Ychydig ar ôl rhyddhau ei record hir Gwymon ar label Dryw (WRL 536) yn 1972, fe aeth Meic Stevens i fyw yn Llydaw am nifer o flynyddoedd.
Yn 1975, fe ryddhaodd record sengl ar y label Ffrengig, Festival, a ryddhaodd gryn dipyn o recordiau Ffrangeg a Saesneg yn Ffrainc a Gwlad Belg.
Dwy gân oedd ar y record hon, sef “Brenin Y Nos” a “Shw Mae, Shw Mae”. Y ddwy gân gyntaf oddi ar y record hir Gwymon, mewn gwirionedd. Rhif catalog y record yw SPX 177.
Er nad ydi hi’n record y mae llawer ohonom yn gwybod amdani efallai, tydi hi ddim mor brin a hynny – dwi newydd edrych ar Discogs, er enghraifft, a mae cwpl o gopïau ar werth gan unigolion o Ffrainc ar y funud. Record gwerth ei hychwanegu i unrhyw gasgliad recordiau Cymraeg.
Caset lle’r ail recordiwyd caneuon Geraint Jarman o’i albwm Hen Wlad Fy Nhadau yw hwn. Mae amryfal artistiaid y cyfnod wedi ail recordio caneuon yr albwm gwreiddiol.
Caset Hen Wlad Fy Nhadau
Label Ankst gyhoeddodd y caset ‘nôl yn 1990. Mae’r nodiadau ar glawr y caset yn disgrifio’r record “Hen Wlad Fy Nhadau” fel “un o’r recordiau hir pwysicaf yn hanes canu roc Cymraeg”. Dwi’n cofio faint wrandawais i ar y record honno ar y pryd – ei chwarae drosodd a throsodd nes ei bod yn dwll bron.
Mae’r nodiadau yn cyfeirio at neges wleidyddol gref y record a gyflwynir drwy gyfrwng cerddoriaeth, a sut y mae’r caneuon gwreiddiol yn cael gwedd newydd gan rai o brif grwpiau’r 90au.
Ar y pryd, roedd yna ymgyrchu cryf dros Ddeddf Eiddo, a mae yna daflen Cymdeithas Yr Iaith ar y pwnc yn rhan o glawr y caset.
Dyma’r tro cyntaf i mi glywed y caset hwn – diolch i Geraint fy mrawd am gael gafael ar gopi ac am adael i mi gael gwrando arno. Mae’r grwpiau sydd wedi ail-recordio’r caneuon wedi rhoi eu naws a’u stamp eu hunain ar y caneuon, ond heb golli cyffyrddiad na neges wreiddiol Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.
Hen Wlad Fy Nhadau – ANKST 013, Rhagfyr 1990
Y caneuon:
A1 Ethiopia Newydd-Steve Eaves a’i Driawd A2 Methu Dal Y Pwysa’-Llwybr Llaethog A3 Instant Pundits-Nid Madagasgar A4 Sgip Ar Dân-Celt A5 O Lisa-Ffa Coffi Pawb B1 Merch Ty Cyngor-Datblygu B2 Disgwyl Y Barbariaid-Maffia B3 Paradwys Ffwl-Jecsyn Ffeif B4 Un Cam Ymlaen-Eirin Peryglus B5 Steddfod Yn Y Ddinas-Ty Gwydr B6 Hen Wlad Fy Nhadau-Datblygu
‘Dwi wedi bod wrthi’n hel rhestr o labeli recordiau Cymraeg, ac wedi synnu braidd faint ohonynt sydd yna. Mae’n siwr y bod yna dipyn mwy na hyn wrth gwrs. Dyma ond y rhai dwi’n wybod amadanynt!
Mae nifer o gwmniau Eingl-Americanaidd yn y rhestr yma, gan eu bod wedi rhyddhau nifer o recordiau, casetiau a chryno-ddiagiau Cymraeg a Chymreig.
‘Dwi heb gynnwys labeli wnaeth ryddhau hen recordiau 78cyf yn y rhestr hon. Na chwaith wedi gynnwys ambell i label wnaeth ond rhyddhau un record. Er hynny, mae tua 200 o enwau yn y rhestr!
Un o’r pethau sydd wastad yn ddeniadol i gasglwyr ydi dod o hyd i fersiynnau gwahanol neu fersiynnau gwallus o recordiau. ‘Does yna ddim gymaint a hynny o enghreifftiau parod o hyn ar recordiau Cymraeg, ond dyma rhyw un neu ddau.
I’r rhan fwyaf o bobl, mi fydd y rhain yn ddibwys a dim mwy na hollti blew. I gasglwyr, mae’n gallu bod yn reswm casglu mwy nag un fersiwn o’r un record. Ac os ydi’r fersiwn hefo gwall yn brin, wrth gwrs, mi all fod yn werth dipyn o bres.
Ar recordiau Cymraeg beth bynnag, y gwall mwyaf cyffredin yw yn y rhifo. Cymerwch gaset Côr Penyberth, “Ynom Y Mae Cymru” o 1989. Ymddengys nad oedd Sain yn rhy sicr p’un ai C678N neu C687N oedd y rhif, oherwydd bod y rhif ar daflen y caset a’r rhif wedi’w brintio ar y caset ei hun yn wahanol!
Caset Côr Penyberth-cliciwch ar y naill lun i’w chwyddo i’w weld yn haws
Sut all y casglwr wybod pa un o’r rhifau sy’n gywir? Oherwydd bod C678 yn perthyn i gaset Darren Roberts “O For The Wings Of A Dove” hefyd o 1989. Dyna werth y Ddisgyddiaeth, a hefyd gwerth casglu hen gatalogau y cwmniau hyn o’r cyfnod yma.
Enghraifft ychydig yn wahanol ddigwyddodd i record y Tebot Piws “Byrmingham” o 1972. Fe welwch o’r lluniau isod bod dau gyflymdra, 45 a 33 1/3 c.y.f. ar y record. 45 ar y label wreiddiol, a’r cyflymdra cywir ar sticer wen ar y label ac ar y clawr cefn. Hefyd, mae sticer “SAIN 25” ar y clawr cefn, sy’n awgrymu naill ai bod rhif anghywir ar y clawr, neu efallai dim rhif o gwbl.
Record Y Tebot Piws, Byrmingham o 1972
Cafodd Recordiau Gwerin anffawd rhifo yn 1978 hefyd, gyda record hir Edward Lyn, “Fy Nghartref Cymreig”. Fe welwn SYWD 210 ar gefn y clawr, ond SYWD 209 ar label y record (y SYW 209 gywir oedd record hir “Cymanfa Ganu Gogledd Ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog”). Dwi wedi gweld hyn yn achosi ychydig o gymysgedd ar y wefan gwerthu recordiau discogs.com er enghraifft, gan fod y wefan honno’n hoff o restru recordiau fesyl rhifau.
Record hir Edward Lyn ar label Gwerin, 1978
Cafodd Gwerin anffawd tebyg hefo record o Huw Tregelles Williams yn chwarae organ Neuadd Brangwyn, Abertawe yn 1980. BRAN 1202 sydd ar y clawr, ond BRAN 1203 ar label y record. BRAN 1203 sy’n gywir, gan bod record arall hefo’r rhif BRAN 1202, sef record hir Cor Meibion Pendyrus “Opera And Oratory” o 1977. Gyda llaw, label cerddoriaeth glasurol/corawl di-Gymraeg oedd label Brangwyn, “Chorus series” a gyfeirir atynt ar glawr y ddwy gyntaf, gyda ysgrif Saesneg ar y cloriau. Mae’r recordiau yn dangos yr un cyfeiriad a recordiau label Gwerin, ac yn ymaddangos yn eu catalog o 1980.
Cafodd cwmni Dryw/Wren broblem tebyg ‘nôl yn 1970 gyda record hir “Teyrnged i Gwenallt” lle defnyddir rhif WRL 526 ar label y record, a WRL 527 ar glawr y record. Yn y dyddiau hynny, cyn cyfrifiaduron, ebost ac ati, mae’n siwr bod siopau yn archebu recordiau trwy ddefnyddio’r rhifau yn lle enwau hir – mae’n bosibl bod hyn wedi creu anhawsterau amser hynny. Wrth gwrs, gan fod pob dim yn cael ei brintio ymlaen llaw, fe allai fod yn gostus ail-brintio cloriau a labeli, felly mi fyddai’n rhaid gadael iddynt fynd allan hefo’r camgymeriadau neu weithiau fel y gwelsom hefo record y Tebot Piws, dim ond rhoi sticeri bach i gywiro’r gwallau.
Record hir “Teyrnged I Gwenallt” o 1970 ar label Recordiau’r Dryw.
Mae pethau tebyg wedi digwydd hefo cryno-ddisgiau hefyd. Dyma enhraifft o 2001, sef cryno-ddisg Côr Eifionydd, “Meseia”. Y tro yma, dau rif wahanol ar ddwy ymyl y CD – Sain SCD 2243 un ochr, ac un rhifyn ar goll ar yr ymyl arall:
Wel, dyna i ni ychydig o fân enghreifftiau o camgymeriadau ar recordiau Cymraeg. Eithaf dibwys i rai mae’n siwr, ond yn gallu bod yn destun diddordeb i rai casglwyr.
Dod ar draws record fach ddiddorol gan Paul Henry, pencampwr harmonica (organ gêg).
Hyd y gwn i, dyma ei unig record ar label Gymreig – Dryw WRE 1153, sef EP o 1974.
Clawr record Paul Henry.
Yn ol y nodiadau ar y record, ganwyd Paul Henry yn Abertawe yn 1952, a graddio hefo B.A. mewn Saesneg a Hanes yn Wolverhampton. Enillodd yr “All Britain Modern Rhythm Harmonica Championship” am ddwy flynedd wedi cychwyn y bencampwriaeth yn 1972. Cyn i neb feddwl hynny, nid yr un person a’r actor o’r un enw o Coronation Street gynt!
Roedd yn gyfaill a disgybl i’r chwaraewr harmonica enwog, Larry Adler, Americanwr fu’n gweithio a recordio llawer ym Mhrydain. Rhoddodd neges ar glawr y record i ddweud:
“Paul is a pupil and friend of mine and I am delighted with the progress that he has made. I have known for a very long time that he is ready for professional engagements and I hope that the record is a success.”
Gwn ei fod wedi recordio llawer drwy ei fywyd, ond dim llawer yn y byd recordiau Cymraeg hyd y gwn i. Dwi wedi taro ar draws cofnod ei fod wedi recordio rhywbeth hefo Mal Pope – rhywun yn gwybod mwy o’i hanes tybed?
Mae pedair cân offerynol ar y record, hefo Brian Hall ar yr organ, Wayne Warlow ar y bâs, a Dave Gibson ar y drymiau:
Plaisir D’Amour
Summer Time
All Over The World
Rock Around The Clock
Mae swn da i’r record hon o’r cyfnod – dim cofnod o lle gafodd ei recordio ar wahan i gyfeiriad at “Lyntone Recordings” ar label y record ei hun.
Grwp o Flaenau Ffestiniog oedd Yr Arian, wnaeth ryddhau eu hunig record sengl ar label Dryw/Wren yn 1974. Mae’n record eithaf prin, yn un o’r dwsin recordiau 7 modfedd olaf i Wren ryddhau cyn darfod yn 1976. I gyd fynd ag enw’r grwp, mae clawr y record sengl yn lwyd-arian sgleiniog.
I ddechrau, “Ni’n Tair” oedd enw’r grwp. Yr aelodau gwreiddiol oedd Anne Gwendoline Roberts, Betty Roberts a Linor Jones, a oedd wedi canu gyda’i gilydd gyntaf mewn Eisteddfod fechan ym Mlaenau Ffestiniog. Wedi i ddau gitarydd, Clive Roberts a Linda Davies, ymuno â’r grwp, fe newidiodd yr enw i “Yr Arian”.
Cerddorion eraill ar y record oedd Wayne Warlow (bâs), Dave Gibson (drymiau) a Brian Hall (organ).
Dwy gân sydd ar y record, sef “Ceudwll Llechwedd” a “Y Border Bach”.
Cwmni recordiau Gwerin o Llanelli, cwmni yn gysylltiedig â Siop Y Werin, Stryd Y Farchnad Llanelli (perchennog Dyfrig Thomas).
Rhyddhaodd y cwmni tua 48 o recordiau a chasetiau dan eu label eu hunain, gyda rhifau yn dechrau hefo “SYW” (“Siop YWerin”) rhwng 1976 a 1986, a rhai eraill yn dechrau hefo’r llythrennau “PR”, ac o leiaf pedair record label Brangwyn, hefo rhifau’n cychwyn hefo “BRAN” (1977-1980).
Unigolion, corau a gwerin oedd mwyafrif o recordiau y cwmni, er y bu iddynt ryddhau recordiau pop fel Jip, Seindorf a Caryl a’r Band. Mae rhai o recordiau mwy gwerinol y cwmni bellach yn brin iawn ac yn gallu gwerthu am arian mawr, fel recordiau Carraig Aonair a Pererin.
Fel cwmniau eraill y cyfnod, roedd gan y cwmni gatalog papur – dyma sgan o’r un dwy dudalen o Ionawr 1980 sy’n rhestru tua hanner o gynnyrch y cwmni – gallwch weld rhestr mwy cyflawn ar dudalen y Ddisgyddiaeth. Os ydych yn gasglwr y pethau yma, mae’n werth nodi bod rhai o gatalogau cynharach y cwmni ar bapur glas hefyd.
Wrth ymchwilio i dipyn o hanes recordiau Cymraeg ar yr hen recordiau 78cyf, mi fum yn ddigon ffodus i daro ar draws nifer o gasetiau o 1981 ar label Adlonni.
Gwaith y diweddar John Davies o Y Ffor, Pwllheli oedd y rhain, lle y bu yn defnyddio ei arbenigedd ar drosglwyddo hen recordiadau i greu casetiau o hen artistiaid Cymraeg a Chymreig yn canu ar nifer o’r hen recordiau hyn.
4 o gasetiau Adlonni
Mae’r llun uchod yn dangos y pedwar caset cyntaf yn y gyfres o bump y gwn i amdanynt (os oes rhywun yn gallu cynnig copi o unrhyw un arall yn y gyfres, cysylltwch a mi):
Adlonni AH-1 Leila Megane Cyfrol 1 Adlonni AH-2 Penillion A Chaneuon Gwerin (Mable Parry, Owen Bryngwyn, William Edwards, Cordelia Rhys) Adlonni AH-3 Gwlad Y Delyn (David Brazell, Annie Rees) Adlonni AH-4 Teulu Hudson/Thge Family Hudson (Eli Hudson, Winnie Hudson, Eleanor Jones-Hudson) Adlonni AH-5 Leila Megane Cyfrol 2
Mae’r caset cyntaf yn cynnig caneuon a recordiwyd rhwng 1923 a 1928 gan Leila Megàne, sef Maggie (Margaret) Jones o Fethesda, Gwynedd (1891-1960). Yn ferch i’r Sarjent Thomas Jones, fe aeth i Lundain i astudio ac yna i Paris yn ddisgybl i’r cerddor Jean de Reske. Bu iddi rannu llwyfannau gydag enwogion y byd. Daeth adref i Gymru adeg y Rhyfel Mawr. Wedi gwneud tua 30 o recordiadau yn y Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg, bu diwedd ar ei gyrfa recordio yn 1929, er iddi barhau i ganu am flynyddoedd wedyn. Priododd y cyfansoddwr a’r pianydd T. Osborne Roberts.
Mae’r pumed caset yn cynnig rhagor o waith Leila Megàne. Erbyn heddiw, mae cwmni Sain wedi rhyddhau casgliad o ganeuon Leila Megàne ar gryno-ddisg (Sain SCD 2316).
Caset AH-1, Leila Megane cyfrol 1
Mae’r ail gaset yn cynnig gwaith pedwar o artistiaid o Gymru o’r cyfnod, sef Cordelia Rhys (2 gân o 1915), Owen Bryngwyn (4 cân o 1929), Mable Parry (8 cân o 1930) a William Edwards (6 chân o 1930). Mae yna nodiadau am y pedwar ohonynt ar y sgan o’r clawr isod.
Sgan o gaset AH-2
Casgliad o ganeuon y bariton David Brazell (1875-1959) o’r Pwll, Llanelli a recordiwyd o 1909 i 1927, a chaneuon y soprano Annie Rees o Ddowlais o 1920-21 yw’r trydydd caset yn y gyfres. 7 cân yr un ar y tâp. O ddiddordeb yw’r ffaith fod nifer o’r recordiadau ar y caset yma wedi’w gwneud cyn dyfodiad meicroffonau yn 1925! Technegau recordio gwahanol iawn y dyddiau hynny – syndod bod yr ansawdd gystal ag y mae o ar y tâp hwn.
AH3 – Caneuon David Brazelle ac Annie Rees
Mae’r pedwerydd caset yn gasgliad o ganeuon gan y teulu Hudson. Ganwyd Eleanor Jones yn Merthyr yn 1874. Fe aeth i Gaerdydd i astudio canu gyda Madame Clara Novello Davies (mam Ivor Novello). Fe briododd Eleanor y cerddor Eli Hudson, gan gymeryd yr enw Eleanor Jones-Hudson. Tua 1914 ymunodd ei chwaer Winnie â hwy i ffurfio y triawd “The Hudson Trio” neu Olga, Elga ac Eli!
Yn ôl nodiadau John Davies gyda’r caset, mae’n debyg i Eleanor recordio tua 300 ochr o gramophone – byddai’n ddiddorol canfod faint o’r rheini oedd yn y Gymraeg (dim ond dwy gân ar y caset sydd â theitlau Cymraeg), ac a oedd yn golygu 300 o ganeuon wedi’w recordio?
AH-4 Y Teulu Hudson
Mae sôn ar un neu ddau o’r casetiau bod rhagor o’r gyfres i’w rhyddhau y flwyddyn ganlynol, ond does gen i ddim rhagor o wybodaeth am fwy na’r pump cyntaf yn y gyfres. Mae’n debyg bod y tapiau meistr wedi’w cynnig i’r Llyfrgell Genedlaethol rhywbryd tua 2011. Mewn post ar flog y Llyfrgell o 2011, mae sôn am gasgliadau o ganeuon gan Megan Telini a Watcyn Watcyns yn rhan o’r rhodd tapiau i’r Llyfrgell, efallai y bydd modd dod o hyd i fwy o wybodaeth mewn amser am y casgliadau hanesyddol bwysig hyn
Cafodd record gyntaf camni Sain ei rhyddhau ar y 9ed o Hydref 1969. “Dwr” gan Huw Jones oedd y record gyntaf honno, a Huw ei hun yn yn o sefydlwyr y cwmni, gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards.
Cafodd y record hir gyntaf, “Canu’r Werin”, ei chyhoeddi yn 1972.
Wrth i’r nifer o recordiau gynyddu, bu’n rhaid cyhoeddi catalog o recordiau Sain. Taflen A4, dwy ochr, oedd y catalog ddaeth gyda’r recordiau hir. Y cyntaf dwi wedi ei weld ydi’r un hefo dyddiad 1976-77 arno. Dwi wedi ei sganio a’i gynnwys isod er cof a chadw. Ysgwn i os oes rhywun yn gwybod am un cynt?
Mae’r catalog yn dangos bod trefn rhifo y recordiau hir, gychwynodd hefo rhif 1001, wedi cyrraedd 1074 erbyn y catalog hwn, sy’n dangos mor bell oedd y cwmni wedi dod yn y saith mlynedd cyntaf.
Mae rhai bylchau yn y rhifo. Ymddengys na chafodd recordiau hir rhifoedd 1032 a 1040 erioed eu cyhoeddi – mi fyddai’n ddiddorol canfod os mai recordiau gafodd eu canslo neu rhywbeth tebyg oedd y rheswm.
Hefydd, ‘doedd rhifau 1065 (Meic Stevens, Gôg), 1066 (Delwyn Siôn, record dan ei enw ei hun) a 1073 (Eleri Llwyd, Am Heddiw Mae ‘Nghan) ddim ar y daflen oherwydd nad oeddynt wedi eu rhyddhau cyn y catalog.
Mi welwch nad yw’r catalog yn rhestru recordiau sengl ac EP, ond mae’r llythrennau pris (y lythyren ar ol y rhif, e.e. 1074H) yn dynodi bod casetiau o rai o’r recordiau ar gael erbyn hynny.
Hefyd, fe welwch un o recordiau Tony ac Aloma ar label Gwawr, sy’n awgrymu bod Sain yn dosbarthu recordiau cwmni Gwawr erbyn hynny.
Gallwch glicio ar y naill lun i weld fersiwn fwy o’r tudalennau.
Record gyntaf Endaf Emlyn, ryddhawyd yn 1971 ar label Parlophone.
Madryn oedd ar ochr 2 y record, gyda’r gân Saesneg Paper Chains ar yr ochr gyntaf. Fe recordiwyd y record hon yn stiwdios Abbey Road, Lerpwl, lle recordiwyd y Beatles, oedd hefyd ar label Parlophone ar y pryd.
Starshine gan Endaf Emlyn
Goodbye “Cherry Lil” gan Endaf Emlyn
‘Roedd hon yn un o dair record Saesneg ryddhaodd Endaf Emlyn Jones (a rhoi ei enw llawn iddo) ar label Parlophone.
Y ddwy arall oedd Goodbye “Cherry Lil”/All Of My Life yn 1972, a Starshine/Where Were You yn 1973.
Wedi hynny, wrth gwrs, rydym yn fwy cyfarwydd ag Endaf Emlyn drwy ei recordiau hir unigol (Hiraeth ar label Dryw, WRL 537L, 1973); Salem (1974 ar Sain 1012); a Syrffio Mewn Cariad (1976 ar Sain 1051).
Wedi hynny bu’n aelod o’r grwpiau Injaroc a Jîp, gan ryddhau un record hir yr un hefo’r ddau grwp – Halen Y Ddaear (Sain 1094, 1977) a Genod Oer (ar label Gwerin, SYWM 220, 1980). Rhyddhaodd record hir arall, Dawnsionara yn 1981 (Sain 1206M).
Yn 2001, rhyddhaodd set o dair cryno ddisg dan y teitl Dilyn Y Graen (Sain SCD 2287), yn cynnwys traciau o’r 4 albwm unigol, gyda 2 drac ychwanegol.
Ac yn 2009, rhyddhaodd yr albwm 9-cân, Deuwedd (Sain SCD 2603).