Llun-recordiau

Math o record feinyl, hefo llun wedi’w gwasgu o fewn haenau dan wyneb glir, fel rheol yn rhedeg ar draws y record a than y rhychau. Hyd y gwn i, ‘does yna fawr ddim o’r rhain wedi’w rhyddhau yn y sîn recordiau Cymraeg – dim ond dwy y gwn i amdanynt – er bod llawerParhau i ddarllen “Llun-recordiau”

Arbrofi R-bennig

Dyma albwm newydd gan label R-bennig. Deuddeg o draciau o gerddoriaeth ‘arbrofol’ gan gyfansoddwr o Ynys Môn dan yr enw Lomax. Yr albwm cyntaf mewn cyfres dan y teitl ‘The Welsh Experimentalist’ yw hon, lle mae cyfansoddwyr cerddoriaeth arbrofol yn cael cyfle i arddangos eu talent, dan nawdd Johnny R a label R-Bennig. Cerddoriaeth synthParhau i ddarllen “Arbrofi R-bennig”

Mwy Am Y Troubadours

Ychydig fisoedd yn ôl fe sgwennais am record y Troubadours o’r chwedegau cynnar, gan apelio am rhyw faint mwy o wybodaeth amdanynt. Ers hynny, daeth ychydig mwy o wybodaeth i law. Yr enw gwreiddiol oedd y Tumble Troubadours, hefyd clywyd amdanynt fel Y Troubadours neu’r Trwbadors. Fe ffurfiwyd y grwp yn 1947, gyda’r adfywiad cymdeithasolParhau i ddarllen “Mwy Am Y Troubadours”

Cân I Gymru 2021

Daeth cystadleuaeth Cân I Gymru 2021 eleni o Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Oherwydd cyfyngiadau y cyfnod clo, ‘doedd yna ddim cynulleidfa fyw, ond cafwyd cynulleidfa rithiol yn y cefndir, drwy gyfrwng galwadau fideo, gyda rhai yn cael eu holi a thynnu eu coes gan y cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris. Roedd y gystadleuaethParhau i ddarllen “Cân I Gymru 2021”

Risin’

O ffatri ffrwyth dychymyg Johnny R a Recordiau R-Bennig y daw y casgliad hwn o un ar bymtheg o oreuon y label o 2020. “Risin’” yw y teitl, a mae’n cynnwys amrywiaeth eang o ganeuon ac arddulliau rhwng yr holl draciau ar y cryno-ddisg. Mae’r cd yn cynnwys traciau gan unigolion a grwpiau, rhai hefoParhau i ddarllen “Risin’”

Y Troubadours

Fe brynais y record hon gan werthwr recordiau yn Illinois, yr Unol Daleithiau. Er archebu ganol mis Tachwedd, newydd gyrraedd mae hi heddiw. Un o recordiau sengl cynnar Qualiton yw hi – QSP.5008 – o’r chwedegau cynnar. ‘Does dim dyddiad arni, na ‘matrix/runout code’ i’w weld fyddai wedi helpu fi i ddyddio’r record efallai. DwyParhau i ddarllen “Y Troubadours”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni