Wedi i mi sôn am lyfr Gerain Jarman yn y post dwythaf, be well na sôn am lyfr Heather Jones y tro hwn.
“Gwrando Ar Fy Nghân-Heather Jones” yw’r teitl. Cyhoeddwyd y llyfr gan Wasg Y Dref Wen yn 2007.
Clawr balen a chlawr cefn y llyfr
Mae’r llyfr yn dilyn hanes Heather fel plentyn, ei phrofiadau fel mam ifanc a hanes ei brwydr yn erbyn iselder wrth iddi orfod ildio’i breuddwydion am gyfnod. Ond dengys y llyfr nad oedd hi’n fodlon ildio’n hir.
Magwyd Heather a’i brodyr ar aelwyd di-Gymraeg yng Nghaerdydd, ond hefo dylanwad Cymraeg ei thaid a oedd o Aberaeron yn wreiddiol. Mynychodd Heather y ffrwd Gymraeg yn ysgol Cathays yn 1960, a chymeryd diddordeb mewn canu, gan ffeindio ei fod yn helpu hefo’r asthma mae’n debyg.
Yn 1963 aeth i wersyll yr Urdd, Glan Llyn, a chan fod pawb hefo gitar, penderfynodd y dyliai hithau ddysgu’r gitar. Ar ymweliad arall â’r gwersyll, cyfarfu a phobl fel Hywel Gwynfryn, Dewi Pws, Huw Jones a Dafydd Iwan. Mae’n siwr mai Glan Llyn roddodd lot o’r awydd i Heather i ganu yn y Gymraeg, gan gychwyn hefo grwpiau Y Cyfeillion ac Yr Eirlysau ganol y 60au.
Mae’r llyfr yn esbonio sut y bu iddi syrthio mewn cariad hefo Geraint Jarman yn yr ysgol, perthynas y mae’n ddisgrifio fel “twll cwningen, yn gasgliad cymhleth o ystafelloedd, a drysau’n arwain i sawl gwahanol gyfeiriad.”
Erbyn tudalen 37, ‘rydym wedi cyrraedd cyfnod Y Bara Menyn a Meic Stevens, a hanes pam y gallai y grwp hwnnw wedi dod i ben bron cyn cychwyn. Aiff y llyfr ymlaen i ddisgrifio ei chyfnod emosiynol anodd ar ôl gwahanu â Geraint Jarman a geni ei mab ddiwedd yr 80au. Ond mae yna ddigon o bethau positif i’w darllen hefyd.
Mae hwn yn lyfr 180 tudalen yn llawn hanes Heather Jones. Mae yna gyfnodau trist a chyfnodau llawen. Mae’n dipyn o hen lyfr erbyn hyn (cyhoeddwyd yn 2007) ond yn dal yn werth ei ddarllen.
Mae fy mrawd wedi dechrau darllen llyfr am Geraint Jarman, a llyfr diddorol ydi o hefyd. “Twrw Jarman” ydi’r teitl. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2011.
Clawr blaen a chlawr cefn y llyfr
Mae’r llyfr yn cychwyn hefo hanes teulu’r Jarmans, ffoaduriaid Protestanaidd o wlad Belg lle’r oedd Catholigion mewn grym, i Garno yng Nghymru a hanes ei daid a siop y Crescent Stores ym Mangor Uchaf (rownd y gornel o fy nhy cyntaf i wedi i mi symud i Fangor Uchaf!).
Aiff y llyfr ymlaen i drafod cyfnod y Bara Menyn, gyda Meic Stevens a Heather Jones, ac ymlaen i gyfnod sesiynau Stacey Road yng Nghaerdydd a arweiniodd at y recordiau hir Gobaith Mawr Y Ganrif a Tacsi I’r Tywyllwch.
Mae’r llyfr yn dilyn y gwahanol gyfnodau a recordiau, cyn gorffen hefo pennod am “Y Bardd A’r Barddoniaeth” (mae Geraint yn fardd hefyd) a phennod gan Gari Melville sy’n olrhain Discograffi Geraint Jarman. Mae’r bennod olaf ‘ma yn llawn gwybodaeth am y recordiau, aelodau’r bandiau dros amser a gwaith Geraint ar y cyd hefo pobol fel Meic Stevens, Heather Jones a Llwybr Llaethog.
Mae’r llyfr wedi sgwenu yn bennaf fel cyfres o gwestiynau ac atebion. Mae’n llawn lluniau lliw a du a gwyn ac yn werth ei ddarllen os ydych yn ffan o Geraint Jarman.
‘Dwi wedi bod yn gwrando ar gryno ddisg “Derec Brown – Goreuon” heddiw (Fflach CD290H, 2005).
Yn y nodiadau sydd ar y llyfryn clawr y CD, mae yna restr o recordiau Derec Brown dros y blynyddoedd, a mae hyd y rhestr yn gwneud i mi sylweddoli maint cyfraniad Derec Brown i’r byd pop a roc Cymraeg dros y blynyddoedd.
Rhestr o recordiau, casetiau a CDs Derec Brown.
O’r dyddiau cynnar hefo grwpiau fel Cwrwgl Sam (ar recordiau hir Lleisiau a Cofio ganol y 70au) a Galwad Y Mynydd (dwy record fer ar Wren yn 1972/3), trwy gyfnod Hergest a Derec Brown a’r Racaracwyr (Sain), a recordio record hir unigol i gwmni 123, hyd at y cyfnod recordiau a chasetiau plant ar gyfer Fflach, mae’r rhestr yn hirfaith.
Rhai o recordiau grwpiau Derec dros y blynyddoedd.
Ddyliwn i ddim anghofio cyfraniad ei gyd-aelodau yn Hergest chwaith, pobl fel Delwyn Siôn a Geraint Davies. Ond yn sicr mae gweld y rhestr hon ar y gryno-ddisg yma wedi gwneud i mi werthfawrogi cyfraniad Derec i’r byd pop Cymraeg fwy nag erioed.
Cwmni recordiau Richard a Wyn Jones o’r grwp Ail Symudiad, yn Aberteifi. Ffurfiwyd y cwmni yn 1981 a’r record gyntaf oedd Ail Symudiad a “Twristiaid Yn Y Dre”, a ddilynwyd gan ddwy record arall gan Ail Symudiad (“Geiriau” a “Garej Paradwys”), ac yna yn 1982 y record gyntaf i gynnwys caneuon gan grwpiau eraill, sef Y Ficer, Malcolm Neon, Y Diawled ac Eryr Wen.
Ganol yr 80au, agorwyd stiwdio recordio 8-trac yn Aberteifi. Ymunodd dau gyfarwyddwr newydd â’r cwmni, sef Kevin Davies a Granville John. Ddiwedd yr 80au aeth y stiwdio’n un 24-trac.
Mae yna is-label o’r enw “Fflach:Tradd” a sefydlwyd yn 1997 dan gyfarwyddyd Ceri Matthews ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol – daeth y label hon a chydnabyddiaeth rhyngwladol i gwmni Fflach a thorri cwys newydd i’r cwmni.
Yn y flwyddyn 2000 fe gychwynwyd y label newydd “Rasp” gan gychwyn gyda cryno-ddisg gan Yr Anhygoel, “Parti Yn Dy Ben”. Label ar gyfer bandiau ifanc yn bennaf yw Rasp, gyda cherddoriaeth gyfoes. Ychwanegwyd adnoddau dybio teledu ac ati, gan gynnwys offer recordio digidol 16 trac. Erbyn tua 2007 roedd stiwdio Fflach yn gwbl ddigidol, 32 trac. Ac hefyd dechreuwyd ar wasanaeth dyblygu CD a DVD.
Mae yna hefyd gwmni cyhoeddi o’r enw Cyhoeddiadau Mwldan, sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddi caneuon. Mae Fflach hefyd wedi cyhoeddi ambell i fideo ar gyfer plant.
Mae trefn rhifo cryno-ddisgiau Fflach a Fflach:Tradd yn unol a’i gilydd, ond mae gan Rasp ei threfn rhifo ei hun. Mae Fflach hefyd yn cynhyrchu nifer o gryno-ddisgiau ar gyfer plant ac ysgolion. Yn 2014, cyhoeddodd Y Lolfa lyfr dan y teitl “Fflach o Ail Symudiad: Stori Richard a Wyn” gan Richard Jones.
Weithiau Dryw, weithiau Wren. Sefydlwyd y cwmni recordiau yma fel estyniad o gwmni cyhoeddi Llyfrau’r Dryw, Llandybie, gyda Dennis Charles Rees (“Den The Wren”) wrth lyw y cwmni recordiau. Roedd Dennis Rees yn gweithio i Alun Talfan Davies QC fel rheolwr Llyfrau’r Dryw cyn cymeryd rheolaeth ar adain recordiau’r cwmni.
Roedd ganddynt stiwdio recordio yn hen adeilad y BBC yn Heol Alexandra, Abertawe. Un o’r unig gwmniau recordio Cymraeg o’r cyfnod i fod yn berchen eu stiwdio eu hunain.
Rhyddhawyd tua 200 o senglau ac EPs a thua 80 o LPs a chasetiau rhwng 1964 a 1976, nes i Lyfrau’r Dryw droi yn Christopher Davies.
Y record gyntaf oedd record Noson Lawen, gyda Bois Y Blacbord (WRE 1001) yn 1964. Cyhoeddwyd recordiau gan enwogion y cyfnod, fel Aled a Reg, Ryan a Ronnie, Meic Stevens, Y Bara Menyn (grwp Cymraeg cyntaf Heather Jones, Geraint Jarman a Meic Stevens), Endaf Emlyn, Y Diliau, Hogia’r Wyddfa a record gyntaf y Tebot Piws yn 1970.
Yn 1967-8, rhyddhaodd y cwmni gyfres fer o recordiau hir ar is-label Wren Educational Record Library, dan y teitl Wales And Her History (Wren QDR 101-105).
Hefyd yn 1967 fe ryddhaodd y cwmni gyfres fer o recordiau 7 modfedd ar gyfer ysgolion, dan y teitl “Disgiau Dysgu Difyr” – roedd rhai o’r rhain yn cynnwys llyfryn.
Fel rhan o gyhoeddi materion addysgiadol, yn 1970 fe gyhoeddodd y cwmni gyfres Recordiau’r Ysgol A’r Aelwyd, cyfres o 12 record hir yn ymdrin ac enwogion y genedl.
Cyhoeddodd y cwmni record fer (DRYW001) yn 1967 gan aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, lle y bu’n llefaru yn Gymraeg ar un ochr o’r record ac yn Saesneg ar y llall yn dilyn ei ethol fel aelod seneddol Caerfyrddin.
Un o ddargynfyddiadau mawr cwmni’r Dryw oedd yr un a’r unig Meic Stevens. Cyhoeddodd recordiau enwog fel Mwg, Cân Walter, Byw Yn Y Wlad a’r Eryr A’r Golomen, yn ogystal a’r record hir fythgofiadwy Gwymon yn 1972. Mae’n debyg mai Meic ddechreuodd alw Dennis Rees yn “Den The Wren”.
Erbyn ganol y 70au, daeth Dryw/Wren i ben a gwerthwyd y stiwdio. Mae cwmni Sain yn berchen ar eu catalog recordiau y dyddiau hyn ac yn achlysurol fe welir rhai o’r hen ganeuon yn ymddangos ar gynnyrch Sain. Bu farw Dennis Rees yn 2011.
Cwmni recordiau Cymraeg, o Bontardawe, Abertawe, a sefydlwyd gan Josiah Jones (“Joe Cambrian”) yn 1967.
Bu Josiah Jones yn gweithio rhywfaint i gwmniau Qualiton a Teldisc cyn hynny yn ogystal, cyn gadael Teldisc yn 1967 i gychwyn cwmni Cambrian.
Daeth Cambrian yn ran o grwp Decca yn 1974, gyda recordiau i’w gweld ar label Cambrian tan tua 1980.
Bu iddynt gyhoeddi tua 120 o LPs, 90EP a thua 45 sengl, yn ol y drefn rhifo. A chopiau ar gaset o rai ohonynt, er bod y rheini yn fwy prin. Recordiau Cymraeg oedd cynnyrch pennaf y cwmni, ac ambell i record Saesneg gan unigolion a grwpiau o Gymru.
Clawr un o recordiau Hogia Llandegai
Bu i’r cwmni ryddhau recordiau Cymraeg gan Mary Hopkin, gafodd gryn lwyddiant yn y byd pop Saesneg. Rhyddhawyd recordiau gan enwogion eraill o Gymru, fel Tony ac Aloma, Iris Williams, Yr Hennessys, Max Boyce a Hogia Llandegai.
Fel nifer o gwmniau eraill y cyfnod, roedd adnoddau recordio yn eithaf cyntefig ar adegau, ac yn aml wedi eu recordio mewn llefydd fel Neuadd Pritchard Jones ym Mangor mewn amser byr iawn o gymharu a sesiynnau recordio modern. Mae’n debyg fod recordiau Cymraeg y cwmni ar y pryd yn gwerthu yn y miloedd – gallwch gredu hynny wrth fynd i chwilio am recordiau mewn siopau elusen, os oes yna recordiau Cymraeg yno o’r gwbl, mae’n siwr y bydd yna rai gan gwmni Cambrian! Dywed rhai mai ychydig o wybodaeth gwerthiant na breindal a gafwyd gan yr artistiaid ar adegau (yn ôl Hefin Wyn yn ei lyfr “Be Bop a Lula’r Delyn Aur”, Y Lolfa 2002, beth bynnag)
Mae’n bosibl dod o hyd i ddwy fersiwn o rai o’r recordiau 7 modfedd, un hefo label las, a’r llall hefo label felen neu wen (nodyn i gasglwyr!), ac ambell i label sengl goch o’r cyfnod Decca.
Am gyfnod gymharol fyr, roedd yna is-label o’r enw Glenwood.
Er bod y rhan fwyaf o recordiau y cwmni hefo’r twll canol arferol ar gyfer senglau ac Eps, roedd gan rai o’r recordiau a wasgwyd gan Phonodisc y tyllau mawr a gysylltir â recordiau jukebox (gwelwch y llun isod).
Enghraifft o gloriau papur rhai o’r senglau, ac yn dangos y canol Jukebox.
Wrth edrych drwy fy nghasgliad, mae’n amlwg bod lot o waith wedi’w roi mewn i gynhyrchu cloriau recordiau da i helpu gwerthiant y recordiau – mae llawer o’r recordiau hefo cloriau lliwgar hefo lluniau da. Rhyddhawyd rhai o’r senglau mewn clawr gweddol syml papur glas tywyll hefo logo y cwmni arnynt, er y cafodd nifer o hyd yn oed y recordiau sengl gloriau lliwgar. Yn aml roedd dipyn go lew o wybodaeth am yr artist ar y clawr hefyd (ar wahan i’r cloriau papur).
Ceir ambell i enghraifft o gloriau gwahanol wedi i rai o’r recordiau gael eu ail-ryddhau. Un enghraifft yw EP Hogia Bryngwran (CEP 411, 1968), lle ceir lun gwahanol o’r grwp a chynllun eitha gwahanol i’r clawr. Gan fod y nodiadau ar y cefn yn dangos enw dau o argraffwyr gwahanol, mae’n eithaf posibl bod y meistri o’r cloriau gan un o’r cwmniau ond yn gorfod mynd at gwmni gwahanol am ba bynnag reswm i argraffu mwy o gopiau.
Dwy fersiwn o’r un clawr.
Mae yn fy meddiant gopi o gatalog 44 tudalen gan y cwmni o 1970 (llun isod). Eitha proffesiynol yr olwg, gyda lluniau du a gwyn o gloriau recordiau y cyfnod. Yng nghefn y catalog, mae cyfeiriad bod Cambrian Recordings Ltd yn ddosbarthwyr i recordiau BBC Radio Enterprises ar y pryd.
Bu cwmni recordiau R-Bennig yn weithgar iawn yn rhyddhau recordiau rhwng tua 1990 a 2005 cyn i’w perchennog Johnny R (sef John Robbins o Gwalchmai) symud ymalen at borfeydd eraill.
Rhyddhawyd bron i 130 o recordiau ar y brif label a nifer bach of is-labeli fel Egni a Statws. Bandiau fel Waw Ffactyr, A5, Vaffan Coulo, Pic Nic a nifer eraill.
Mae Johnny R yn dipyno ffan o Northern Soul a weithiau byddai hynny’n dod i’r amlwg ar rai o’r recordiau a phrosiectau. Roedd yna elfen gryf gwrth-sefydliadol ar nifer o’r prosiectau. Yn aml byddai pethau wedi eu recordio ar beirianwaith syml a rhad, ond rhai elfennau creadigol a drytach, fel y recordiau feinyl lliw.
Erbyn hyn, mae’n tua 30 mlynedd ers cychwyn R-Bennig ac mae nhw yn ôl mewn steil. Y llynedd, cafwyd y prosiect “Aurbennig” ac eleni ceir dim llai na 23 o senglau ac albymau ar gael drwy wefan Bandcamp – ewch i https://r-bennig.bandcamp.com/ i weld beth sydd ar gael. Gallwch wrando ar rai o’r traciau drwy’r wefan cyn eu prynu ar ffurf lawr-lwythliadau MP3 neu FLAC.
Gwefan R-Bennig ar Bandcamp
Mae cynnyrch 2019 R-Bennig yr un mor “wahanol” a ffres, a llawn dychymyg. Mae rhai o brosiectau Johnny ei hun yma, llawer hefo teitlau diddorol.
Os ydych yn ffan o hen ddeunydd y cwmni o’r 90au, neu yn edrych am rhywbeth ychydig yn wahanol, mi fyddwch wrth eich bodd hefo’r 23 o bethau sydd ar gael drwy’r wefan.
Robinz LP gan R-Bennig
Pan dderbyniais gopi o’r Robinz LP (R-BEN 152 CD) ar gryno-ddisg drwy’r post, mi oedd hi’n amlwg yn syth bod dipyn o feddwl wedi mynd i gyflwyniad y pecyn. Daeth y CD mewn clawr cardfwrdd brown a du siap calon gyda ‘R’ fawr ddu un ochr, a llofnod Johnny R ar y cefn, a band gwallt yn dal y cyfan at ei gilydd. Tair cân ar ddeg ar y gryno-ddisg, a recordiwyd yn “The Container” yn Gwalchmai, Ynys Môn.
Dwi ddim yn arbennig o hoff o’r math yma o gerddoriaeth fy hun (dwi’n rhy hen dwi’n amau!) felly’r peth gorau i mi ei wneud ydi gofyn i chi wrando ar y traciau ar y wefan a dilyn Johnny yn adrodd a llafar-ganu’r hanesion a’ch gadael i benderfynu dros eich hunain beth ‘da chi yn ei feddwl ohono. Os ydych yn licio’r math yma stwff mi fyddwch yn reit hoff o hwn.
Sad O Peth – Rhif Un
Yr ail gryno-ddisg yw Sad O Peth-Rhif Un. Prosiect aml-gyfrwng R-Bennig yw Sad O Peth, hefo Comi-Cyts graffeg, cerddoriaeth a’r gyfres we-ddrama (“web drama”) ar YouTube. Creadigaeth Johnny R, sy’n disgrifio ei hun ar y ddalen ddaeth hefo’r CD fel “y gwr anfarwol, y rascal rhyfeddol o Walchmai yn taflu pethau difir a diddorol i fewn y niwl unwaith eto.”
Dau drac ar y cd fechan hon – cryno-ddisg ffurf cerdyn credyd. Rhyfedd o beth ydi gweld CD hirsgwar! Dwi erioed wedi trio chwarae un o’r blaen (a hyd y gwn i dyma ond yr ail CD o’r math yma yn y Gymraeg – mae’n debyg mai’r gyntaf oedd “Llofrudd Digidol” gan Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front ar label Fitamin Un, Steffan Cravos yn 2001).
Doeddwn i ddim yn rhy siwr beth i’w wneud hefo’r CD ac os byddai’n chwarae ym mhob math o chwaraeyddion CDs. Ychydig o help gan yr hen Wgl, a dwi’n deallt eu bod yn gallu chwarae mewn peiriant hefo spindle, neu peiriant hefo tray sy’n gallu dal CDs cyffredin neu cryno-ddisgiau bach 8cm, gan fod yna siap uwch fel cylch 8cm ar ochr recordio’r CD hirsgwar. Ond yn ol yr Wgl, mae rhai peiriannau “slot” fel rhai ceir sy’n tynnu’r CD mewn ei hun ddim yn debygol o allu chwarae y math yma o CD. Dyna fi wedi dysgu rhywbeth newydd heddiw!
Os ydych wedi llwytho’r CD yn gywir, fe glywch ychydig o glapio a llais Johnny yn dweud “Diolch yn fawr” ar ddechrau’r trac cyntaf.
Tydi’r ddau drac ddim yn datgelu gormod am y prosiect cyfan, ond eto os ydych chi’n licio’r math yma o beth, mi fyddwch wrth eich bodd hefo hwn hefyd.
Yn sicr mae cynnyrch R-Bennig yn wahanol iawn i’r recordiau cyffredin Cymraeg – does dim llawer o stwff fel hyn ar gael. Mae’n dangos lot o ddychymyg a gwaith caled. Werth mynd i wefan R-Bennig ar Bandcamp i weld beth sydd ar gael os ydych am rywbeth newydd, llawn dychymyg a thra gwahanol i’r arfer.
Cwmni o Lundain a ryddhaodd nifer o recordiau Cymraeg a Chymreig yn y 50au a’r 60au, darlleniadau o straeon plant yn Saesneg, a cherddoriaeth glasurol. Roedd yna ychydig o is-labeli, fel Envoy, Isabella a Voyager.
Isabella Wallich
Delysé oedd y cwmni recordiau cyntaf i’w sefydlu gan ddynes, Isabella Wallich, ym 1954. Ganwyd hi yn Isabella Valli yn Milan – 12 o Fawrth 1916. Roedd ei mham yn gantores opera Americanaidd, a’i thad yn wr busness o’r Eidal. Symudodd y teulu i Loegr pan yr oedd hi yn bump oed. Cafodd ei gwr cyntaf, Dick Corbett, ei ladd yn Malaya yn 1951. Ail briododd yn 1954, gydag Aubrey Wallich, fu farw yn 1960.
Roedd Isabella Wallich yn un o’r cynhyrchwyr cerddoriaeth benywaidd cyntaf, ac yn bianydd. Cafodd ei hysbrydoli gan ei ewythr Fred Gaisberg, fu’n gysylltiedig â Recordiau EMI a’r enwog Abbey Road Studios.
Un o recordiau’r gyfres The Railway Stories.
Yn hytrach na thrio cystadlu hefo cwmniau mawr y dydd, canolbwyntiodd Delysé ar sawl cornelyn llai o’r farchnad, fel recordiau gwerin Cymraeg a Chymreig, recordiau Gwyddelig, straeon plant a cerddoriaeth glasurol.
Cafodd ei chyflwyno i gerddoriaeth Gymraeg gan ffrindiau fel y telynor Osian Ellis a David Ffrancon Thomas. Un o recordiau feinyl Cymreig cyntaf y cwmni oedd y record 10 modfedd “Welsh Folk Music For Voice, Harp & Cello” gan y ddau (Delysé EC3133, 1955).
Rhyddhaodd y cwmni ychydig o recordiau 78cyf Cymraeg a Chymreig gan artistiaid megis Brychan Powell, Osian Ellis a Chôr Meibion y Rhos. A dipyn go lew o recordiau feinyl Cymraeg gan artistiaid fel David Lloyd, Ivor Emmanuel, Anita Williams, David Ffrancon Thomas, Geraint Evans a Brychan Powell.
Bu farw Isabella Wallich yn 2001 yn 84 oed, wedi helpu lansio gyrfa enwogion fel Syr Geraint Evans, y canwr opera.
Mae ambell recordiad o’i gwaith hi fel cerddor ar rai o recordiau’r cwmni.
Dyma luniau o record feinyl sengl 7 modfedd Gymraeg cyntaf y cwmni, o 1961, a wnaed fel anrheg ar gyfer eisteddfod y Rhos yn 1961. Mae dwy gân arni, sef “Tydi A Roddaist” gan gor meibion y Rhos, a “Welsh Patrol” gan Fand Y Gwarchodlu Cymreig.
Record 7 modfedd Gymraeg gyntaf Delysé, gan Gôr Meibion Y Rhos a Band Y Gwarchodlu Cymreig.
Wedi ymweld â chwmni Sain y pnawn ‘ma, dwi wedi derbyn dipyn go lew o wybodaeth i lenwi’r bylchau yn y Ddisgyddiaeth.
Dwi’n arbennig o ddiolchgar i Rhian Eleri, am y croeso ac am helpu fi hefo lot o wybodaeth oedd yn newydd i mi, ac i’r Prif Weithredwr Dafydd Roberts am y caniatad i bori drwy a chopio peth o’r wybodaeth yn yr arddangosfa.
Ychydig ddiwrnodiau o ddiweddaru’r Ddisgyddiaeth rwan – mi fydd fersiwn newydd ar y dudalen Disgyddiaeth cyn hir!