Wedi i mi sôn am lyfr Gerain Jarman yn y post dwythaf, be well na sôn am lyfr Heather Jones y tro hwn. “Gwrando Ar Fy Nghân-Heather Jones” yw’r teitl. Cyhoeddwyd y llyfr gan Wasg Y Dref Wen yn 2007. Mae’r llyfr yn dilyn hanes Heather fel plentyn, ei phrofiadau fel mam ifanc a hanesParhau i ddarllen “Llyfr Heather”
Archifau Categori: Adolygiadau
Llyfr Jarman
Mae fy mrawd wedi dechrau darllen llyfr am Geraint Jarman, a llyfr diddorol ydi o hefyd. “Twrw Jarman” ydi’r teitl. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2011. Mae’r llyfr yn cychwyn hefo hanes teulu’r Jarmans, ffoaduriaid Protestanaidd o wlad Belg lle’r oedd Catholigion mewn grym, i Garno yng Nghymru a hanes ei daid a siop yParhau i ddarllen “Llyfr Jarman”
R-Bennig Arbennig
Bu cwmni recordiau R-Bennig yn weithgar iawn yn rhyddhau recordiau rhwng tua 1990 a 2005 cyn i’w perchennog Johnny R (sef John Robbins o Gwalchmai) symud ymalen at borfeydd eraill. Rhyddhawyd bron i 130 o recordiau ar y brif label a nifer bach of is-labeli fel Egni a Statws. Bandiau fel Waw Ffactyr, A5, VaffanParhau i ddarllen “R-Bennig Arbennig”
Record Hir Gyntaf Sain
Wedi i mi sôn am record saith modfedd gyntaf cwmni Sain ddoe, dwi am gyflwyno record hir gyntaf Sain heddiw. Fe’i rhyddhawyd yn 1972, gyda’r teitl “Canu’r Werin”, a’r rhif catalog Sain H 1001 (mae’r lythyren yn dynodi graddfa pris y record, gallwch weld rhain yn y post am Catalog Cynnar Sain) Baledau a chaneuonParhau i ddarllen “Record Hir Gyntaf Sain”
Hen Wlad Fy Nhadau.
Caset lle’r ail recordiwyd caneuon Geraint Jarman o’i albwm Hen Wlad Fy Nhadau yw hwn. Mae amryfal artistiaid y cyfnod wedi ail recordio caneuon yr albwm gwreiddiol. Label Ankst gyhoeddodd y caset ‘nôl yn 1990. Mae’r nodiadau ar glawr y caset yn disgrifio’r record “Hen Wlad Fy Nhadau” fel “un o’r recordiau hir pwysicaf ynParhau i ddarllen “Hen Wlad Fy Nhadau.”
Paul Henry (Harmonica).
Dod ar draws record fach ddiddorol gan Paul Henry, pencampwr harmonica (organ gêg). Hyd y gwn i, dyma ei unig record ar label Gymreig – Dryw WRE 1153, sef EP o 1974. Yn ol y nodiadau ar y record, ganwyd Paul Henry yn Abertawe yn 1952, a graddio hefo B.A. mewn Saesneg a Hanes ynParhau i ddarllen “Paul Henry (Harmonica).”
Adlonni.
Wrth ymchwilio i dipyn o hanes recordiau Cymraeg ar yr hen recordiau 78cyf, mi fum yn ddigon ffodus i daro ar draws nifer o gasetiau o 1981 ar label Adlonni. Gwaith y diweddar John Davies o Y Ffor, Pwllheli oedd y rhain, lle y bu yn defnyddio ei arbenigedd ar drosglwyddo hen recordiadau i greuParhau i ddarllen “Adlonni.”
Ben, Y Ci Sy’n Canu
Os ydych chi’n hoff o ryw newydddeb eithaf doniol, gwahanol, ac yn hoff o anifaeliaid ciwt, mi fyddwch yn hoff iawn o’r record hon, o 1972. Ben The Singing Dog ydi’r seren ar y record sengl hon, dan y teitl “This Is My Life” (cambrian, CSP 731, 1972). Anifael anwes i’r gantores ac actores BerylParhau i ddarllen “Ben, Y Ci Sy’n Canu”
Y Jays
Wedi bod yn gwrando ar unig (hyd y gwn i) record Gymraeg y Jays. John Roberts (o Gerrigydrudion) a John Brooks (Rhuthun) oedd y Jays. Enw’r grwp yn dod o’r ffaith fod enwau’r ddau yn cychwyn hefo J, ond mae’n debyg fod “Y Jays” yn edrych yn well na “Y J’s” ! Cyn rhyddhau yParhau i ddarllen “Y Jays”
