Mae poster 50 Sain wedi cyrraedd ac yn rhoi ychydig o liw ar y wal wen yn y ty ‘ma. Mae’n dod mewn tiwb cardfwrdd tua 5cm ar draws, sydd ychydig yn rhy fawr i fynd trwy’r blwch llythyrau. Dim ond £5 oddi wrth Sain, cynnwys cludiant i’r D.U. Fel cam pellach i ddathlu’r hannerParhau i ddarllen “Poster 50 Sain a Gostyngiad.”
Archifau Categori: casglu
Black Mountain
Cwmni recordiau corawl yn bennaf, a ffurfiwyd gan y diddanwr Ryan Davies a’i reolwr personol Mike Evans yn 1974, i ryddhau deunydd gan Ryan i ddechrau, rhai misoedd ar ôl i bartneriaeth Ryan a Ronnie wahanu. Mae’n debyg iddynt ddewis enw’r cwmni gan fod Ryan wedi’w eni’n agos i’r mynyddoedd hynny. Fel rheol, Black MountainParhau i ddarllen “Black Mountain”
Sain yn 50.
Heddiw yw penblwydd swyddogol cwmni Sain yn 50. Ie, ‘nôl ar adeg hyn yn 1969 fe gychwynodd Sain ar daith hir a llewyrchus ym myd cerddoriaeth Cymru, gan gyhoeddi cannoedd o recordiau, casetiau a chryno ddisgiau a bellach yn y byd digidol wrth gwrs. Bu dipyn o ddathlu cyn heddiw wrth gwrs – yn yrParhau i ddarllen “Sain yn 50.”
Enw, Umm, Diddorol…
Enw diddorol ar y record EP 12″ ddiweddaraf i’r casgliad, a ‘dwi ddim yn cyfeirio at y “Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front”… Record o Gaernarfon, efallai? Diddorol nad oes sgrifen ar label y record, dim ond un ebychnod i ddynodi ochr 1 a dau ebychnod ar gyfer ochr 2.
Record Hir Gyntaf Sain
Wedi i mi sôn am record saith modfedd gyntaf cwmni Sain ddoe, dwi am gyflwyno record hir gyntaf Sain heddiw. Fe’i rhyddhawyd yn 1972, gyda’r teitl “Canu’r Werin”, a’r rhif catalog Sain H 1001 (mae’r lythyren yn dynodi graddfa pris y record, gallwch weld rhain yn y post am Catalog Cynnar Sain) Baledau a chaneuonParhau i ddarllen “Record Hir Gyntaf Sain”
Meic Stevens, Disques Festival.
Ychydig ar ôl rhyddhau ei record hir Gwymon ar label Dryw (WRL 536) yn 1972, fe aeth Meic Stevens i fyw yn Llydaw am nifer o flynyddoedd. Yn 1975, fe ryddhaodd record sengl ar y label Ffrengig, Festival, a ryddhaodd gryn dipyn o recordiau Ffrangeg a Saesneg yn Ffrainc a Gwlad Belg. Dwy gân oeddParhau i ddarllen “Meic Stevens, Disques Festival.”
Hen Wlad Fy Nhadau.
Caset lle’r ail recordiwyd caneuon Geraint Jarman o’i albwm Hen Wlad Fy Nhadau yw hwn. Mae amryfal artistiaid y cyfnod wedi ail recordio caneuon yr albwm gwreiddiol. Label Ankst gyhoeddodd y caset ‘nôl yn 1990. Mae’r nodiadau ar glawr y caset yn disgrifio’r record “Hen Wlad Fy Nhadau” fel “un o’r recordiau hir pwysicaf ynParhau i ddarllen “Hen Wlad Fy Nhadau.”
Labeli Recordiau Cymraeg
‘Dwi wedi bod wrthi’n hel rhestr o labeli recordiau Cymraeg, ac wedi synnu braidd faint ohonynt sydd yna. Mae’n siwr y bod yna dipyn mwy na hyn wrth gwrs. Dyma ond y rhai dwi’n wybod amadanynt! Mae nifer o gwmniau Eingl-Americanaidd yn y rhestr yma, gan eu bod wedi rhyddhau nifer o recordiau, casetiau aParhau i ddarllen “Labeli Recordiau Cymraeg”
Camgymeriadau
Un o’r pethau sydd wastad yn ddeniadol i gasglwyr ydi dod o hyd i fersiynnau gwahanol neu fersiynnau gwallus o recordiau. ‘Does yna ddim gymaint a hynny o enghreifftiau parod o hyn ar recordiau Cymraeg, ond dyma rhyw un neu ddau. I’r rhan fwyaf o bobl, mi fydd y rhain yn ddibwys a dim mwyParhau i ddarllen “Camgymeriadau”
Paul Henry (Harmonica).
Dod ar draws record fach ddiddorol gan Paul Henry, pencampwr harmonica (organ gêg). Hyd y gwn i, dyma ei unig record ar label Gymreig – Dryw WRE 1153, sef EP o 1974. Yn ol y nodiadau ar y record, ganwyd Paul Henry yn Abertawe yn 1952, a graddio hefo B.A. mewn Saesneg a Hanes ynParhau i ddarllen “Paul Henry (Harmonica).”
