Tramor

Er fod y blog hwn yn cael ei ysgrifennu yn uniaith Gymraeg, diddorol ydi cael negeseuon gan gasglwyr recordiau dramor o bryd i’w gilydd. Gan fod peth cyfieithu ar y blog hwn, mae’n galluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddarllen. Dros y penwythnos, cefais sgwrs ebost hefo casglwr recordiau yn Tel Aviv, Israel,Parhau i ddarllen “Tramor”

David Lloyd

Siawns ein bod i gyd yn gwybod am y tenor enwog, David Lloyd. Neu David George Lloyd a rhoi ei enw llawn iddo. ‘Roedd yn un o’r tenoriaid cyntaf o Gymru i geisio cynulleidfa tu allan i Gymru, yn y byd opera, oratorio a recordio. Ond yng Nghymru, ‘roedd yn enwog hefyd am ganu emynauParhau i ddarllen “David Lloyd”

Ymweliad â Sain

Wedi ymweld â chwmni Sain y pnawn ‘ma, dwi wedi derbyn dipyn go lew o wybodaeth i lenwi’r bylchau yn y Ddisgyddiaeth. Dwi’n arbennig o ddiolchgar i Rhian Eleri, am y croeso ac am helpu fi hefo lot o wybodaeth oedd yn newydd i mi, ac i’r Prif Weithredwr Dafydd Roberts am y caniatad iParhau i ddarllen “Ymweliad â Sain”

Gwerthiant Gorau.

Mae’n swyddogol mai Trebor Edwards yw’r artist a werthodd fwyaf o recordiau Cymraeg i gwmni Sain. Yn ôl y cwmni, mae Trebor wedi gwerthu dros 155,000 o recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau ar label Sain yn yr hanner can mlynedd ers sefydlu y cwmni. Bu Trebor yn sgwrsio hefo Aled Hughes ar Radio Cymru bore ddoe.Parhau i ddarllen “Gwerthiant Gorau.”

Sain yn 50.

Heddiw yw penblwydd swyddogol cwmni Sain yn 50. Ie, ‘nôl ar adeg hyn yn 1969 fe gychwynodd Sain ar daith hir a llewyrchus ym myd cerddoriaeth Cymru, gan gyhoeddi cannoedd o recordiau, casetiau a chryno ddisgiau a bellach yn y byd digidol wrth gwrs. Bu dipyn o ddathlu cyn heddiw wrth gwrs – yn yrParhau i ddarllen “Sain yn 50.”

Record Hir Gyntaf Sain

Wedi i mi sôn am record saith modfedd gyntaf cwmni Sain ddoe, dwi am gyflwyno record hir gyntaf Sain heddiw. Fe’i rhyddhawyd yn 1972, gyda’r teitl “Canu’r Werin”, a’r rhif catalog Sain H 1001 (mae’r lythyren yn dynodi graddfa pris y record, gallwch weld rhain yn y post am Catalog Cynnar Sain) Baledau a chaneuonParhau i ddarllen “Record Hir Gyntaf Sain”

Swn Sain

Rhaglen ddiddorol gychwynnodd ar Radio Cymru bnawn Sul y 6ed o Hydref. Griff Lynch a Dyl Mei yn trafod hanes label SAIN trwy gyfrwng technoleg a thechnegau recordiau yr 50 mlynedd ddiwetha’. Yn y rhaglen gyntaf, mae Dafydd Iwan a Huw Jones (dau o sylfaenwyr cwmni Sain), a Heather Jones yn trafod sut y buParhau i ddarllen “Swn Sain”

Camgymeriadau

Un o’r pethau sydd wastad yn ddeniadol i gasglwyr ydi dod o hyd i fersiynnau gwahanol neu fersiynnau gwallus o recordiau. ‘Does yna ddim gymaint a hynny o enghreifftiau parod o hyn ar recordiau Cymraeg, ond dyma rhyw un neu ddau. I’r rhan fwyaf o bobl, mi fydd y rhain yn ddibwys a dim mwyParhau i ddarllen “Camgymeriadau”

Catalog Cynnar Sain.

Cafodd record gyntaf camni Sain ei rhyddhau ar y 9ed o Hydref 1969. “Dwr” gan Huw Jones oedd y record gyntaf honno, a Huw ei hun yn yn o sefydlwyr y cwmni, gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards. Cafodd y record hir gyntaf, “Canu’r Werin”, ei chyhoeddi yn 1972. Wrth i’r nifer o recordiauParhau i ddarllen “Catalog Cynnar Sain.”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni