Wedi gweld eitem fach yn Arddangosfa 50 Sain, dyma benderfynu rhoi manylion y drefn rhifo casetiau wmni Sain lawr ar gof a chadw.
Mae perthynas rhwng trefn rhifo recordiau feinyl a chasetiau cwmni Sain, ond perthynas nad yw’n hollol amlwg ar adegau. Wedi cyhoeddi y caset cyntaf (C500, Y Tebot Piws, 1973) ‘doedd y rhifau ddim yn gwbl yr un fath, ond hefo’r ddau ddigid olaf yn cytuno fel rheol i greu’r cysylltiad.
Fe ddylai hyn helpu casglwyr fel fi i baru y recordiau a gyhoeddwyd hefyd ar gaset.
Casetiau C500-C599 yn cyfateb i LP 1000-1099
Casetiau C700-C799 yn cyfateb i LP 1100-1199
Casetiau C800-C899 yn cyfateb i LP 1200-1299
Casetiau C900-C999 yn cyfateb i LP 1300-1399
Casetiau C600-C699 yn cyfateb i LP 1400-1499
Casetiau C400-C499 yn cyfateb i rifau 4000-4099 (cryno-ddisgiau)
Ar y cyfan, mae gweddill y casetiau yn cyfateb yn uniongyrchol i rifau cryno-ddisgiau o’r un rhif, e.e. Sain C2000 (caset Hogia Llandegai) yr un peth a’r gryno-ddisg SCD 2000.
Wrth gwrs, ceir ambell i gaset neu record neu gryno-ddisg oedd ond ar un cyfrwng.
Gallwch ddilyn hyn i gyd wrth gyfeirio at y Ddisgyddiaeth ar y wefan hon.
Trebor Edwards – llun gan Sain Cyf (dan drwydded Wikimedia)
Mae’n swyddogol mai Trebor Edwards yw’r artist a werthodd fwyaf o recordiau Cymraeg i gwmni Sain. Yn ôl y cwmni, mae Trebor wedi gwerthu dros 155,000 o recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau ar label Sain yn yr hanner can mlynedd ers sefydlu y cwmni.
Bu Trebor yn sgwrsio hefo Aled Hughes ar Radio Cymru bore ddoe. Soniodd y tenor o Fetws Gwerful Goch, sir Ddinbych, sut y llwyddodd i gyfuno bywyd fel canwr a ffermwr dros y blynyddoedd.
Cafodd ei ethol yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd yn 2008.
Wel, mae nhw’n dweud mai os ydych am weld rhywbeth wedi’w wneud yn gyflym a phrydlon, gofynnwch i berson prysur!
Un nodyn ddigri yn y sgwrs ar Radio Cymru oedd hanes y sigaret ar garreg yn llun Edwin Derbyshire are glawr un o’i recordiau. Bu hefyd yn sôn am y pleser gafodd yn teithio’r byd a chanu ar gychoedd, a sut y bu i’w blant ei helpu drwy ofalu am y fferm tra’r oedd o ffwrdd yn canu o bryd i’w gilydd.
Ganwyd Trebor yn 1939, a chychwyn ei yrfa recordia ‘nôl yn y 70au gan ryddhau dwy EP ar label Ty Ar Y Graig yn 1973 a 74 (a oedd erbyn hynny yn ran o gwmni Sain).
Dyma restr o recordiau Trebor Edwards dros y blynyddoedd:
Ty Ar Y Graig TAG 245 Ave Maria (EP, 1973) TAG 249 Duw Wyr (EP, 1974)
Bob blwyddyn, mae Radio 2 yn cynnal y digwyddiad hwn er mwyn dathlu’r gorau o gerddoraeth gwerin. Eleni, cafodd ei gynnal ym Manceinion a’i ddarlledu’n fyw ar y radio.
Cafodd nifer o grwpiau ac unigolion o Gymru eu henwebu.
Enwebwyd Gwilym Bowen Rhys yn y categori “Canwr Gwerin Y Flwyddyn”. Y ddeuawd Catrin Finch a Seckou Keita (o Senegal) yn y categori “Deuawd Neu Grwp Gorau”, ac ang nghategori “Albwm Y Flwyddyn” hefo’r albwm “Soar”, sy’n cynnwys y gân Cofiwch Dryweryn.
Enwebwyd y grwp The Trials Of Cato, sydd ag aelodau o ogledd ddwyrain Cymru a swydd Efrog, yn yr un categori hefo’r albwm “Hide And Hair”. A VRï yn y categori “Cân Draddodiadol Orau” hefo’r gân “Ffoles Llantrisant”.
Yn y diwedd, bu Catrin Finch a Seckou Keita yn fuddugol fel deuawd, yn ogystal a The Trials Of Cato hefo’r albwm gorau. Llongyfarchiadau iddynt.
Wedi bod ar ymweliad fer â Chanolfan Sain yn Llandwrog heddiw, i weld Arddangosfa 50 Sain.
Diolch yn fawr i’w derbynydd am y croeso.
Mae yna dipyn i’w weld, boed yn luniau, hen offer stiwdio, copïau o hen lythyrau, cloriau hen recordiau a gwybodaeth. Diddorol iawn – efallai y byddaf am ymweld eilwaith rhywbryd i gael mwy o amser i fwynhau’r cynnwys.
Mae’r arddangosfa ar agor rhwng 2 a 5 y prynhawn, ac am fod ar gael am rai wythnosau eto. Efallai y byddai’n syniad ffonio gyntaf i wneud yn siwr ei bod yn bosibl ymweld ar ddiwrnod arbennig. Mae rhywfaint o sôn am fynd a’r arddangosfa ar daith cyn diwedd y flwyddyn – bydd manylion ar gael drwy’r cyfryngau arferol mae’n siwr.
Dyma rai o’r lluniau dynnais i tra yno, i chi gael blas ar beth sydd i’w weld.
Lluniay dynnais yn yr arddangosfa 50 mlynedd yng nghanolfan Sain.
Mae poster 50 Sain wedi cyrraedd ac yn rhoi ychydig o liw ar y wal wen yn y ty ‘ma. Mae’n dod mewn tiwb cardfwrdd tua 5cm ar draws, sydd ychydig yn rhy fawr i fynd trwy’r blwch llythyrau. Dim ond £5 oddi wrth Sain, cynnwys cludiant i’r D.U.
Poster 50 Sain
Fel cam pellach i ddathlu’r hanner can mlwyddiant, maent yn cynnig gostyngiad o 50% wrth brynu eitemau o’r wefan trwy ddefnyddio’r côd #Sain50 ym mlwch taleb eich basged ar y wefan. Ddim yn glir am pa hyd y mae’r gostyngiad yn ddilys.
Cwmni recordiau corawl yn bennaf, a ffurfiwyd gan y diddanwr Ryan Davies a’i reolwr personol Mike Evans yn 1974, i ryddhau deunydd gan Ryan i ddechrau, rhai misoedd ar ôl i bartneriaeth Ryan a Ronnie wahanu.
Mae’n debyg iddynt ddewis enw’r cwmni gan fod Ryan wedi’w eni’n agos i’r mynyddoedd hynny. Fel rheol, Black Mountain oedd yr enw a ddefnyddiwyd, ond weithiau fe ddewch ar draws yr enw Cymraeg “Mynydd Du” ar rai o’r recordiau.
Wedi marwolaeth Ryan yn 1977, fe wnaeth y cwmni ddal i ryddhau deunydd gan Ryan, a pharhau i recordio cerddoriaeth gorawl yn y ddwy iaith.
Mae Mike Evans yn gyn ddarlledwr a sylwebydd rygbi. Yn 1997 sefydlwyd “The Black Mountain Male Chorus of Wales”, sydd wedi cynnal dros 200 o gyngherddau yng Ngogledd America.
‘Roedd gan y cwmni stiwdio symudol dan arweiniad y periannydd Geoff Atkins, a’u galluogodd i recordio corau mawrion fel y Mil o Leisau yn yr Albert Hall. Ar eu gwefan, mae Black Mountain yn amlwg yn ymfalchio yn y ffaith eu bod yn amau eu bod wedi recordio mwy o gorau Cymreig nag unrhyw gwmni arall.
Record gyntaf y cwmni oedd record sengl gan Ryan Davies, hefo dwy gân, “La La La” ac “Ar Hyd Y Nos”.
Record gyntaf Black Mountain o 1974.
Mae trefn rhifo y recordiau yn awgrymu bod tua 250 o recordiau feinyl wedi’w rhyddhau, er mai prin iawn yw’r wybodaeth am nifer dda o’r rheini. Dechreuodd y cwmni gyhoeddi ar gryno-ddisgiau tua 1992. Mae yna nifer fach o is-labeli, fel y gyfres “BMCYMRU” o 2010. Mae yna restr go lew o’u recordiau yn y Ddisgyddiaeth.
Mae Black Mountain yn dal ar fynd yn y Mumbles, Abertawe, gyda gwefan sy’n dyddio’n ôl i 2010 – http://www.blackmountain.me.uk . Maent hefyd yn asiantaeth rheoli artistiaid.
Dyma enghraifft o un o’u catalogau cynnar, o 1984 (dogfen PDF).
Heddiw yw penblwydd swyddogol cwmni Sain yn 50. Ie, ‘nôl ar adeg hyn yn 1969 fe gychwynodd Sain ar daith hir a llewyrchus ym myd cerddoriaeth Cymru, gan gyhoeddi cannoedd o recordiau, casetiau a chryno ddisgiau a bellach yn y byd digidol wrth gwrs.
Bu dipyn o ddathlu cyn heddiw wrth gwrs – yn yr Eisteddfod yn Llanrwst, a’r arddangosfa fu ar daith a sydd bellach yng nghanolfan Sain, yn ogystal a’r cyngerdd mawr a sesiynnau recordio yn y stiwdio.
O’n safbwynt ni’r casglwyr, mae dau beth wedi dal fy sylw i heddiw.
Yn gyntaf, mae poster mawr maint A2 hefo llun o bob un o’r hanner can record sengl cyntaf label Sain ar gael gan y cwmni, dim ond £5.00, cynnwys cludiant i’r D.U. Mi wnaeth Sain drydar “Chwilio am boster lliwgar i addurno’r ty?” wrth sôn am hyn.
Ac yn ail, rhyddhau 50 sengl 7 modfedd cyntaf Sain yn ddigidol! O’r record gyntaf, “Dwr” gan Huw Jones, hyd at “Diferion”, Y Gasgen. 179 o ganeuon i gyd – dros 10 awr a hanner o gerddoriaeth.
Os ydych ar Spotify, chwiliwch am y rhestr chwarae “Senglau Sain” I fwynhau oriau o gerddoriaeth o 1969 tan 1975. Ddim ar Apton ar y funud, er bod nifer o’r recordiau yno eisoes.
Rhestr Chwarae “Senglau Sain” ar Spotify
Ar BBC Cymru Fyw, fe gewch erthygl ddiddorol dan y teitl “Dafydd Iwan a Huw Jones: Hanner canrif o Sain“. Nifer o luniau o’r archif a dipyn go lew o hanes gwerth ei ddarllen.
Wedi i mi sôn am record saith modfedd gyntaf cwmni Sain ddoe, dwi am gyflwyno record hir gyntaf Sain heddiw.
Fe’i rhyddhawyd yn 1972, gyda’r teitl “Canu’r Werin”, a’r rhif catalog Sain H 1001 (mae’r lythyren yn dynodi graddfa pris y record, gallwch weld rhain yn y post am Catalog Cynnar Sain)
Baledau a chaneuon gwerin a geir ar y record hon, 17 ohonynt, gan Meredydd Evans, Côr Cynwrig, Myron Lloyd ac Elfed Lewis. Elinor Bennett ar y delyn, a Brian Hughes a Colin Jones yn cyfeilio ar y piano.
Mae llun lliw o’r Cnicht ar y clawr gan Ifor Owen. Cynlluniwyd gan Dafydd Iwan ei hun!
Darparwyd daflen pedair tudalen tu mewn, hefo nodiadau am yr artistiaid ar y dudalen gyntaf. Ar yr ail ceir nodiadau am y caneuon gan D. Roy Saer o Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Ceir gyfieithiad Saesneg o’r ddwy dudalen gyntaf yng ngweddill y daflen. Mae’r cyflwyniad ar gefn clawr y record hefyd yn ddwy-ieithog, sy’n awgrymu bod Sain o’r dechrau yn gweld bod marchnad i recordiau fel hyn ymhlith y di-Gymraeg a’r rhai nad oedd efallai yn hyderus i ddarllen Cymraeg adeg hynny.
Yn y cyflwyniad, mae Sain yn gobeithio y byddai’r record yn helpu trwytho ieuenctid y cyfnod yn y cyfoeth canu traddodiadol y werin Gymraeg. Siawns eu bod wedi llwyddo – mae Sain a’r diwydiant recordiau a cherddoriaeth Gymraeg “yma o hyd”.
Rhaglen ddiddorol gychwynnodd ar Radio Cymru bnawn Sul y 6ed o Hydref. Griff Lynch a Dyl Mei yn trafod hanes label SAIN trwy gyfrwng technoleg a thechnegau recordiau yr 50 mlynedd ddiwetha’.
Yn y rhaglen gyntaf, mae Dafydd Iwan a Huw Jones (dau o sylfaenwyr cwmni Sain), a Heather Jones yn trafod sut y bu i’r profiadau recordio eu caneuon cynnar i gwmni Teldisc arwain at sefydlu cwmni Sain yn y pen draw. Maent yn esbonio sut i’r adnoddau elfennol ac anhapusrwydd gyda safon y recordiau hynny helpu i’w perswadio bod angen symud ymlaen o’r hen drefn o recordio caneuon Cymraeg mewn neuaddau pentref ac ati gydag offer annigonol yn aml.
Fe fuont yn trio yn aflwyddiannus i berswadio Teldisc i fuddsoddi mewn adnoddau gwell, ond yn aflwyddiannus wedi marwolaeth John Edwards, perchennog cwmni Teldisc, yn 1966. Mae’n debyg i Huw a Dafydd drio prynu y cwmni hwnnw hefyd, ond heb lwyddiant.
Esboniant yn y rhaglen sut y bu benthyg £500 gan gyfaill i Huw a Dafydd, Brian Morgan Edwards, fod yn ran bwysig o sefydlu cwmni Sain. Ystafell yn nhy Brian yn swyddfa iddynt, a hwythau’n dibynnu ar brofiad Brian yn y byd busnes i gychwyn pethau ar fynd.
Dwr, gan Huw Jones, record gyntaf cwmni Sain
Recordiwyd y record gyntaf, “Dwr” gan Huw Jones mewn stiwdio yn Llundain, gyda Heather Jones yn canu’r llais cefndir, a Meic Stevens yn cynhyrchu a chwarae gitâr a melotron, Andy Lee ar y bâs a Nick Jones ar y tabla Indiaidd (swn y tabla yw’r swn cyntaf a glywir ar record gyntaf Sain!). Rhyddhawyd y record gyntaf hon yn 1969, trydedd record Huw Jones. Y ddwy gyntaf oedd “Cymru’r Canu Pop/Yr Alltud” (Teldisc PYC 5436, 1968) a “Dewch I Ganu/Y Ffoadur” (Teldisc WD 912, 1969).
Aiff Dyl Mei ymlaen i sôn am sut y bu iddo dracio lawr Nick Jones, y dyn fy’n chwarae’r tabla, i weld os oedd yn cofio y profiad. Mi fydd rhaid i chi wrando ar y rhaglen i glywed yr ateb!
Mae’r rhaglen hon ar gael ar BBC Sounds am bron i fis wedi’r darllediad cyntaf.