Wedi derbyn record go brin at y casgliad heddiw. Grwp o Flaenau Ffestiniog oedd Yr Arian, wnaeth ryddhau eu hunig record sengl ar label Dryw/Wren yn 1974. Mae’n record eithaf prin, yn un o’r dwsin recordiau 7 modfedd olaf i Wren ryddhau cyn darfod yn 1976. I gyd fynd ag enw’r grwp, mae clawr yParhau i ddarllen “Yr Arian.”
Archifau Categori: casglu
Recordiau Gwerin.
Cwmni recordiau Gwerin o Llanelli, cwmni yn gysylltiedig â Siop Y Werin, Stryd Y Farchnad Llanelli (perchennog Dyfrig Thomas). Rhyddhaodd y cwmni tua 48 o recordiau a chasetiau dan eu label eu hunain, gyda rhifau yn dechrau hefo “SYW” (“Siop Y Werin”) rhwng 1976 a 1986, a rhai eraill yn dechrau hefo’r llythrennau “PR”, acParhau i ddarllen “Recordiau Gwerin.”
Adlonni.
Wrth ymchwilio i dipyn o hanes recordiau Cymraeg ar yr hen recordiau 78cyf, mi fum yn ddigon ffodus i daro ar draws nifer o gasetiau o 1981 ar label Adlonni. Gwaith y diweddar John Davies o Y Ffor, Pwllheli oedd y rhain, lle y bu yn defnyddio ei arbenigedd ar drosglwyddo hen recordiadau i greuParhau i ddarllen “Adlonni.”
Catalog Cynnar Sain.
Cafodd record gyntaf camni Sain ei rhyddhau ar y 9ed o Hydref 1969. “Dwr” gan Huw Jones oedd y record gyntaf honno, a Huw ei hun yn yn o sefydlwyr y cwmni, gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards. Cafodd y record hir gyntaf, “Canu’r Werin”, ei chyhoeddi yn 1972. Wrth i’r nifer o recordiauParhau i ddarllen “Catalog Cynnar Sain.”
Paper Chains.
Record gyntaf Endaf Emlyn, ryddhawyd yn 1971 ar label Parlophone. Madryn oedd ar ochr 2 y record, gyda’r gân Saesneg Paper Chains ar yr ochr gyntaf. Fe recordiwyd y record hon yn stiwdios Abbey Road, Lerpwl, lle recordiwyd y Beatles, oedd hefyd ar label Parlophone ar y pryd. ‘Roedd hon yn un o dair recordParhau i ddarllen “Paper Chains.”
Rhywun Am Hysbysebu?
‘Nôl yn 1983, rhyddhawyd record gan y grwp roc o Fethesda, Maffia Mr. Huws ar y cyd rhwng y grwp a gwyl Pesda Roc. Teitl y record? Hysbysebion. Ariannwyd y record yn rhannol gan werthu gofod hysbysebu ar glawr y record. Roedd y clawr mewn arddull “gatefold”, sef clawr ddwbl, er mai un record oeddParhau i ddarllen “Rhywun Am Hysbysebu?”
Coch, Glas, Piws, Gwyn a Melyn!
Tro diwethaf, mi soniais am record las 78cyf Mari Macklin o 1931. Y tro yma, dwi am sôn am recordiau feinyl lliw. Mae’r rhain reit gyffredin yn y byd cerddoriaeth Eingl-Americanaidd, ond gweddol brin yn y Gymraeg. Y record liw feinyl gyntaf yn y Gymraeg oedd recordd 12 modfedd goch y Trwynau Coch, “Un SipParhau i ddarllen “Coch, Glas, Piws, Gwyn a Melyn!”
Y Fflecsi Lliw Gymraeg Gyntaf?
Cwmni fu’n rhyddhau recordiau 78cyf rhwng 1930 a 1932 oedd Filmophone. Math cynnar o recordiau fflecsi, blygadwy, oedd cyhoeddiadau y cwmni, wedi eu gwneud o seliwlos (cellulose) lliwgar. Rhyddhawyd tua 380 o recordiau 78cyf gan y cwmni. Gellid rolio’r recordiau hyn i fyny a’u rhoi mewn tiwb er enghraifft. Ond yn anffodus, unwaith wedi plyguParhau i ddarllen “Y Fflecsi Lliw Gymraeg Gyntaf?”
Ben, Y Ci Sy’n Canu
Os ydych chi’n hoff o ryw newydddeb eithaf doniol, gwahanol, ac yn hoff o anifaeliaid ciwt, mi fyddwch yn hoff iawn o’r record hon, o 1972. Ben The Singing Dog ydi’r seren ar y record sengl hon, dan y teitl “This Is My Life” (cambrian, CSP 731, 1972). Anifael anwes i’r gantores ac actores BerylParhau i ddarllen “Ben, Y Ci Sy’n Canu”
Recordiau Fflecsi
Recordiau 7 modfedd gan amlaf, wedi’w wneud o daflen denau o feinyl neu rhyw fath o blastig. Dim llawer tewach na darn o bapur. Fe ddefnyddiwyd y recordiau fflecsi hyn i ddarparu cerddoriaeth neu llafar gyda rhyw lyfr neu gylchgrawn, fel record ar glawr cylchgrawn gerddorol. “Fflecsi” yw’r term a ddefnyddir yn y Gymraeg, hydParhau i ddarllen “Recordiau Fflecsi”
