rhaglenni teledu “Hob Y Deri Dando” a “Llafar A Chân”.

Margaret Williams – Y gantores enwog o Frynsiencyn, Ynys Môn, a recordiodd gyntaf i Wren yn 1966.

Yr Awr – Chwech o ferched Ysgol Gyfun Mynyddbach, Abertawe. Lynne Williams (gitar), Patricia Anderson (gitar), Elizabeth James, Mair Hughes, Jean Paton a Sharon Vice. Roedd y chwech ohonynt yn aelodau’r Parti 8 a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd, Caerfyrddin, 1967. Fel Yr Awr, cawsant ymddangos sawl gwaith ar Disc a Dawn ar y teledu, a rhyddhau dwy record fer i Wren, sef “Yr Awr” (WRE 1088, 1970) a “Rhif 2” (WRE 1098, 1971)

Ann Morris – Ann Newton Morris, o Dreforys. Ail iaith oedd y Gymraeg i Ann, ond ymaelododd ag Aelwyd Yr Urdd Treforys yn ifanc a pherfformio dipyn yn y Gymraeg. Y record hon yn 1970 oedd ei unig record Gymraeg.

Topsy/Talisman – Topsy Christie oedd un rhan o dair y grwp “Y Talisman”, gyda Glyn Hollywell a David Humphreys. Roedd gwreiddiau’r grwp yng Ngholeg y Brifysgol Bangor lle bu’r tri yn astudio. Roedd Topsy yn canu ac yn chwarae gitar 12 tant. David oedd yn chwarae’r Mandolin. Mae tair cân ar y record yn ymwneud a chwedl Cantre’r Gwaelod.

Y Briallu – Eleri Hughes, Ann Jones a Pamela Nottingham oedd Y Briallu, y dair yn ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Gwynedd. Ffurfiwyd y grwp ddiwedd 1967 er mwyn canu mewn parti Nadolig yn yr ysgol. Aeth y grwp ymlaen i berfformio mewn nosweithiau llawen ac ar y teledu. Hon oedd eu unig record yn y Gymraeg, yn canu caneuon wedi’w cyfansoddi ganddynt eu hunain.

Y Tlysau – Tair merch o ysgol Llanbedr Pont Steffan, Gillian Davies, Eirlys James a Delyth Davies. Cafodd eu hunig record ei gwneud tra’r oeddynt yn y chweched dosbarth yn yr ysgol.

Welsh Teldisc

John Edwards

John Edwards (1905-1966), pianydd o Abertawe, oedd sylfaenydd Cymdeithas Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig (Guild for the Promotion of Welsh Music) yn 1955. Roedd ei wraig Olwen yn berchen eiddo ym Mhontardawe, Morganwg.

Sefydlodd John Edwards Welsh Teldisc Records Ltd yn 1962, gan ryddhau recordiau feinyl yn y 60au a’r 70au gan artistiaid Cymraeg fel Dafydd Iwan, Triawd Y Coleg a Jac a Wil a nifer eraill. Bu’n gysylltiedig a recordiau Qualiton cyn hynny hefyd.

Is-gwmni oedd Teldisc Evangelical, a ryddhaodd recordiau efengylol yn yr iaith Saesneg yn y 60au.

Bu farw John Edwards yn 1966 yn 61 oed, ac yn 1974 gwerthwyd y cwmni i Gymdeithas Llyfrau Ceredigion, cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg, a wnaeth barhau i gyhoeddi recordiau tan y 90au. Yn ei dro, daeth Cymdeithas Lyfrau Ceredigion i ben yn 2009 pan brynwyd ef gan Wasg Gomer. Bellach, mae catalog Teldisc ym mherchnogaeth Sain.

Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’r recordiau saith modfedd gyda chloriau llun. O ran rhifo recordiau Teldisc, mae sawl cyfres:

PYC – “Pops Y Cymro”, recordiau pop, EP 7″ (cyhoeddwyd tua 14 o’r rhain o 1965 i 1970)
SEP – cyfres “Teldisc Evangelical”, recordiau 7″ (Saesneg yn bennaf – tua 20 o’r rhain rhwng 1964 a 1966)
SLP – cyfres “Teldisc Evangelical”, recordiau hir.
TEP – Teldisc EP, o’r dechrau tan 1968, rhifau’n cyrraedd TEP 875.
TLP – recordiau hir Teldisc.
WD – senglau 7 modfedd o 1962 tan 1970. Ceir ambell record yn y gyfres “WD” gyda’r enw cwmni “Welshdisc” yn lle “Welsh Teldisc”, sy’n esbonio dewis y llythrennau WD.

Credir mai record olaf y cwmni oedd gan y grwp Awelon Haf – “Daeth Yr Awr”/”Cwm Tawelwch” rhif WD 916, yn 1970.

Merêd

Clawr y caset o 1977.
Caset Sain C576, o 1977

Gan mlynedd yn ôl o’r wythnos hon fe annwyd yr arbennigwr canu gwerin Cymraeg, Meredydd Evans (neu Merêd). Bu’n weithgar ym meysydd canu gwerin, darlledu ac adloniant drwy’r rhan fwyaf o’i fywyd. Yn un o enwogion y genedl.

Ar y 9ed o Ragfyr 1919 fe’i annwyd yn Llanegryn, sir Feirionnydd, yr ieuengaf o blant Charlotte a Richard Evans. Fe ddywedodd fod ei ddiddordeb yn dod o’r ffaith i’w fam ganu cymaint iddo fo pan yn blentyn.

Datblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth dan ddylanwad Mrs Enid Parry ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n perfformio llawer gyda Robin Williams a Cledwyn Jones, ar y rhaglen Noswon Lawen i’r BBC ym Mangor, a chyda Triawd Y Coleg gyda Robin a Cledwyn.

Cyfarfu a’i wraig, yr Americanes Pyllis Kinney, yn 1947 a phriodi y flwyddyn wedyn. Cantores opera o Pontiac, Michigan oedd Phyllis, a ganwyd eu merch Eluned yn 1949. Byddai diddordeb y ddau mewn cerddoriaeth yn ran mor bwysig o’u bywydau.

Welsh Folk Songs, gan Meredydd Evans, ar label Folkways Records, 1954.
Welsh Folk Songs, o 1954

Yn 1952 aeth i Princeton, New Jersey i astudio, gan raddio yno yn 1955 a derbyn swydd darlithydd ym Mhrifysgol Boston. Yn 1954 cafodd gyfle i wneud record “Welsh Folk Songs” gan Folkways Records yn Efrog Newydd – dwi’n falch o allu dweud fod gennyf gopi o’r record hon!

Dychwelodd i Gymru yn 1960 a chael ei benodi’n Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru yn 1963.

Sefydlodd bapur Cymraeg Caerdydd, Y Dinesydd, yn 1970, un o’r cyntaf o be ddaeth i’w hadnabod fel “papurau bro”. O 1973 dychwelodd i’r byd academaidd gan ymuno ag Adran Efrydiau Allanol, Caerdydd tan ei ymddeoliad yn 1985.

Bu’n gefnogol iawn i ymgyrchoedd Cymdeithas Yr Iaith a sawl ymgyrch ieithyddol yn y 70au a’r 80au, gan gynnwys ymgyrchoedd sefydlu S4C a deddf iaith newydd.

Tuag adeg ymddeol, symudodd Merêd a Phyllis i fyw yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Yn eithaf agos i’r Llyfrgell Genedlaethol, byddai Merêd a Pyllis yn mynd yno’n gyson. Byddent yn ymddiddori mewn, a chasglu, caneuon ac alawon gwerin a chyhoeddi llawer o’u gwaith.

Bu farw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar 21ain o Chwefror 2015, a’i gladdu ym mynwent Capel Siloam, Cwmystwyth.

Er yn adnabyddus efallai am ei ganu gwerin a’i waith pwysig yn casglu’r hen ganeuon a’u rhoi ar gof a chadw ag olrhain eu hanes a’u hystyron, roedd hefyd yn athro, yn ddarlledwr, ac yn heddychwr (er yn barod i gefnogi ymgyrchu di-drais, ac er iddo fod o flaen ei well fwy nac unwaith wedi ymgyrchu ar ran yr iaith). Mae gwaith Meredydd Evans yn hel a chanu hen alawon gwerin wedi helpu sicrhau y bydd y traddodiad canu gwerin yn parhau ar gof a chadw i Gymru.

Y mae ei lais wedi’w recordio sawl gwaith dros y blynyddoedd, fel rheol yn ddi-gyfeiliant, a mae wedi cyfrannu i nifer o recordiadau gan eraill.

Cryno-ddisg Merêd ar label Sain, SCD 2414 o 2004.
Clawr cryno-ddisg Merêd ar label Sain

Dyma restr o rai o’r recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau o Mered yn canu alawon Gwerin. O ddiddordeb arbennig mae’n siwr yw’r CD gan Sain yn 2004 – dwy ddisg o 50 o’i ganeuon gyda Phyllis Kinney, Myron Lloyd, Maria Korchinska (telyn) ac Wythawd Tryfan. Daw’r CD gyda llyfryn diddorol sy’n rhoi cefndir a geiriau llawer o’r caneuon, ynghyd a chyfieithiadau Saesneg o nifer o’r caneuon.

Mae’n siwr bod llawer iawn mwy gan y dyn arbennig a gweithgar hwn sydd wedi cyfrannu gymaint i gadw hanes cerddoriaeth werin Cymru.

FP385 (Folkways) Welsh Folk Songs (10″, 1954)
DAFR201 (Qualiton) Songs Of Wales (LP, 1962)
TE 2078 (Tradition Everest) Traditional Welsh Songs (LP, dim dyddiad)
Delyse ECB 3161 A Concert Of Welsh Songs (LP, 1962)
Delyse DEL 117 A Concert Of Welsh Songs (7″, 1963)
Delyse DEL 118 Pa Le Mae ‘Nghariad/Lisa Lân (7″, 1963)
Wren WRE 1004 Mered a Phyllis-Folk Songs Of Wales, Israel, Louisiana, Japan (7″, 1964)
Dominion LP 1257 A Concert Of Welsh Songs (LP, 1970)
Delyse IMM 133 Folk Songs Of Wales-Merêd ac Anita Williams (LP, 1970)
Sain 1076 Mered-28 O Ganeuon (LP, 1977)
Sain C576 Mered-28 O Ganeuon (caset, 1977)
Sain SCD 2414 Mered-Caneuon Gwerin (CD, 2004)
Utgorn Cymru (dim rhif) Mered-Caneuon Mam (CD, 2009)

Ategolyn Recordiau

Rhywbeth eithaf gwahanol y tro hwn! Fe gewch ambell record saith modfedd Gymraeg hefo canol record jukebox. Mae’n eithaf cyffredin ar recordiau Teldisc, Cambrian a Qualiton.

Weithiau, mi ddewch ar draws recordiau hefo’r canol hwn ar goll. Daw ambell i chwaraeydd recordiau gyda’r darn angenrheidiol modfedd a hanner, wrth gwrs, ond mi ddeuais i ar draws addasydd bach diddorol gan gwmni o Rydaman, sef addasydd ar ffurf draig goch!

Yr addasydd bach coch mewn record Gymraeg.
Yr addasydd mewn record.

Am £2.99 (cynnwys cludiant), daw’r addasydd mewn blwch bach plastig clîr i’w gadw’n ddiogel a glân. Mae’n ffitio ar yr echel ganol chwarter modfedd ar chwaraeydd recordiau’n berffaith. Wedi’w wneud o ddur 3mm o drwch, a’i baentio’n goch hefo “powder paint”, a theimlad trymach na’r rhai plastig arferol.

Mae gen i ambell i record heb ganol yn fy nghasgliad a dyma ateb perffaith ar gyfer y rhain. Ategolyn Cymreig ar gyfer recordiau Cymraeg.

Yn werth pob dimau goch o’r £2.99.

Dic Penderyn

Record brin iawn o 1978 wedi’w hychwanegu i’r casgliad yn ddiweddar (diolch yn fawr i Tomos Gwyn)..

Rhyddhawyd y record sengl “Dic Penderyn” gan Theatr Yr Ymylon yn 1978, i gyd-fynd â’r opera roc Dic Penderyn flwyddyn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd.

Ceir dwy gân ar y record sengl hon, sef “Bach Bach” gan Meic Stevens, can fywiog, fachog i gyfeiliant drymiau a bâs, a chan mwy acwstic ei naws, “Cân Nana” gan Mair Robbins.

Cefn clawr y record.

Opera roc am Dic Penderyn, sef Richard Lewis o fwthyn Penderyn yn Merthyr Tydfil, oedd hon. Crogwyd Dic Penderyn am 8 y bore y 13eg o Awst 1831, yn 23 oed, wedi digwyddiad ar y 3ydd o Fehefin 1831 lle trywanwyd milwr o’r enw Donald Black yn ei goes wedi “trybini ym Merthyr Tydfil a barodd i’r bobol godi yn erbyn y Meistri Haearn a oedd yn gyfrifol am eu dioddefaint. I ddial ar y bobol, gorchmynnodd San Steffan ddienyddio gwr ifanc fel esiampl i ddangos na ellid herio y Drefn. Crogwyd ef, er yn ddieuog o’r drosedd, o flaen pyrth Castell Caerdydd.” (o nodiadau ar glawr y record).

Hyn i gyd er ymdrech fawr leol i berswadio’r awdurdodau nad oedd yn euog. Mae’n debyg fod dyn o’r enw Ianto Parker wedi cyfaddef yn 1874 ar ei wely angau yn yr Unol Daleithiau mai ef drywanodd y milwr mewn gwirionedd, a ffoi i’r Unol Daleithiau cyn i’r awdurdodau ym Mhrydain ei ddal.

Bu i’r digwyddiad achosi drwg-deimladau mawr rhwng gweithwyr a chyflogwyr a chryfhau undebau llafur y cyfnod.

Cewch fwy o hanes Dic Penderyn ar Wikipedia:https://en.wikipedia.org/wiki/Dic_Penderyn (Saesneg) ac erthygl llai ar https://cy.wikipedia.org/wiki/Dic_Penderyn (Cymraeg)

Llinellau Bythgofiadwy

Bob hyn a hyn, mi ydych chi’n clywed llinell bythgofiadwy mewn caneuon Cymraeg. Dyma rai sy’n gwneud i mi chwerthin bob tro dwi’n eu clywed:

Ow ow ow, mae poen yn fy mol” (Yws Gwynedd, “Sgrîn”)

Mae Gwynfor Grwn yn rowlio lawr yr allt” (Stan Morgan Jones, “Nos Sadwrn Yn Y Dref”)

Aeth yna drip o Ysgol Sul y llan
i lawr i weld Soho.
Am 10 o’r gloch daeth pawb i’r bws,
a’r ficar oedd ar ôl!
” – dychmygwch wir!!! (Y Gasgen, “Un Dyn Bach Ar Ôl”)

Ond y gorau i mi yw hon gan y Welsh Whisperer, o’r gân “Ceidwad Y Beudy”.

Dyma i chi gân i ferch sy’n deallt ei slurry”.

Pwy arall ond efe fyddai’n canu hynny!!!

Hewl-Stori Geraint Griffiths

Llyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer, Llandysul yn 2005 yw “Hewl-Stori Geraint Griffiths” gan Geraint Davies a John Davies.

Mae’n olrhain hanes y canwr a’r actor Geraint Griffiths o’i blentyndod yn Oakwood Row, Pontrhydyfen. Mae Geraint yn dod o deulu cerddorol ers sawl cenhedlaeth – ei hen-daid William Griffiths oedd y cyntaf o deulu’r Griffiths i ymgartrefu ym Mhontrhydyfen.

Ganwyd Geraint Lloyd Griffiths ar y 4ydd o Ebrill 1949 yng Nghastell Nedd. O’r dechrau, cafodd wersi canu gan ei dad – arwydd o’r hyn oedd i ddod.

Ymunodd Geraint a’i grwp ysgol cyntaf yn 1965, y cyntaf o nifer o grwpiau dros y blynyddoedd. Yn ystod yr amser yn yr ysgol, roedd yn rhan o grwpiau The Undecided a’r Dream Time People. Daeth i adnabod cerddorion Cymraeg a fyddai’n ran o’i fywyd am flynyddoedd lawer, pobl fel Hefin Elis a John Griffiths.

Dechreuodd yrfa fel nyrs. Cafodd ei berswadio i ddilyn gyrfa fel nyrs wedi i rhywun awgrymu iddo y byddai mewn cwmni merched yn y gwaith hwnnw! Ond cerddoriaeth oedd ei hoff bwnc.

Symudodd i Lundain i wneud cwrs nyrsio, gyda’i bryd ar gael symud i Ganada wedyn. Diolch byth na wnaeth hynny! Tra’n byw yn Lloegr, ymunodd a’r grwp Limbotrol (enw wedi’w seilio ar enw’r cyffur Limbitrol!) band gwerinol yn bennaf, gan berfformio gyda nhw o 1972-4, cyn troi’n fand trydanol a newid enw i Boots.

Dechreuodd berfformio yn y Gymraeg cyn hir, gan gyfrannu at yr Edward H Dafis cynnar, a chyfnod yr opera roc Nia Ben Aur a symud yn ol i Gymru i fyw a gweithio. Bu’n gysylltiedig â nifer o grwpiau ac unigolion y cyfnod mewn un ffordd neu’r llall. Yna, cyfnod y byr-hoedlog Injaroc, cyn ymuno a chyn aelodau y grwp Chwys i ffurfio y grwp Eliffant. Cafodd eu record hir gyntaf, M.O.M. (Mas O’Ma) groeso cynnes, gyda’r grwp yn perfformio ar draws Cymru. Bu Eliffant yn perfformio am bron i saith mlynedd i gyd.

Yn 1984 daeth cyfle i Geraint ganu ar gystadleuaeth Cân I Gymru, a death y gân “Y Cwm” gan Huw Chiswell i’r brig ar y noson, ac yn ddiweddarach dod yn ail yng nghystadleuaeth yr Wyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon.

Hefyd yn 1984, rhyddhawyd y record hir Madras a record hir arall, Teilwng Yw’r Oen (Meseia) ar gyfer y Nadolig. Bu’n perfformio fel Geraint Griffiths a’r Band (gyda Myfyr Isaac, Graham Land, Chris Childs a Graham Smart) o 1984-1988, ac yna fel Geraint Griffiths a’r Gwehyddion (gyda Geraint Davies a John Griffiths) o 2000-2006.

Yn 1985, gadawodd y byd nyrsio a mentro yn llawn amser fel cerddor ac actor, gan gynnwys y gyfres “Nôl Ar Y Stryd”. Yr un flwyddyn, roedd Geraint yn ran o’r criw recordiodd y record “Dwylo Dros Y Môr” yn Stiwdio Loco. Ateb Cymru i “Do They Know It’s Christmas” gan Band-Aid.

Mae Geraint wedi sefydlu ei labeli recordiau ei hun dros y blynyddoedd, gan gynnwys y label “Llef” gyda’r record fer “Tywyllwch”/”Ti Yw’r Unig Un I Mi” gan Eliffant yn 1983. Honna’r llyfr bod LLEF yn sefyll am Llais Ei Feistr, sef teyrnged i label HMV (His Master’s Voice).

Daeth y label Diwedd Y Gwt yn 1992 gyda’r caset Donegal, a ail-gyhoeddwyd yn 1998 ar gryno-ddisg. Dewisiodd yr enw Diwedd Y Gwt oherwydd y byddai ei dad a’i deulu yn defnyddio’r ymadrodd yn aml wrth derfynu straeon. Cyhoeddwyd nifer o recordiadau o grwpiau Geraint a rhai pobl eraill fel Geraint Davies (2007) a Dylan Davies (2002). Parhaodd y gwaith hyd nes cyhoeddwyd yr EP 6-trac Brooklyn yn 2017.

Er fod y llyfr hwn yn dyddio yn ôl i 2005, fe gewch olwg eithaf manwl ar fywyd un o sêr cerddoriaeth pop a roc Cymru dros y degawdau. Mae’r rhestr o’i recordiau a chaneuon yng nghefn y llyfr yn werthfawr iawn i gasglwyr recordiau gan fod rhai ohonynt yn brin iawn bellach.

Cyhoeddwyd “Hewl:Stori Geraint Griffiths” gan Wasg Gomer, Llandysul yn 2005. Awduron y llyfr oedd Geraint Davies a John Davies.

Leila Megàne

Dwi wedi sôn am y gantores Leila Megàne o’r blaen, tra’n sôn am gasetiau Adlonni, o 1981. Yn yr erthygl honno, cyfeiriais at gryno ddisg gan Sain yn 2001 o ganeuon Leila Megane – yn ddiweddar fe fum ddigon lwcus i daro ar draws copi o’r CD honno ar gyfer y casgliad.

Ganwyd hi yn Margaret Jones, ym Methesda, Gwynedd, ym 1891, yn un o saith o blant ac yn ferch i Jane Phillip Jones a Thomas Jones. Symudodd i Bwllheli yn dair oed – roedd ei thad yn Sarjiant gyda’r heddlu yno. Bu farw ei mham pan oedd Margaret ond saith oed, a’i thad tra’r oedd hi’n 21 oed.

Enillodd gystadleuaeth mezzo-soprano yn Eisteddfod Môn yn 1910, wedi iddi gychwyn cael gwersi gan John Williams, Caernarfon, ac yna yr un gystadleuaeth yn Eisteddfod Bae Colwyn. Aeth i Lundain i astudio gyda Goerge Power, cyn symud i Paris at Jean de Reszke.

Priododd â T. Osborne Roberts yn 1922 ac ysbrydoli ei gwr i gyfansoddi rhai o’i chaneuon enwocaf. Rhwng 1921 a 1935 gwnaeth Leila Megàne 38 o recordiau i gwmni His Masters Voice – un o’r criw bach o gantorion Cymraeg y cyfnod i wneud recordiadau o ganeuon Cymraeg.

Adeg yr ail ryfel byd, daeth hi a’i gwr i fyw ym Mhentrefoelas yng ngogledd Cymru nes marwolaeth T. Osborne Roberts yn 1948. Yn 1951 ail-briododd, gyda William John Hughes gan fyw yn Efailnewydd tan ei marwolaeth yn 1960 yn 69 oed.

Mae’n debyg mai hi oedd y gantores Gymraeg gyntaf i dderbyn hyfforddiant lleisiol dramor, ac yn dipyn o lysgennad i Gymru tra’n perfformio dros y dwr wrth iddi ganu aml i gân Gymraeg wrth berfformio. Bu’n perfformio yn y proms am flynyddoedd hefyd.

Gallwch ddarllen mwy am Leila Megàne ar Fywgraffiadur Cymru: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-HUGH-MAR-1891

Dyma rhestr y caneuon y mae Sain wedi eu rhoi ar y gryno-ddisg yma -Sain SCD 2316, 2001. Fe gyhoeddwyd y gryno-ddisg i gyd-fynd â’r gyfrol ar fywyd Leila Megàne “Anwylyd Cenedl” gan Ilid Anne Jones a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni