Hewl-Stori Geraint Griffiths

Llyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer, Llandysul yn 2005 yw “Hewl-Stori Geraint Griffiths” gan Geraint Davies a John Davies. Mae’n olrhain hanes y canwr a’r actor Geraint Griffiths o’i blentyndod yn Oakwood Row, Pontrhydyfen. Mae Geraint yn dod o deulu cerddorol ers sawl cenhedlaeth – ei hen-daid William Griffiths oedd y cyntaf o deulu’r GriffithsParhau i ddarllen “Hewl-Stori Geraint Griffiths”

Derec Brown

‘Dwi wedi bod yn gwrando ar gryno ddisg “Derec Brown – Goreuon” heddiw (Fflach CD290H, 2005). Yn y nodiadau sydd ar y llyfryn clawr y CD, mae yna restr o recordiau Derec Brown dros y blynyddoedd, a mae hyd y rhestr yn gwneud i mi sylweddoli maint cyfraniad Derec Brown i’r byd pop a rocParhau i ddarllen “Derec Brown”

Diweddaru’r Ddisgyddiaeth

Dwi wedi bod wrthi’n diweddaru y Ddisgyddiaeth yn ddiweddar. Mae cryn dipyn o ychwanegiadau ers y fersiwn diweddaraf ym mis Gorffennaf. Dwi’n ddiolchgar iawn i Rhian Eleri o gwmni Sain, ac i Johnny R o R-Bennig am wybodaeth ychwanegol ar gyfer cynnyrch y ddau gwmni. Hefyd, diolch yn fawr i’r rhai yrrodd manion gwybodaeth ychwanegolParhau i ddarllen “Diweddaru’r Ddisgyddiaeth”

Cambrian.

Cwmni recordiau Cymraeg, o Bontardawe, Abertawe, a sefydlwyd gan Josiah Jones (“Joe Cambrian”)  yn 1967. Bu Josiah Jones yn gweithio rhywfaint i gwmniau  Qualiton a Teldisc cyn hynny yn ogystal, cyn gadael Teldisc yn 1967 i gychwyn cwmni Cambrian. Daeth Cambrian yn ran o grwp Decca yn 1974, gyda recordiau i’w gweld ar label CambrianParhau i ddarllen “Cambrian.”

R-Bennig Arbennig

Bu cwmni recordiau R-Bennig yn weithgar iawn yn rhyddhau recordiau rhwng tua 1990 a 2005 cyn i’w perchennog Johnny R (sef John Robbins o Gwalchmai) symud ymalen at borfeydd eraill. Rhyddhawyd bron i 130 o recordiau ar y brif label a nifer bach of is-labeli fel Egni a Statws. Bandiau fel Waw Ffactyr, A5, VaffanParhau i ddarllen “R-Bennig Arbennig”

Delysé

Cwmni o Lundain a ryddhaodd nifer o recordiau Cymraeg a Chymreig yn y 50au a’r 60au, darlleniadau o straeon plant yn Saesneg, a cherddoriaeth glasurol. Roedd yna ychydig o is-labeli, fel Envoy, Isabella a Voyager. Delysé oedd y cwmni recordiau cyntaf i’w sefydlu gan ddynes, Isabella Wallich, ym 1954. Ganwyd hi yn Isabella Valli ynParhau i ddarllen “Delysé”

Ymweliad â Sain

Wedi ymweld â chwmni Sain y pnawn ‘ma, dwi wedi derbyn dipyn go lew o wybodaeth i lenwi’r bylchau yn y Ddisgyddiaeth. Dwi’n arbennig o ddiolchgar i Rhian Eleri, am y croeso ac am helpu fi hefo lot o wybodaeth oedd yn newydd i mi, ac i’r Prif Weithredwr Dafydd Roberts am y caniatad iParhau i ddarllen “Ymweliad â Sain”

Cyfatebiaeth Casetiau.

Wedi gweld eitem fach yn Arddangosfa 50 Sain, dyma benderfynu rhoi manylion y drefn rhifo casetiau wmni Sain lawr ar gof a chadw. Mae perthynas rhwng trefn rhifo recordiau feinyl a chasetiau cwmni Sain, ond perthynas nad yw’n hollol amlwg ar adegau. Wedi cyhoeddi y caset cyntaf (C500, Y Tebot Piws, 1973) ‘doedd y rhifauParhau i ddarllen “Cyfatebiaeth Casetiau.”

Gwerthiant Gorau.

Mae’n swyddogol mai Trebor Edwards yw’r artist a werthodd fwyaf o recordiau Cymraeg i gwmni Sain. Yn ôl y cwmni, mae Trebor wedi gwerthu dros 155,000 o recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau ar label Sain yn yr hanner can mlynedd ers sefydlu y cwmni. Bu Trebor yn sgwrsio hefo Aled Hughes ar Radio Cymru bore ddoe.Parhau i ddarllen “Gwerthiant Gorau.”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni